Angen cyrraedd Maes Awyr Caerdydd dair awr cyn taith
- Cyhoeddwyd
Dylai teithwyr sy'n defnyddio Maes Awyr Caerdydd gyrraedd yno dair awr cyn eu hamser gadael - dyna'r neges gan benaethiaid wrth i'r safle ailagor yn llawn.
Mae angen i gwsmeriaid sicrhau bod ganddynt yr holl waith papur angenrheidiol hefyd ymlaen llaw, gan gynnwys canlyniad prawf Covid PCR os oes angen.
Mae Llywodraeth Cymru, sy'n berchen ar y maes awyr, yn annog trigolion i fynd ar wyliau yng Nghymru'r haf hwn.
Dywed penaethiaid y maes awyr mai'r brif flaenoriaeth yw sicrhau diogelwch cwsmeriaid a staff.
Fel gyda'r rhan fwyaf o adeiladau cyhoeddus, mae nifer o fesurau diogelwch wedi eu cyflwyno ar y safle, gan gynnwys ymbellhau cymdeithasol, hylif diheintio a sgriniau plastig.
Ond mae rhybudd i deithwyr bod angen iddyn nhw sicrhau bod ganddyn nhw'r gwaith papur cywir i adael y DU.
Gallai hynny gynnwys prawf Covid PCR preifat.
"Mae diogelwch yn bwysig iawn i'r maes awyr," medd Dewi Gaylard, pennaeth technoleg gwybodaeth Maes Awyr Caerdydd.
"Ni'n neud yn si诺r bod yr amgylchedd iawn. Mae hyfforddiant wedi bod i'r timau fan hyn i neud yn si诺r fod nhw'n ymwybodol o'r safonau a'r prosesau i sicrhau fod pobol yn gallu mynd trwy'r maes awyr yn ddiogel."
"Hoffwn i ofyn i bobl i neud yn si诺r eu bod nhw'n ymwybodol am y prosesau cyn iddyn nhw droi lan i'r maes awyr, fod nhw'n ymchwilio'r gwledydd mae nhw'n hedfan i, i neud yn si诺r fod nhw'n ymwybodol o'r prosesau. Galle hwnna fod yn bapurau, yr arbrofion cywir cyn troi lan."
Mae rhai teithwyr, gan gynnwys Garry Tate, sy'n 81 oed, eisoes wedi cael eu siomi ar 么l peidio 芒 gallu teithio oherwydd y rheolau.
Yn 么l rhai arbenigwyr twristiaeth, gallai gymryd blynyddoedd i deithwyr ddychwelyd i feysydd awyr yn y niferoedd a welwyd cyn y pandemig.
Tra bod Maes Awyr Caerdydd yn disgwyl croesawu mwy o gwsmeriaid dros yr haf, mae nifer o deithwyr wedi gwneud penderfyniad i ohirio eu gwyliau yn 么l Nicola Davies o gwmni Nico Travel yn Llanrwst.
"Dwi 'di fod yn neud andros o lot o symud gwyliau o flwyddyn 2020 i 2021, a r诺an eto dwi'n symud nhw at 2022," meddai. "A hefyd ma' 'na dal andros o lot o refunds ishe dod yn 么l, a lot o gwmn茂au yn canslo holidays a flights."
"Ma' lot o gwsmeriaid wedi holi am aros ym Mhrydain blwyddyn yma, ddim yn teimlo'n gyfforddus mynd dramor.
"So dwi wedi bod yn bwcio'r rheina i aros mewn carafanau, neu cottages neu ddinasoedd o gwmpas Prydain ond ma'r pris wedi codi lot."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2021
- Cyhoeddwyd14 Mai 2021