Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Opera Cenedlaethol Cymru'n dathlu pen-blwydd yn 75
Mae cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn dathlu ei ben-blwydd yn 75 oed ddydd Gwener ac mae s锚r Cymru wedi yn dod ynghyd i nodi'r achlysur.
Mae'r cwmni wedi gwneud recordiad o gerdd ar fideo sy'n cynnwys nifer o leisiau enwocaf Cymru, gan gynnwys Syr Gareth Edwards, y Farwnes Tanni Grey Thompson, Catrin Finch, Caryl Parry Jones, y gantores opera Rebecca Evans, a'r actorion o Gymru y Fonesig Si芒n Phillips, Mark Lewis Jones a Rakie Ayola ynghyd 芒 Syr Bryn Terfel.
Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys ffilm pen-blwydd OCC yn 75 oed gan gynnwys perfformiad newydd o Emyn y Pasg gan Gorws a Cherddorfa OCC.
Mae OCC yn dathlu 75 mlynedd ers ei berfformiad cyntaf fel cwmni opera, sef sioe ddwbl o Cavalleria Rusticana a Pagliacci yn Theatr Tywysog Cymru, Caerdydd, ar 15 Ebrill 1946.
I nodi'r pen-blwydd arbennig, mae'r cwmni wedi cyhoeddi cerdd sydd wedi cael ei chomisiynu'n arbennig gan y cwmni gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn.
Mae'r gerdd, Intermezzo, yn myfyrio ar wreiddiau'r Cwmni a'i weddnewidiad i'r cwmni opera byd-enwog ydyw heddiw.
Mae'r gerdd hefyd yn edrych ar y sefyllfa bresennol y mae'r holl sefydliadau celfyddydol yn ei hwynebu, yn methu 芒 pherfformio ar hyn o bryd, ac mae'n rhoi gobaith am 'lwyfan mwy disglair' yn y dyfodol.
Mae dwy fersiwn - un yn Gymraeg, ac un yn Saesneg - o'r gerdd wedi cael eu hysgrifennu, recordio a rhyddhau fel ffilmiau.
Yn ogystal 芒'r gerdd, bydd WNO hefyd yn rhyddhau fersiwn newydd ei recordiad o Emyn y Pasg o Cavelleria Rusticana a berfformir gan gorws a cherddorfa enwog OCC fel rhan o'r dathliadau pen-blwydd.
Y cerddor o Ferthyr, Idloes Owen a gafodd y syniad gwreiddiol o sefydlu cwmni opera cenedlaethol i Gymru yn 1943 ac arweiniodd gr诺p o gerddorion amatur o bob cefndir yn cynnwys glowyr, athrawon a meddygon, i ddod ynghyd drwy eu hangerdd at gerddoriaeth a chanu.
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru mewn capel yn Heol y Crwys, Caerdydd, a chynhaliwyd yr ymarferion Corws cyntaf uwchben ystafell arddangos ceir.
Arweiniodd Idloes Owen berfformiadau cyntaf WNO yn 1946 a pharhaodd yn gyfarwyddwr cerddorol y cwmni tan ei farwolaeth yn 1954.
Un sydd wedi canu gyda'r cwmni, ac sydd bellach ar fwrdd cyfarwyddwyr Opera Cenedlaethol Cymru yw Elen ap Robert.
Dywedodd: "Mae edrych yn 么l yn bwysig... i'r camau cyntaf hynny pan gafodd Idloes Owen o Ferthyr Tudful y syniad gwreiddiol o sefydlu cwmni opera cenedlaethol.
"A fynte ochr yn ochr ag eneidiau hoff gyt没n - yn athrawon, yn ddoctoriaid, yn lowyr - i gyd yn teimlo yr un peth sylfaenol yna... bod cerddoriaeth yn gallu trawsnewid ein bywydau ni ac yn peri angerdd dwfn i ni yma yng Nghymru yn enwedig.
"Roedd hynny'n sbardun i sefydlu rhywbeth fyddai'n werthfawr iawn, nid yn unig i gymunedau yma yng Nghymru, ond y tu hwnt i Gymru a dros y byd i gyd erbyn hyn."
Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol OCC, Aidan Lang, fod y pandemig "yn profi i fod yn amser anodd i bawb ac i'r celfyddydau ar y cyfan".
"Ond mae'n rhaid i ni gofio y bu i WNO ddod i'r amlwg am y tro cyntaf yn ystod argyfwng byd-eang; yr Ail Ryfel Byd.
"Mae ysbryd a gweledigaeth Idloes Owen yn parhau drwy'r cwmni, ac rydym yn hyderus o hyd y byddwn yn dod allan o'r argyfwng hwn yn gryfach ac yn edrych tua'r dyfodol gyda gobaith ac optimistiaeth."
Mae Intermezzo ac Emyn y Pasg ar gael i'w gwylio ar wefan WNO a sianeli cyfryngau cymdeithasol OCC.