Teleri Wyn Davies: 'Gwireddu breuddwyd Dad'
- Cyhoeddwyd
Mae t卯m rygbi merched Cymru'n wynebu'r Alban ddydd Sadwrn 24 Ebrill, gan obeithio adfer rhywfaint ar beth sydd wedi bod yn dymor siomedig hyd yma.
Un fydd mewn crys coch ar y cae brynhawn Sadwrn yn Stadiwm Scotstoun, Glasgow, fydd y chwaraewr 23 oed o'r Bala, Teleri Wyn Davies.
Mae rygbi wedi chwarae rhan anferthol ym mywyd Teleri ers yn blentyn, esboniai'r gohebydd chwaraeon, Catrin Heledd:
Ddydd Sadwrn fe fydd Teleri Wyn Davies yn ennill ei phedwerydd cap dros Gymru wrth i'r crysau cochion herio'r Alban yn eu gem ola' ym Mhencampwriaeth y 6 Gwlad. Ar 么l colli yn erbyn Ffrainc ac Iwerddon - osgoi gorffen ar waelod y tabl yw'r nod i d卯m Warren Abrahams.
I'r clo 23 oed o'r Bala mae cynrychioli Cymru yn dipyn o anrhydedd ond y tu hwnt i'r balchder personol mae 'na ddigwyddiad trasig o'r gorffennol sy'n ei hysgogi i gyrraedd y brig.
Bedair blynedd ar ddeg yn 么l i'r wythnos, fe gafodd bywyd Teleri a'i theulu ei droi ben ei waered, wrth i'w tad Bryan 'Yogi' Davies gael anaf ar y cae rygbi yn ei g锚m ola' un i'r Bala. Fe gafodd ei barlysu mewn sgrym ac yn 2013 - chwe blynedd yn ddiweddarach - bu farw.
Er bod Teleri ei hun wedi ystyried rhoi'r gorau i'r gamp mae un sgwrs gafodd gyda'i thad tra ei bod hi yn ei harddegau yn aros yn y cof. Pe bai e'n cael y cyfle i wneud un peth eto, fe fyddai'n chwarae rygbi, y g锚m roedd e'n ei garu gymaint.
Er bod ei pherthynas a'r b锚l hirgron ar adegau wedi bod yn un heriol, mae hi nawr yn awyddus i selio ei lle yng ngharfan Warren Abrahams gyda Chwpan y Byd yn Seland Newydd ar y gorwel y flwyddyn nesaf.
Hefyd o ddiddordeb: