Trefnu gwyliau dramor 'yn gymhleth' eleni
- Cyhoeddwyd
Mae rhai cwmn茂au teithio wedi dweud na fyddan nhw'n cynnal unrhyw dripiau tramor eleni - hyd yn oed os bydd caniat芒d i wneud hynny.
Mae yna o leiaf mis i'w ddisgwyl nes y bydd Llywodraeth y DU yn caniat谩u i bobl deithio dramor am wyliau.
Ond dywedodd un cwmni bysus yn Sir Ddinbych, sydd fel arfer yn cynnig gwyliau ar y cyfandir, na fyddan nhw'n rhedeg unrhyw dripiau tramor eleni.
Dywedodd Voel Coaches, ger Prestatyn, fod cwmn茂au bysus eraill ledled y DU yn gwneud yr un penderfyniad.
'Ni allwn ni fforddio'r risg'
"Waeth be' sy'n digwydd y tro hwn, ni fyddwn ni'n newid ein meddwl," meddai Chris Gentile, rheolwr marchnata'r cwmni.
"Pe bai'r llywodraeth wedi bod yn glir iawn yn eu harweiniad o'r diwrnod cyntaf, gallai pethau wedi bod yn wahanol.
"Ond rydyn ni'n clywed gwahanol bethau - mae'n newid yn ddyddiol. Ni allwn ni fforddio'r risg fel cwmni."
Mae gan Voel fflyd o 38 o fysus ac fel rheol, yn ystod tymor yr haf, byddai tua hanner o'r gwyliau y maen nhw'n eu cynnig yn cynnwys teithiau i'r cyfandir.
'Nid yw'n gwneud synnwyr i ni'
Ond dywedodd Mr Gentile y bydd hi'n fis Mawrth 2022 cyn i'r cwmni edrych ar gynnig gwyliau tramor, sy'n golygu y byddan nhw hefyd yn colli allan ar fynd 芒 theithwyr dramor ar gyfer y tymor sg茂o nesaf.
"Pan darodd Covid am y tro cyntaf y llynedd, roedd gennym fws yn Sbaen ac fe roedd ganddyn nhw yn llythrennol oriau i groesi'r ffin," esboniodd.
"Ond mae'r rhan fwyaf o'n teithwyr yn bobl h欧n. Gydag ansicrwydd y sefyllfa - nid yw'n gwneud synnwyr i ni."
Dywedodd pe bai'r cwmni'n mynd 芒 chwsmeriaid dramor, a bod rheolau ar deithio yn newid neu pe bai problemau eraill, yna mae'n debygol y bydden nhw'n dioddef ergyd ariannol enfawr.
"Byddai'n cael effaith fawr. Byddai gennym gerbyd yn sownd dramor, gyda bws yn llawn teithwyr. Yn ariannol, fel cwmni, byddai hynny'n ein gwneud ni'n agored i risgiau mawr."
Dywedodd Mr Gentile hefyd ei fod wedi bod mewn cysylltiad 芒 nifer o gwmn茂au teithiau bws ledled y DU ac mae llawer ohonyn nhw wedi gwneud penderfyniadau tebyg i beidio 芒 chynnig gwyliau tramor eleni.
"Mae bron i bob cwmni bysus wedi dweud 'na' i deithiau Ewropeaidd eleni," meddai.
"Mae gormod o risg. Rydyn ni'n ddiwydiant sydd wedi cael ei effeithio'n ddrwg iawn a dydw i ddim yn credu bod y risgiau'n cyfrannu hyd yn oed at geisio gwneud hynny. Fel diwydiant, dydw i ddim yn credu mai dyna'r peth iawn i'w wneud."
Trefnu gwyliau yn 'gymhleth iawn'
Yn 么l cwmni Teithiau Menai yng Nghaernarfon, mae llawer o bobl yn wyliadwrus o archebu gwyliau dramor yn ystod misoedd yr haf.
Dywedodd Ann Jones, sy'n berchen ar yr asiantaeth deithio, fod ymholiadau wedi bod yn "anwadal" yn y misoedd diwethaf, yn dibynnu ar ba negeseuon sy'n cael eu dosbarthu gan y llywodraeth.
Ar hyn o bryd, meddai, mae llawer o gwsmeriaid yn edrych y tu hwnt i'r haf am daith dramor.
"Mae pobl yn edrych ymlaen yn fawr ac yn archebu ar gyfer y flwyddyn nesaf yn bennaf," meddai Ms Jones.
"Ac yna am ddiwedd y flwyddyn hon hefyd."
Dywedodd Ms Jones ei bod hi a'i staff, a all groesawu cwsmeriaid yn 么l i'w siop o ddydd Llun ymlaen, hefyd wedi bod yn brysur yn aildrefnu gwyliau, weithiau am y trydydd tro.
Ychwanegodd bod ceisio trefnu gwyliau yn "gymhleth iawn" ar hyn o bryd oherwydd yr ansicrwydd y mae Covid yn ei achosi ledled y byd.
"Mae'n llawer o waith caled, yn enwedig pan nad oes gennych chi incwm yn dod i mewn," meddai.
"Dydyn ni yn y diwydiant teithio ddim yn cael ceiniog nes bod pobl yn mynd ar eu gwyliau mewn gwirionedd. Dyna pryd 'dan ni'n dechrau cael ein talu."
Covid yn hwb i asiantaethau?
Ond mae Ms Jones yn credu y gallai'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig 芒 cheisio trefnu teithiau dramor fod yn hwb i ddod 芒 chwsmeriaid yn 么l i asiantau teithio traddodiadol fel un hi.
"Yn enwedig yn y genhedlaeth iau, mae llawer sy'n eithaf hapus i fynd ar-lein ac archebu pethau eu hunain. Ond maen nhw wedi darganfod nad ydyn nhw wedi gallu cysylltu ag unrhyw un, siarad ag unrhyw un, siarad am ad-daliadau neu symud eu gwyliau," meddai.
"Mae pobl sydd wedi archebu gyda fi wedi symud gwyliau unwaith, ddwywaith neu beth bynnag. Dim ond un alwad ff么n ydy o iddyn nhw. Rydyn ni'n datrys bob dim ar eu cyfer."
Bydd hi'n 17 Mai ar y cynharaf cyn y bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu a fydd gwyliau tramor yn cael ailgychwyn, gyda'r llywodraethau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon o bosib yn gosod rheolau gwahanol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2021