Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Diwrnod prysur i wylwyr y glannau ar 糯yl y Banc
Dywed y Gwasanaeth Bad Achub (RNLI) a Gwylwyr y Glannau eu bod wedi bod yn brysur ar ddydd Llun G诺yl y Banc yng Nghymru wrth i'r tywydd braf ddenu nifer i'r traethau.
Ym Mae Cinmel ger Abergele bu'n rhaid achub merch wyth oed o'r m么r wedi iddi fynd yn rhy bell o'r lan ar ei 'inflatable'.
Mae Gwylwyr y Glannau yn annog pobl i beidio defnyddio dyfeisiadau aer tebyg ar draethau.
Ddydd Llun cofnodwyd y tymheredd uchaf eleni, a hynny wedi dechrau gwlyb iawn i fis Mai.
Dywed achubwyr bywyd yng Nghymru eu bod yn disgwyl haf prysurach na'r arfer.
Ddydd Llun hefyd bu'n rhaid i griwiau o Landrillo-yn-rhos helpu dyn oedd wedi disgyn oddi ar ei sgwter d诺r ac ar Ynys M么n bu'n rhaid i wasanaeth bad achub Bae Trearddur helpu dau berson mewn caiac wedi iddyn nhw fynd i drafferthion.
"Bu'n gyfnod prysur oherwydd y tywydd heulog," medd Michael Buratti - un o brif swyddogion Gwylwyr y Glannau.
"Rhaid i bobl fod yn ymwybodol bod y gwynt lleiaf yn gallu chwythu 'inflatables' i'r m么r - ac os yw'r cyfarpar yn troi a'r person yn ceisio nofio i'r lan mae hynny yn gallu arwain at ganlyniadau echrydus."