Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ymwelwyr yn 'dal i ddangos diffyg parch' tuag at Eryri
Mae perchennog caffi ar Yr Wyddfa yn dweud fod ymwelwyr yn dal i ddangos diffyg parch llwyr tuag at Eryri.
Daw ei sylwadau ar drothwy un o benwythnosau prysura'r flwyddyn i'r diwydiant twristiaeth.
Mae Parc Cenedlaethol Eryri, ynghyd 芒'r heddlu a'r cynghorau lleol, yn galw ar bobl i ymddwyn yn briodol dros y penwythnos, gan ddweud bod y pwysau ychwanegol ar yr holl wasanaethau yn rhoi "straen ar ein hadnoddau a chymunedau".
Mae tua 600,000 o bobl yn dringo copa uchaf Cymru, yng nghalon parc cenedlaethol hynaf Cymru, bob blwyddyn, ond nid yw rhai yn mynd 芒'u sbwriel adref.
Dywed awdurdod y Parc Cenedlaethol bod pyllau t芒n, offer gwersylla, sigar茅ts a hyd yn oed gwastraff dynol ymhlith rhai o'r pethau a gafodd eu gadael ar 么l gan ymwelwyr.
Yr Wyddfa, Cader Idris a Dyffryn Ogwen sy'n ei chael hi waethaf o ran y sbwriel sy'n cael ei adael gan ymwelwyr.
Cafodd fideo gan berchennog y caffi ar yr Wyddfa, Alwena Jones, gryn sylw y llynedd ar y cyfryngau cymdeithasol, yn dangos dyn yn defnyddio drws y caffi fel toiled.
Yn 么l Ms Jones mae'r broblem honno, a'r un sbwriel, yn gwaethygu.
"Mae 'na fwy o bobl yn dod i gerdded, ac maen nhw'n dod 芒 phecynnau bwyd efo nhw, yn boteli plastig, yn focsys pasta, bisgedi - pob dim," meddai.
"Maen nhw'n cael eu picnic tu allan ar ochr y llwybr neu yn y cae, ac maen nhw'n un ai disgwyl i ni gymryd eu sbwriel neu maen nhw jest yn gadael nhw lle maen nhw.
"Dwi 'di gweld trays barbeciw a hyd yn oed potel gyfan o sos coch - jest wedi gadael hi yn gobeithio neith rhywun arall... neu dio ddim ots ganddyn nhw."
Yn 么l Ms Jones mae'n rhaid dysgu pobl beth sy'n gywir a beth sydd ddim yn dderbyniol.
"Dwi'm yn gwybod sut gyflwr sydd ar eu cartrefi nhw - 'sa gas gen i feddwl os ydyn nhw'n bihafio fel hyn adre," meddai.
"Mae'n bechod achos mae'r amgylchedd maen nhw 'di d诺ad iddo fo mor brydferth, a nhw sydd yn ei sboelio hi."
"Mae sbwriel 'di bod yn broblem," meddai Dana Williams, swyddog twristiaeth cynaliadwy gyda'r parc cenedlaethol.
"Dydy o ddim yn broblem newydd i'r parc, a 'da ni wedi gweld cynnydd mewn sbwriel dros y flwyddyn ddiwetha'.
"Ond hefyd 'da ni wedi gweld nifer y bobl sy'n dod o gynulleidfa newydd yn dod i'r parc - pobl sydd ddim fel arfer yn ymweld 芒 chefn gwlad ac ella sydd ddim mor gyfarwydd 芒'r c么d cefn gwlad er enghraifft, a hefyd ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl pan yn ymweld 芒'r parc - er enghraifft bo' 'na lai o finiau o gwmpas i gael gwared ar dy wastraff, a bo' ni'n annog pobl i fynd 芒'u gwastraff adref gyda nhw."
Holi pam
Yn y gobaith o geisio mynd i'r afael a'r broblem mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gobeithio y bydd ymwelwyr yn dweud pam y gwnaethant hynny mewn arolwg ar-lein.
"Da ni wedi gweithio gyda Phrifysgol Bangor i greu yr arolwg i ofyn y cwestiynau iawn i bobl, a 'da ni 'di neud yr arolwg yn anhysbys hefyd i bobl teimlo'n fwy cyfforddus i ateb y cwestiynau yn onest efo ni," meddai Ms Williams.
"Er enghraifft, 'da ni 'di gweld yn barod bod pobl yn cyfaddef at adael sbwriel, er enghraifft gwastraff bwyd ar eu holau nhw gan bo' nhw'n meddwl ei fod e'n biodegradable."
"Ond y broblem yw efo gwastraff bwyd - yn enwedig ar y mynyddoedd lle mae o'n cymryd mwy o amser i bydru oherwydd y tymereddau isel - 'di pobl ddim yn deall bo' 'na dal effaith negyddol ar fywyd naturiol ac ar edrychiad yr ardal."
'Angen dilyn y rheolau'
Yn 么l partneriaid, gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, cynghorau lleol a heddlu'r gogledd, maen nhw wedi rhoi cynlluniau mewn lle er mwyn rheoli problemau parcio, sbwriel a gwersylla anghyfreithlon dros dymor yr haf.
"Mae mwy o ymwelwyr yn anochel yn golygu mwy o geir, mwy o sbwriel a mwy o wersylla anghyfreithlon gyda'r awdurdodau yn annog y cyhoedd i barchu'r trefniadau i osgoi'r angen am gamau gorfodaeth", meddai'r bartneriaeth mewn datganiad.
"Mae cymaint o bwysau ychwanegol yn rhoi straen ar ein hadnoddau a chymunedau a thrwy gydweithio rydym am leihau cymaint o'r sgil effeithiau negyddol a phosib a gwneud y mwyaf o'r rhai positif."
Dywedodd Emyr Williams, prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: "Rydym angen cofio bod Eryri yn ardal warchodedig ble mae pobl yn byw ac yn gweithio.
"Dros 糯yl y Banc mi fydd gwirfoddolwyr APCE a Chymdeithas Eryri allan eto'n codi sbwriel ac yn cynnig cefnogaeth i ymwelwyr wneud y penderfyniadau gorau er mwyn iddynt gael yr amser gorau posib yma."
'Bod yn gyfrifol'
Ychwanegodd yr Uwch-arolygydd Neil Thomas o Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym yn gwerthfawrogi bod llawer o bobl am fwynhau penwythnos G诺yl y Banc a'r tywydd braf a ragwelir, ond mae'n hanfodol nad yw teithio i'r ardaloedd hyn yn cael effaith andwyol ar eraill.
"Felly rydym unwaith eto yn annog unrhyw un sy'n ystyried ymweld ag ardaloedd fel Eryri i fod yn gyfrifol a meddwl am ble maent yn parcio, ac i wneud defnydd llawn o'r cyfleusterau parcio a theithio sydd ar gael.
"Bydd cerbyd unrhyw un sy'n parcio ar y ffordd neu'n achosi rhwystr yn cael ei symud ar ei gost ei hun.
"Bydd patrolau'n parhau drwy gydol penwythnos g诺yl y banc a byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod y rheolau'n cael eu dilyn."