Ailethol Mark Drakeford yn Brif Weinidog, Elin Jones yn Llywydd y Senedd

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Mark Drakeford ei enwebu'n ddiwrthwynebiad fel prif weinidog ddydd Mercher

Mae'r Senedd wedi ailymgynnull brynhawn Mercher am y tro cyntaf ers yr etholiad.

Mae Elin Jones wedi cael ei hailethol yn Llywydd, er i'r AS Ceidwadol, Russell George ei herio.

Enillodd Ms Jones y bleidlais o 35-25.

AS Aberafan, David Rees yw'r Dirprwy Lywydd ar 么l trechu ei gyd aelod Llafur, AS Caerffili, Hefin David.

Cafodd arweinydd Llafur Cymru, Mark Drakeford, ei enwebu ar gyfer r么l y prif weinidog, ar 么l i'w blaid ennill 30 o'r 60 sedd ym Mae Caerdydd, a hynny'n ddi-wrthwynebiad.

Bydd gofyn i'r Frenhines gymeradwyo'r enwebiad cyn i Mr Drakeford gael ei ailbenodi'n swyddogol i'r swydd.

Yn unol 芒 chyfyngiadau Covid-19, bydd 20 aelod yn cael eistedd yn y siambr gyda'r 40 sy'n weddill yn cymryd rhan drwy gyswllt fideo o'u swyddfeydd yn yr adeilad drws nesaf.

I 19 o'r aelodau newydd a etholwyd yr wythnos diwethaf, dyma fydd eu blas cyntaf o waith y Senedd.

Disgrifiad o'r llun, Mae Elin Jones yn parhau fel Llywydd y Senedd

Mae'r Llywydd yn gweithredu fel pennaeth y Senedd, gan gadeirio cyfarfodydd yn y siambr.

Wedi pleidlais ddirgel, cafodd Elin Jones, fu'n Llywydd drwy gydol tymor diwethaf y Senedd, ei hethol, o 35 pleidlais i 25, ar 么l cael ei henwebu gan yr Aelod Llafur, Lynne Neagle, a'i chyd-aelod Plaid Cymru, Sian Gwenllian.

Dywedodd AS Ceredigion ei bod eisiau "cryfhau'r craffu ar y llywodraeth" a sicrhau cyfleoedd gwell i aelodau o bob plaid gyfrannu o'r meinciau cefn.

Ychwanegodd bod y chweched Senedd "yn teimlo'n gryf ac yn gadarn, gyda phawb sydd wedi eu hethol yn cefnogi bodolaeth ein senedd genedlaethol", a bod mwyafrif yr aelodau'n dymuno mwy o rymoedd i'r Senedd.

Disgrifiad o'r llun, Methodd Russell George 芒 chael ei ethol yn Llywydd Ceidwadol Cyntaf yn hanes datganoli

Cafodd Russell George ei enwebu gan ei gyd-aelod Ceidwadol Laura Jones a'r AS Llafur, Alun Davies.

Gan gyfeirio at y ffaith nad fu'r un Llywydd Ceidwadol yn hanes datganoli yng Nghymru, dywedodd: "Rhaid i'r Senedd yma fod yn fwy cynhwysol, yn enwedig gan mai ni yw'r brif wrthblaid amlwg yn y siambr hon."

Gan addo i drin aelodau'n "gyfartal ac yn deg", a chynnal "annibyniaeth egn茂ol wrth ddelio gyda materion", dywedodd y byddai'n parchu safbwyntiau aelodau ar newidiadau etholiadol.

Ychwanegodd: "Ni wnaf atal newid, ond ni fyddaf 'ychwaith yn gyrru'r newid hwnnw."

Disgrifiad o'r llun, David Rees sy'n olynu'n cyn AS Llafur Ann Jones fel Dirprwy Lywydd

Cafodd David Rees ei ethol yn Ddirprwy Lywydd o 35 pleidlais i 24.

Cafodd ei enwebu gan ei gyd aelod Llafur, Joyce Watson a'r Aelod Plaid Cymru, Llyr Gruffydd, a dywedodd ei fod eisiau gwella'r senedd "i sicrhau y gallai graffu ar y llywodraeth yn effeithiol".

Ychwanegodd: "Gall sicrhau ei bod yn herio'r llywodraeth pan mae'n cael pethau'n anghywir, a'i chanmol pan maen nhw'n cael pethau'n gywir."

Disgrifiad o'r llun, Hefin David oedd yr ail ymgeisydd i fod yn Ddirprwy Lywydd

Roedd Mr David, a gafodd ei enwebu gan yr AS Llafur Dawn Bowden a'r Ceidwadwr Laura Jones wedi awgrymu taw ef oedd 芒'r cyfle "gorau" i gael consensws ynghylch diwygio'r Senedd, gan gyfeirio at adroddiad sy'n galw am gael mwy o aelodau.

"Yr unig ffordd rydym am gael yr adroddiad yna'n 么l ar yr agenda yw i ni gynnal y drafodaeth ar draws y siambr, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n cynnwys pob gr诺p," meddai.

Pwysleisiodd hefyd bod "rhaid i bob un llais yn y siambr yma gael ei glywed".

Roedd Alun Davies o'r Blaid Lafur wedi datgan awydd i geisio am r么l y dirprwy lywydd, ac roedd John Griffiths a Joyce Watson hefyd wedi eu crybwyll fel ymgeiswyr posib.

Mae arweinydd y gr诺p Ceidwadol, Andrew RT Davies, wedi dweud y byddai cael Llywydd neu Ddirprwy Lywydd o'r Ceidwadwyr yn "ffordd synhwyrol" i adeiladu consensws.

Mae gofyn i'r naill swydd neu'r llall fod yn aelod o'r blaid sy'n llywodraethu.

Bydd ei blaid yn dal 16 sedd yn y Senedd newydd, ar 么l ennill pum sedd ychwanegol yn yr etholiad o'i gymharu 芒 chanlyniad 2016.

Enillodd Plaid Cymru un sedd ychwanegol yr wythnos ddiwethaf o'i gymharu 芒 2016, gan ddod 芒 chyfanswm newydd y blaid i 13.

Bydd y sedd olaf yn perthyn i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds.