Ffonau symudol yn achosi stopio opera yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth arweinydd opera yng Nghaerdydd, nos Sadwrn, stopio'r perfformiad ddwywaith wedi i ffonau symudol ganu ymhlith y gynulleidfa.
Roedd Carlo Rizzi yn arwain cynhyrchiad newydd Opera Cenedlaethol Cymru o Les V锚pres Sicilienes gan Verdi yn Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan y Mileniwm.
Dywedodd aelodau o'r gynulleidfa bod Rizzi wedi stopio'r perfformiad ddwywaith a'i fod wedi dweud wrthynt cymaint oedd s诺n y ffonau yn amharu ar y perfformiad.
Mae opera Verdi wedi'i seilio ar ddigwyddiadau yn Sicily yn 1282.
'Anghyffredin'
Roedd y gantores Sian Meinir yn perfformio yn yr opera ac wrth siarad 芒 Cymru Fyw dywedodd: "Roeddwn i yng nghefn llwyfan ar y pryd ac roedd yna gryn gyffro wedi i'r perfformiad gael ei stopio ddwywaith.
"Mae'n rhywbeth anghyffredin iawn, ond roedd y perfformwyr a'r gynulleidfa yn cefnogi'r arweinydd - mae o'n arweinydd uchel iawn ei barch. Mae o'n gorfod canolbwyntio ar gymaint o bethau gwahanol ac fe wnaeth y gynulleidfa gymeradwyo ei benderfyniad i stopio'r perfformiad."
Mae'r opera sy'n cael ei chanu gan Opera Cenedlaethol Cymru yn cael ei chyfarwyddo gan Syr David Pountney.
Nid dyma'r tro cyntaf i ffonau symudol achosi cynnwrf mewn perfformiad byw.
Yn 2013 fe wnaeth y pianydd Krystian Zimerman adael cyngerdd yn yr Almaen am fod rhywun yn ffilmio ei berfformiad ar ff么n clyfar.
Y llynedd dywedodd y gantores Madonna y byddai hi'n gwhardd ffonau symudol o'i gigs yn y dyfodol.
Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cadarnhau bod "seibiannau byr" wedi digwydd yn ystod perfformiad nos Sadwrn a bod Rizzi wedi siarad 芒'r gynulleidfa wedi i ff么n symudol ganu yr eildro.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2016