'Oedi cyflenwad brechlyn ddim yn amharu ar y targed'
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y cyflenwadau ychwanegol o'r brechlyn a oedd fod i gyrraedd y DU erbyn canol Ebrill yn cyrraedd bedair wythnos yn hwyrach na'r hyn a fwriadwyd.
Daw'r cyhoeddiad wedi i Wasanaeth Iechyd Lloegr rybuddio y bydd llai o gyflenwadau yn ystod yr wythnosau nesaf a deallir bod llythyr wedi cael ei anfon at sefydliadau iechyd yno yn gofyn iddyn nhw beidio trefnu mwy o apwyntiadau brechlyn yn ystod mis Ebrill.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru na ddylai'r oedi gael effaith ar dargedau y cynllun brechu.
Cadarnhau hynny wnaeth Dr Eilir Hughes, meddyg teulu yn Nefyn ar Dros Frecwast fore Iau.
"I fod yn onest dwi'm yn meddwl fod oedi yn y cyflenwad yn gymaint o broblem 芒 hynny," meddai.
'Brechu gr诺p 50au erbyn canol Ebrill'
"Mae hwn yn mynd i ddod fewn ganol mis Ebrill ond mi ydan ni ar targed i gwblhau oedran 50 a'r grwpiau blaenoriaethol 1-9 erbyn 15fed o Ebrill - be mae hyn mewn ffordd yn golygu ydi y bydd yna rywfaint o oedi yn y gr诺p mawr - gr诺p 10 sef pawb rhwng oedran 16 a 50 ac mae yna darged i roi'r dos cyntaf o'r brechlyn i rhain erbyn diwedd Gorffennaf.
"Y sialens yw sicrhau bod digon o frechlynnau ar gael i roi ail ddos i'r rhai sydd wedi cael y dos cyntaf ym mis Ionawr - mae rheiny yn dod yn agos i'r pwynt lle mae nhw angen ail frechlyn ond gyda brechlyn AstraZeneca yr hiraf 'dach chi'n ei adael o cyn cael yr ail ddos - y mwyaf o fudd 'dach chi'n ei gael.
Nos Fercher dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n yn gallu brechu cymaint o bobl ag mae'r cyflenwad ry'n yn ei dderbyn yn ei ganiat谩u - os oes gennym fwy o frechlynnau mi allwn frechu mwy o bobl.
"Ry'n wedi cael gwybod gan y Tasglu Brechlyn na fydd y cyflenwadau ychwanegol a oedd fod i gyrraedd y DU cyn canol Ebrill yn cyrraedd tan bedair wythnos yn hwyrach.
"Cafodd cyflenwadau helaeth o frechlyn eu cludo i ganolfannau brechu ac at feddygon teulu yr wythnos ddiwethaf ac fe fydd cyflenwadau ychwanegol yn eu cyrraedd yr wythnos hon."
'Brechu yn gynt na'r disgwyl'
Dywedodd David Bailey, cadeirydd BMA Cymru, mewn cyfweliad ar Radio Wales, bod hi'n bwysig rhoi ail ddos i'r rhai sydd wedi cael y dos cyntaf yn Ionawr a bod y garreg filltir o frechu dwy ran o dair o'r boblogaeth erbyn yr haf yn debygol o ddigwydd.
"Mae'r cyfan yn ymwneud 芒 sicrhau cyflenwad ac mae'n bwysig ein bod yn ceisio cynnal hynny," meddai.
"Mae'n ymddangos y bydd cyflenwadau yn cyrraedd yn iawn eto ymhen mis a byddwn yn debygol o frechu pob oedolyn yn gynt na'r disgwyl."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2021