Rhybudd am gynnydd Covid-19 yn ardal Caernarfon

Daeth rhybudd i bobl yn ardal Caernarfon sicrhau eu bod yn cadw at y rheolau Covid-19, er mwyn atal lledaeniad pellach yr haint.

Er bod cyfraddau yn gostwng yng Ngwynedd yn gyffredinol, mae pryder am gynnydd mewn rhai cymunedau yn nalgylch Caernarfon.

Dywedodd y cyngor bod yr "ystadegau wedi dangos cynnydd yng Nghaernarfon a chymunedau cyfagos yn cynnwys Rhosgadfan, Y Felinheli a Deiniolen".

Dywedodd Dafydd Williams, Pennaeth Amgylchedd Cyngor Gwynedd a Chadeirydd Gr诺p Gwyliadwriaeth ac Ymateb Covid-19 Gwynedd: "Mae hyn yn fater o bryder ac rydym yn erfyn ar drigolion yn yr ardaloedd yma i sicrhau eu bod yn cadw at y rheolau er mwyn atal lledaeniad pellach yr haint."

Cadw at y rheolau

Ychwanegodd: "Fe wyddom am gymunedau eraill lle mae niferoedd gweddol fychan o'r haint wedi cynyddu dros nos gynted a mae'r patrwm o ledaeniad wedi ei sefydlu.

"Rydym am osgoi sefyllfa o'r fath yng Nghaernarfon a chymunedau cyfagos.

"Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi gweld cyfraddau Covid-19 yn disgyn yn gyffredinol yma yng Ngwynedd, ac mae'r diolch am hynny i drigolion y sir am gadw at y rheolau."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dylid gwisgo gorchudd wyneb mewn ardaloedd cyhoeddus dan do

"Fe wyddwn ni fod hi wedi bod yn flwyddyn anodd i bawb, ond mae hi'r un mor bwysig r诺an ein bod i gyd yn cadw at y mesurau allweddol o wisgo gorchudd wyneb mewn ardaloedd dan do cyhoeddus, golchi dwylo yn rheolaidd, awyru ystafelloedd, cadw pellter cymdeithasol a pheidio cyfarfod pobl y tu mewn nad ydych chi'n byw gyda nhw.

"Byddem hefyd yn annog unrhyw un sy'n datblygu unrhyw symptom Covid-19 i hunan-ynysu a threfnu prawf ar unwaith."

Daw'r rhybudd ar 么l i Gyngor Ynys M么n sefydlu canolfan brofi yr wythnos hon mewn ymateb i gynnydd mewn achosion yng Nghaergybi.

Y penwythnos diwethaf roedd y gyfradd achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth yn 466.5 ar gyfer ardal Caergybi.

Mae'r ffigwr wedi gostwng rhywfaint erbyn hyn, ond mae'n parhau'n uwch na'r cyfartaledd dros y wlad.