91热爆

Murluniau arbennig sy'n annog balchder lleol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgyblion Ysgol Dewi Sant gyda'r murlun yn Y RhylFfynhonnell y llun, Ginger Pixie Photography
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Disgyblion Ysgol Dewi Sant gyda'r murlun yn Y Rhyl

Mae tri murlun arbennig wedi ymddangos yn Nhreorci, Aberteifi a'r Rhyl yn ddiweddar i nodi Awr Ddaear 2021.

Dyma brosiect ar y cyd rhwng Llenyddiaeth Cymru a WWF Cymru, ble'r aeth Bardd Plant Cymru ati i ysgrifennu cerddi ar y cyd gyda chriw o ddisgyblion o bob ardal.

Mae'r cerddi, sy'n cwmpasu teimladau'r plant am eu hardaloedd, ynghyd 芒 phwysigrwydd diogelu'r blaned, nawr ar gof a chadw ar waliau tri adeilad cyhoeddus yn y trefi, diolch i'r artist Bryce Davies o Peaceful Progress.

Ffynhonnell y llun, Julie John Photography
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y murlun a gafodd ei gyd-ysgrifennu gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Aberteifi sydd ar wal ar Stryd Priory, Aberteifi

Cydweithiodd Bardd Plant Cymru, Gruffudd Owen, gydag Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen, Treorci, Ysgol Gynradd Aberteifi ac Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl, mewn gweithdai dros y we i ddechrau casglu syniadau er mwyn ysgrifennu cerddi a fyddai'n berthnasol i'r plant.

Ac ar 么l poeni fod Zoom yn gallu bod yn 'gyfrwng eitha marwaidd', cafodd Gruffudd siom ar yr ochr orau, meddai.

Disgrifiad,

Gruffudd Owen a phlant tair ysgol wahanol sy'n s么n am y prosiect celfyddydol difyr.

"Mi weithiodd o'n dda. Mi gawson ni un sesiwn lle oedden ni'n dysgu am gadwraeth, a beth sydd yn bwysig o ran iechyd y blaned. Cychwyn drwy ofyn cwestiynau eitha' syml, 'pam ydych chi'n licio byw lle ydych chi'n byw?' A 'beth ydy'r pethau 'sa chi'n licio eu newid?' O'n i'n cael darlun o'r ardaloedd 'ma.

"Wedyn, adeiladu o hynny, a meddwl 'be' 'di'r pethau 'da chi'n deimlo ac yn ei arogli ac yn ei weld a'i glywed?' O'dd pob un lleoliad yn rhoi atebion 'chydig bach yn wahanol.

"Pan o'n i'n Y Rhyl, 'nath rhywun s么n am arogl doughnuts o'r ffair, ac o'n i'n gwybod yn syth 'mae'n rhaid i hwnna fynd i fewn!'"

Bwriad y gweithdai gyda'r disgyblion oedd i greu darlun o beth mae eu hardal yn ei olygu iddyn nhw, ac yn 么l Lucy o Ysgol Gynradd Aberteifi, dyna oedd ei hoff elfen o'r holl broses, "oherwydd roedd llawer o bobl yn dweud pethau da amdano Aberteifi ac oedd e'n gwneud i bobl sylwi fod ble ni'n byw yn lle saff a diogel."

Roedd balchder y plant yn eu hardaloedd yn glir pan oedd Gruffudd yn eu holi beth fyddai eu henw petaent yn d卯m p锚l-droed neu yn griw o archarwyr - a daeth y Treorchy Trojans, Cewri Clwyd ac Arwyr Aberteifi i fodolaeth!

Ffynhonnell y llun, Julie John Photography
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Beirdd balch Ysgol Gynradd Aberteifi o flaen eu campwaith

Ar 么l holi'r plant, aeth Gruffudd ati i roi holl syniadau'r plant at ei gilydd i lunio tair cerdd unigryw sy'n adlewyrchu'r ardaloedd ble mae'r plant yn byw.

Roedd nifer o'r plant wrth eu bodd 芒'r ffaith eu bod nhw wedi cael cyd-ysgrifennu'r cerddi gyda Gruffudd, gan ei fod wedi helpu i ddatblygu eu doniau barddoni eu hunain.

Meddai Lauren o Ysgol Dewi Sant: "Roedd o'n hwyl i gael cydweithio efo Bardd Plant Cymru oherwydd rwyf yn hoffi ysgrifennu cerddi ac roedd o'n ddiddorol i gael dysgu sgiliau newydd o sut i greu cerdd effeithiol."

Roedd gan Gruffudd yr her wedyn o gwtogi'r cerddi i rai chwe llinell, er mwyn i Bryce Davies, yr artist, allu eu paentio ar y waliau, er mwyn i bawb eu gweld.

