Bonws 拢500 i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol
- Cyhoeddwyd
Bydd pob un o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn derbyn taliad bonws o 拢500, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.
Bydd dros 220,000 o bobl sy'n gweithio ar draws y GIG a'r sector gofal cymdeithasol yn derbyn yr arian yn eu cyflogau, gan ddechrau fis nesaf.
Hwn fydd yr ail daliad bonws i weithwyr gofal cymdeithasol ers dechrau'r pandemig, a'r cyntaf o'i fath i weithwyr iechyd.
"Byddwn yn talu am gost treth incwm ar y raddfa sylfaenol ac am gyfraniadau yswiriant gwladol," meddai'r gweinidog yn ystod cynhadledd newyddion y llywodraeth ddydd Mercher.
"Mae hyn yn cyfateb i 拢735 y person - ar 么l tynnu treth ac yswiriant gwladol, bydd y rhan fwyaf o bobl yn derbyn 拢500."
Pwy sy'n gymwys?
Bydd myfyrwyr sydd wedi gweithio i'r GIG yn ystod y pandemig yn gymwys i dderbyn y taliad, yn ogystal 芒 thua 26,000 o weithwyr gofal sylfaenol, yn cynnwys staff fferyllfeydd, meddygon teulu, deintyddol ac optometreg.
Pwysleisiodd Mr Gething nad oedd unrhyw gysylltiad rhwng y taliad a'r trafod diweddar ar godiadau cyflog yn y GIG.
"Rydym wedi cyflwyno'n tystiolaeth i'r cyrff adolygu cyflogau annibynnol, heb osod uchafswm mympwyol ar gyflogau, ac rydym yn disgwyl clywed eu hargymellion," meddai.
A hithau bron yn flwyddyn ers dechrau'r pandemig, rhoddodd y gweinidog deyrnged i weithwyr y GIG a gofal cymdeithasol am eu "cyfraniad gwirioneddol ryfeddol" i daclo'r argyfwng.
"Rydych wedi helpu i achub bywydau ac wedi cadw pobl yn saff o dan rai o'r amodau mwyaf heriol ac anodd... ac wrth inni gyrraedd blwyddyn [ers dechrau'r pandemig] rydych yn dal i weithio'n galed yn edrych ar 么l pobl s芒l a bregus, ac yn brechu degau o filoedd o bobl bob dydd i roi gwir obaith at y dyfodol."
Staff 'wedi yml芒dd ac ar gyflogau isel'
Mae rhai o'r undebau sy'n cynrychioli gweithwyr y sector iechyd a gofal wedi croesawu'r taliad bonws.
Dywedodd Mike Payne o undeb y GMB bod gofal ac ymroddiad gweithwyr dros y flwyddyn diwethaf wedi bod yn rhagorol, "yn ysgwyddo'r perygl heb oedi am eiliad ac yn wynebu heriau a allai effeithio arnyn nhw a'u teuluoedd am flynyddoedd i ddod".
Dywedodd Paul Summers ar ran undeb Unsain ei fod yn "hwb amserol i staff GIG a gofal iechyd, sydd wedi yml芒dd ac ar gyflogau isel".
Ac yn 么l Dr David Bailey, cadeirydd Cymru o gymdeithas feddygol y BMA, roedd y taliad yn gydnabyddiaeth o waith doctoriaid a gweithwyr iechyd eraill yng Nghymru, ond "rydym yn ailadrodd ein galwad am godiad cyflog sylweddol i ddoctoriaid fyddai'n adlewyrchu'r erydiad mewn t芒l, mewn termau real, sydd wedi digwydd dros y degawd ddiwethaf".
Mae AS Plaid Cymru, Delyth Jewell hefyd wedi croesawu'r taliad untro, ond galwodd am drawsnewid cyflogau i'r sector.
Dywedodd y dylai staff fod ar "拢10 yr awr o leiaf", a bod "bwlch enfawr" yn nh芒l staff y GIG a staff gofal.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd8 Awst 2020