Rheolwr Cymru Ryan Giggs yn gwadu ymosod ar ddwy ddynes
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr p锚l-droed Cymru, Ryan Giggs, wedi pledio'n ddieuog i ymosod ar ddwy ddynes.
Ymddangosodd Giggs, 47, o flaen llys ym Manceinion wedi'i gyhuddo o achosi niwed corfforol i'w gyn-gariad, Kate Greville, 36, ac ymosod ar ei chwaer hi, Emma Greville, yn Salford ym mis Tachwedd.
Mae cyn-seren Manchester United hefyd wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o ymddwyn mewn modd oedd yn rheoli drwy orfodaeth rhwng Rhagfyr 2017 a Thachwedd 2020.
Fe ymddangosodd yn Llys Ynadon Manceinion i gadarnhau ei gyfeiriad a'i ddyddiad geni, cyn i'r cyhuddiadau gael eu cyflwyno iddo.
Mae dogfennau gafodd eu cyflwyno i'r llys yn honni iddo ymddwyn mewn modd oedd yn rheoli drwy orfodaeth gan gynnwys ymddwyn "yn dreisgar, ynysu, bychanu, gwaradwyddo, harasio ac iselhau".
Honnodd Andrea Griffiths, ar ran yr erlyniad fod y cyn b锚l-droediwr wedi taro un ddynes gyda'i ben ar 1 Tachwedd 2020 a bod hyn ar 么l bod yn yfed.
Cafodd Giggs ei ryddhau ar fechn茂aeth ar yr amod nad oedd yn cysylltu gyda'r ddwy ddynes sydd ynghlwm 芒'r achos.
Fe fydd yr achos llawn yn cael ei glywed yn Llys y Goron Manceinion ddiwedd Mai.
Roedd Giggs eisoes wedi dweud mewn datganiad ei fod yn ddieuog o'r cyhuddiadau a'i fod yn "edrych ymlaen at glirio fy enw".
Yn y cyfamser, mae Cymdeithas B锚l-droed Cymru wedi dweud mai Robert Page fydd wrth y llyw i Gymru yn ystod Euro 2020 yr haf hwn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2021