Covid: 'Diffyg disgyblaeth' yn gyfrifol am gynnydd Merthyr
- Cyhoeddwyd
Dywed un pennaeth iechyd mai pobl yn cymysgu mewn aelwydydd estynedig ac achosion yn y gweithle sy'n gyfrifol am y cynnydd sylweddol mewn achosion Covid yn ardal Merthyr.
"Diffyg disgyblaeth" yw'r brif broblem yn 么l Dr Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.
Cafodd 47 o achosion, dros hanner y cyfanswm y sir, eu cofnodi yn ardal Gellideg a chanol tref Merthyr.
Y gyfradd saith diwrnod ar gyfer y sir yw 669.3 am bob 100,000 o bobl o'i gymharu gyda chyfartaledd Cymru o 42.5.
Yn 么l rheolau Covid presennol, dyw pobl ond yn gallu cymysgu dan do gyda phobl o'r un aelwyd.
Dywedodd Dr Nnoaham wrth 91热爆 Cymru: "Rydym wedi adnabod oddeutu pedwar clwstwr sy'n bennaf gyfrifol am y cynnydd mewn achosion.
"Rwyf eisiau gwneud ap锚l - tra bod yna gynnydd da o ran y rhaglen frechu dim dyna yw'r diwedd ac mae angen parhau i fod yn ofalus".
Ychwanegodd ei fod o'r farn mai pobl ifanc oedd yn gyfrifol am ledu'r haint yn ddiweddar.
Galwodd ar bobl i wylio'r g锚m y Gamp Lawn rhwng Cymru a Ffrainc yn eu cartrefi ac nid gyda ffrindiau neu deuluoedd eraill.
Y gyfradd ddyddiol ym Merthyr oedd 147.4 ddydd Mawrth gan gynyddu i 155.8 am bob 100,000 o bob ddydd Mercher. Hon yw'r gyfradd uchaf yng Nghymru.
Yr ardal hon welodd y gyfradd fwyaf yn y DU ym mis Rhagfyr gan gyrraedd 1,349 wythnos cyn y Nadolig.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2021