91热爆

Canolfan brofi yn agor yn sgil achosion Covid Caergybi

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CaergybiFfynhonnell y llun, David Goddard
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ddydd Mercher roedd gan ardal Caergybi gyfradd o achosion positif o 363.8 am bob 100,000 o bobl

Bydd canolfan brofi am Covid-19 yn agor yng Nghaergybi ddydd Iau yn sgil cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion yn yr ardal dros yr wythnosau diwethaf.

Ddydd Mercher roedd gan yr ardal gyfradd o achosion positif o 363.8 am bob 100,000 o bobl - o'i gymharu 芒 chyfartaledd Cymru o 40.5.

Mae'r ffigwr ar gyfer ardal Caergybi wedi gostwng o 466.5 dros y penwythnos

Bydd y ganolfan brofi yng Nghanolfan Hamdden Caergybi yn agor brynhawn Iau ar gyfer trigolion a gweithwyr ar Ynys Cybi.

Dywedodd y cyngor bod y ganolfan ar gyfer y rheiny sydd ddim yn dangos symptomau yn unig, ac nad oes angen archebu lle o flaen llaw.

Bydd y ganolfan ar agor rhwng 11:00 a 19:00 yn ystod yr wythnos a rhwng 10:00 a 16:30 ar y penwythnos, a bydd y profion yn rhoi canlyniad o fewn hanner awr.

'Profion torfol yn hanfodol'

Dywedodd arweinydd Cyngor M么n, y Cynghorydd Llinos Medi: "Mae profion torfol cymunedol yn gam hanfodol i ganfod cymaint 芒 phosib o achosion positif lle nad yw pobl yn sylweddoli eu bod yn heintus, ac atal y feirws rhag lledaenu ymhellach.

"Mae'n hanfodol bod pawb sy'n byw neu'n gweithio ar Ynys Gybi yn cael prawf ac mae'n bwysicach fyth yn awr bod pob un ohonom yn cadw at y rheolau sy'n helpu i ddiogelu ein teulu, ein ffrindiau a'r gymuned.

"Hoffwn ddiolch i bobl Caergybi ac Ynys Gybi. Bydd eich cefnogaeth barhaus yn cadw ein cymunedau'n ddiogel."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae'n hanfodol bod pawb sy'n byw neu'n gweithio ar Ynys Gybi yn cael prawf," meddai Llinos Medi

Dros y penwythnos roedd Cyngor M么n wedi gofyn i drigolion y dref ac Ynys Cybi i beidio teithio oni bai ei fod yn hanfodol.

Sir F么n sydd 芒'r ail gyfradd uchaf o achosion positif yng Nghymru gyda 101.4 ar gyfer pob 100,000 o bobl.

Dim ond Merthyr Tudful sydd 芒 chyfradd uwch, sef 112.7.

Ceredigion gydag 11 sydd 芒'r gyfradd isaf ymhlith y 22 o siroedd yng Nghymru.