Covid-19: Pryd fydd cefnogwyr yn cael dychwelyd yng Nghymru?
- Cyhoeddwyd
Mae bron yn flwyddyn a hanner ers i d卯m p锚l-droed Cymru chwarae g锚m gartref o flaen eu cefnogwyr, Y Wal Goch.
Buddugoliaeth o 2-0 dros Hwngari oedd y g锚m honno, i sicrhau lle Cymru yn Euro 2020.
Ond oherwydd coronafeirws, cafodd y gystadleuaeth ei gohirio tan yr haf yma - ac mae stadiymau p锚l-droed Cymru'n dal i fod yn wag.
Felly pryd fydd torfeydd yn cael dychwelyd?
Digwyddiadau peilot
Mae ambell i g锚m yn Lloegr wedi croesawu cefnogwyr yn 么l, gan gynnwys rownd derfynol Cwpan y Gynghrair ddydd Sul diwethaf, lle roedd yna 8,000 yn Wembley i wylio Manchester City yn curo Tottenham.
Mae gemau ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd hefyd wedi cynnwys torfeydd cyfyngedig yn y Crucible yn Sheffield.
Yng Nghymru, mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud ei fod e'n gobeithio y bydd cefnogwyr yn dychwelyd i stadiymau chwaraeon yn yr haf, ac mae yna gynlluniau i arbrofi efo digwyddiadau 'peilot' fis nesaf.
Does yr un cefnogwr wedi bod mewn stadiwn p锚l-droed yma ers dechrau'r argyfwng Covid-19, ac mae rheolwr Uwch Gynghrair Cymru, Gwyn Derfel, yn gobeithio bydd hynny'n newid yn fuan.
"Heb gefnogwyr, dydy o ddim yn b锚l-droed i bob pwrpas," meddai.
"Felly gobeithio'n wir efo'r cyfyngiadau yma'n llacio, byddan ni'n cael cefnogwyr yn 么l yn fuan iawn.
"Mae'n dibynnu'n llwyr ar y llywodraeth. 'Da ni wedi bod yn cysylltu yn wythnosol efo Llywodraeth Cymru a 'da ni wedi cydweithio ond 'da ni heb gael be 'da ni wedi bod yn gofyn amdano.
"'Da ni jest yn gobeithio r诺an, ar gyfer tymor nesaf, y byddan ni'n dal i barhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru gan bwysleisio'r elfen ariannol ond hefyd yr elfen gymdeithasol sy'n hollbwysig hefyd."
Mae'r baich wedi ei deimlo ledled byd y campau yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae clybiau proffesiynol a chyrff rheoli wedi dioddef yn ariannol, tra bod cymunedau ar hyd y wlad wedi dioddef yn gymdeithasol heb chwaraeon amatur.
Rygbi, p锚l-droed a chriced yw rhai o'r campau sy'n gobeithio bod yn rhan o'r digwyddiadau peilot fis nesaf, ac mae Clwb Criced Morgannwg wedi gwirfoddoli i gynnal rhai ohonyn nhw.
'Normalrwydd yn dechrau dychwelyd'
"Ar 么l i'r pandemig ganslo cymaint o gemau criced y flwyddyn ddiwethaf, ac atal unrhyw gefnogwyr rhag gwylio'r rhai oedd wedi mynd ymlaen, bydd dilynwyr Morgannwg yn gobeithio dychwelyd i Erddi Sophia cyn bo hir," meddai Ffion Wynne, cricedwr i Gymru a gohebydd gydag adran Chwaraeon 91热爆 Cymru.
"Mae pedwaredd g锚m Morgannwg heb wylwyr yn dechrau ddydd Iau, ond mae dal digon o griced ar 么l yn y calendr, yn enwedig y gystadleuaeth Can Pelen [The Hundred] sy'n dechrau fis Gorffennaf - twrnament newydd ar gyfer dynion a menywod sy'n cynnwys rhai o s锚r mwyaf y byd.
"Cafodd y gystadleuaeth ei chanslo llynedd felly bydd pawb yn gobeithio y bydd cefnogwyr newydd a pharhaol yn cael eu caniat谩u i wylio yn y stadiwm.
"Mae clybiau criced yn edrych ymlaen at eu gemau cyntaf yng Nghymru'r penwythnos yma hefyd, felly ar gyfer cefnogwyr a chwaraewyr, mae'n teimlo fel bod tipyn bach o normalrwydd yn dechrau dychwelyd."
Beth am Euro 2020?
Mae'n haf arwyddocaol i b锚l-droed hefyd, wrth i Gymru baratoi am bencampwriaeth Euro 2020.
Bydd yna dorfeydd cyfyngedig yn eu gemau gr诺p yn Baku a Rhufain, ond dyw hi dal ddim yn glir faint o gefnogwyr o Gymru - os unrhyw gefnogwyr o gwbl - fydd yn cael teithio yno.
Cyn hynny, mae yna le i gredu bod Cymdeithas B锚l-droed Cymru yn gobeithio y bydd y g锚m gyfeillgar yn erbyn Albania ar 5 Mehefin ymhlith y digwyddiadau 'peilot' lle fydd Llywodraeth Cymru yn caniat谩u rhywfaint o gefnogwyr i fod yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Byddai hynny'n gysur i'r t卯m cyn iddyn nhw ddechrau eu hymgyrch Euro 2020 ar hyd y cyfandir, ac yn llygedyn o obaith y bydd y Wal Goch yn 么l yn barhaol - ac yn ei chyfanrwydd - cyn hir.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd8 Mai 2020
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2020