Ffynhonnell y llun, The Loft Studio
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bryce Davies o Peaceful Progess fu'n gyfrifol am y murluniau hardd

Nodi Awr Ddaear 2021

Mae'r cerddi a'r murluniau wedi eu creu er mwyn nodi Awr Ddaear am 20.30 nos Sadwrn 27 Mawrth. Dyma ddigwyddiad blynyddol sy'n annog pobl ar draws y byd i ddiffodd eu goleuadau, er mwyn tynnu sylw at y creisis newid hinsawdd ry'n ni'n ei wynebu.

Roedd WWF Cymru yn awyddus i achub ar y cyfle yma, a thrwy gydweithio gyda Llenyddiaeth Cymru, roi llais i genhedlaeth y dyfodol yng Nghymru.

Er fod y cerddi'n wahanol o ran cynnwys, un llinyn sydd yn plethu drwy'r dair yw'r cysyniad o ddiogelu'r amgylchedd. Roedd y disgyblion o bob ysgol yn teimlo eu bod nhw wedi dysgu llawer am ddiogelu'r blaned wrth drafod yn eu sesiynau gyda Gruffudd.

"Fi 'di dysgu fod lot o bethau mae pobl yn wneud yn gallu effeithio anifeiliaid a'r amgylchedd," meddai Jasmine, o Ysgol Gynradd Aberteifi. "Nawr dwi'n meddwl beth fi'n 'neud cyn i fi 'neud e."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r murluniau yn adlewyrchu rhai o'r creaduriaid cynhenid sydd angen eu diogelu

Roedd Taylor o Ysgol Gynradd Ynyswen yn cytuno 芒 hynny, ac yn teimlo fod sbwriel yn broblem mae angen mynd i'r afael ag ef. "Fi ddim yn hoffi e pan mae pawb yn taflu e mewn i'r m么r, achos mae e'n gallu brifo pysgod ac anifeiliaid y m么r," meddai.

Ychwanegodd ei gyd-ddisgybl, Ffion H芒f: "Mae'n hollbwysig ein bod ni'n edrych ar 么l yr amgylchfyd neu bydd y blaned yn diflannu."

'Balchder'

Yn ddi-os, un o hoff rannau'r disgyblion am y prosiect oedd gweld y murlun gorffenedig ar wal adeilad yn eu tref nhw. Fel y dywedodd Alec, sy'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Aberteifi: "Pryd fi'n edrych arno fe, fi'n prowd iawn. Yn y dyfodol, bydd fi fel 'o' fi'n rhan o hwnna!'

Yr un yw'r teimlad gan Mia draw yn Y Rhyl: "Oedd o'n dda i weld oherwydd gwaith ni ydi o, ac i weld gwaith ni yn rhywle bydd pawb yn ei weld, mae o'n gwneud i mi deimlo'n hapus iawn, a dwi'n falch ohono fo."

Ffynhonnell y llun, The Loft Studio
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen o flaen y murlun ar wal The Lion yn Nhreorci

Ond wrth gwrs, oherwydd cyfyngiadau, un person sydd heb gael gweld y murluniau go iawn yw'r bardd, Gruffudd Owen.

Mae o wedi gorfod bodloni ar luniau, ond ei fod yn egluro ei fod wedi cael 'gwefr deirgwaith' wrth iddo weld llun o bob murlun yn ei dro, am y tro cyntaf.

Mae Gruffudd yn credu fod WWF Cymru a Llenyddiaeth Cymru wedi taro ar 'syniad arbennig' wrth ddefnyddio gofodau cyhoeddus ar gyfer y prosiect, a bod hynny yn helpu i gario'r neges i'r gymuned am deimladau'r genhedlaeth nesaf am ble maen nhw'n byw.

"Mae rhywun wedi arfer gweld hysbysebion ar ofodau cyhoeddus - 'di o 'mond yn iawn fod celfyddyd yn cael lle yna. Mae hi'n ffasiwn gyfanwaith o gelfyddyd - mae gen ti'r elfen weledol, a'r elfen farddonol, ond hefyd mae gen ti'r neges gref, gadwraethol 'na a'r consyrn gwirioneddol 'ma sydd gan y genhedlaeth nesa' yngl欧n 芒 dyfodol y blaned, ond hefyd y balchder 'ma yn eu cymunedau.

Ffynhonnell y llun, Ginger Pixie Photography
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y murlun ar wal canolfan siopau o gyfeiriad glan y m么r yn Y Rhyl

"Mae'r dair cerdd yn gerddi unigol, maen nhw'n wahanol oherwydd bod nhw'n dod o brofiadau tair ardal wahanol iawn yn ddaearyddol. Ac eto, yr un di'r dyheadau a'r un yw'r balchder. Roedd hynny'n rhywbeth pwysig iawn pan o'n i'n trafod efo'r plant - y syniad 'ma o falchder ac o berthyn mewn lleoliad."

Hefyd o ddiddordeb: