Trydydd brechlyn Covid yn cael ei gyflwyno yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Trigolion yn Sir Gaerfyrddin yw'r rhai cyntaf yn y DU i dderbyn trydydd math o frechlyn Covid-19 a gafodd ei gyflwyno ledled Cymru ddydd Mercher.
Elle Taylor, 24 oed o Rydaman, sy'n gweithio yng ngholeg addysg bellach Llanelli ac sy'n gofalu am ei mam-gu, oedd y person cyntaf i gael y brechlyn.
Wedi iddi gael y brechlyn yn Ysbyty Glangwili dywedodd ei bod yn "teimlo'n hapus ac yn gyffrous".
"Rwy'n ofalwr di-d芒l ac mae'n bwysig iawn fy mod yn cael brechlyn er mwyn gofalu am mam-gu yn iawn ac yn ddiogel."
Ychwanegodd Miss Taylor ei bod wedi cael gwybod nos Fawrth mai hi fyddai'r person gyntaf ym Mhrydain i gael brechlyn Moderna.
Cafodd y brechlyn Moderna ei gymeradwyo gan y rheoleiddiwr fel un diogel ac effeithiol ym mis Ionawr ar 么l treialon clinigol.
Cyrhaeddodd y cyflenwadau Gymru ddydd Mawrth, ac anfonwyd 5,000 o ddosau i ganolfannau brechu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mae'r dosau cyntaf yn cael eu rhoi yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin.
Mae'r DU wedi archebu 17m dos o'r brechlyn Moderna.
Cadarnhaodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, eu bod wedi derbyn eu swp cyntaf.
Y pigiad yw'r trydydd o saith brechlyn y mae'r DU wedi'u harchebu.
Fel gyda brechlynnau Pfizer/BioNTech ac AstraZeneca mae'r brechlyn Moderna yn frechlyn dau ddos sy'n cael eu rhoi o fewn cyfnod o rhwng pedair a 12 wythnos.
Yng Nghymru, mae mwy na 1.49m o bobl (47.4% o'r boblogaeth) wedi cael dos cyntaf, tra bod mwy na 469,000 o bobl wedi cael y ddau ddos.
Ond mae disgwyl i gyflenwadau brechlyn Covid y DU gael eu gohirio gan "hyd at bedair wythnos" ym mis Ebrill ac mae Cymru yn disgwyl cael 250,000 yn llai o ddosau pigiad AstraZeneca.
Mae prif fferyllydd Cymru, Andrew Evans, wedi dweud ei fod yn gobeithio y bydd cyflwyno'r brechlyn Moderna yn helpu i wneud iawn am y diffyg.
Ond rhybuddiodd Nicola Sturgeon nad yw'r cyflenwad gan Moderna yn golygu y bydd y rhaglen frechlyn yn cyflymu yn Yr Alban.
'Para'n hir a hawdd ei gludo'
Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Rydym yn falch iawn o allu cael y brechlyn Moderna i'w ddefnyddio ar draws gorllewin Cymru.
"Byddwn yn defnyddio'r brechlyn newydd hwn, ochr yn ochr 芒 brechlyn Rhydychen Astra-Zeneca, i barhau i ddarparu'r rhaglen frechu i'n cymunedau yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
"Rydym yn hynod ffodus o gael trydydd brechlyn yng Nghymru - un sy'n para'n hir ac sy'n hawdd ei gludo - i'n helpu i ddarparu'r rhaglen frechu i glinigau bach ar draws ein cymunedau gwledig."
Dadansoddiad Huw Thomas - Gohebydd
Mae brechlyn Moderna yn arf newydd yn y frwydr yn erbyn coronafeirws.
Erbyn hyn rydyn ni'n gyfarwydd 芒'r cynllun i gynnig brechiad i bob oedolyn erbyn diwedd mis Gorffennaf, ac mi fydd Moderna yn gymorth i gyrraedd y targed.
Mae'r ffaith fod brechlyn Moderna yn ddiogel i'w ddosbarthu am rai wythnosau ar 么l symud o'r rhewgell yn gwneud hi'n haws i'w ddefnyddio mewn ardaloedd gwledig ble mae'r boblogaeth ar wasgar.
Gofalwyr di-d芒l oedd y cyntaf i gael brechlyn Moderna ddydd Mercher ac erbyn yr haf mi fydd y brechlynnau gwahanol wedi cyfrannu at y broses o ddatgloi ein cymdeithas a llacio gafael y pandemig ar ein bywydau.
Ymateb gwleidyddol
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod trydydd brechlyn i'w ddefnyddio yng Nghymru "yn ychwanegu'n sylweddol" at amddiffynfeydd y genedl yn erbyn Covid-19.
"Mae pob brechlyn a roddir i rywun yng Nghymru yn fuddugoliaeth fach yn erbyn y feirws a byddem yn annog pawb i fynd am eu brechlyn pan gawn nhw eu gwahodd," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Mae penderfyniad llywodraeth y Ceidwadwyr [DU] i fynd ar ei ben ei hun wedi ei gyfiawnhau'n llawn 芒 chanlyniadau rhyfeddol rhaglen frechu Prydain, ac fe fydd cyflwyno brechlyn Moderna, a weinyddir gan ein GIG a gwirfoddolwyr rhagorol, ond yn rhoi hwb i'n gallu i amddiffyn pobl Cymru ac adfer ein rhyddid."
Dywedodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru fod y trydydd brechlyn yn "newyddion i'w groesawu" i'r rhai sy'n aros am apwyntiad brechlyn.
"Rhaid i flaenoriaeth Cymru fod i gyflwyno'r brechlynnau hyn er mwyn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael eu brechu mor gyflym a diogel 芒 phosib," ychwanegodd llefarydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2021