Galw ar 'fannau gwyrdd' i fod o fewn cyrraedd i bawb

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae niferoedd cynyddol o gerddwyr, beicwyr a rhedwyr wedi mynd am y parciau ers y pandemig

Rhaid i ddinasoedd, trefi a phentrefi gael eu hailgynllunio i wella mynediad at natur yn dilyn pandemig Covid-19, meddai ymgyrchwyr.

Mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol eisiau i bawb gael man gwyrdd cyhoeddus o fewn pedair munud ar droed.

Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, nid oedd gan un o bob wyth cartref yng Nghymru fynediad i ardd, iard neu falconi, yn 么l ystadegau swyddogol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo 拢110m i drawsnewid trefi yng Nghymru.

Dywedodd arbenigwyr a dylunwyr cynllunio fod y pandemig yn "gyfle dwys" i ailfeddwl cymunedau i fynd i'r afael 芒 newid yn yr hinsawdd a materion iechyd.

Ymhlith y syniadau mae plannu coed, mwy o lwybrau beicio, ailagor hen reilffyrdd, creu parciau "poced", ac ymgyrch i greu cymdogaethau lle mae popeth sydd ei angen o fewn taith gerdded 20 munud.

Ffynhonnell y llun, Sophie Howe

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Sophie Howe y dylai mynediad i fannau gwyrdd fod yn hawl i bawb

Dywedodd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, Sophie Howe, fod mannau gwyrdd cyhoeddus wedi bod yn "achubiaeth" i lawer yn ystod cyfnodau clo a'u bod yn hanfodol ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol.

Mae Ms Howe eisiau gweld newidiadau i drefi, dinasoedd a phentrefi, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un yng Nghymru yn byw mwy na phedair munud ar droed - tua 330 llath neu 300m - o fan gwyrdd cyhoeddus.

Dywedodd fod pobl heb ardd yn dibynnu ar allu cael mynediad i fannau cyhoeddus agored - ond roedd llawer wedi cael trafferth oherwydd cyfyngiadau teithio.

"Ni ddylai fod yn seiliedig ar ble rydych chi'n byw, a phris eich t欧, dylai fod yn hawl i bawb," meddai Ms Howe.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod ei chronfa natur lleoedd lleol wedi creu mwy na 400 o erddi bywyd gwyllt mewn ac o amgylch ardaloedd preswyl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae bron i flwyddyn ers i Gymru gael ei rhoi dan glo am y tro cyntaf, gyda phobl ond yn cael gadael cartref am resymau hanfodol, gan gynnwys ymarfer corff.

Er bod parciau cenedlaethol yn gorchuddio tua un rhan o bump o Gymru, mae'r mynyddoedd a'r arfordiroedd wedi bod y tu hwnt i gyrraedd pawb oni bai am y rhai sy'n byw ar stepen eu drws.

Ar ddechrau'r cyfnod clo cyntaf, dangosodd ffigyrau swyddogol nad oedd gan 334,865 o aelwydydd Cymru fynediad i ofod awyr agored preifat.

Mae hyn yn cyfateb i 13% o aelwydydd yng Nghymru, yn 么l ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Mae'r data hefyd yn dangos nad oedd gan o leiaf 36% o'r rhai sy'n byw mewn fflatiau yng Nghymru fynediad i ofod preifat, cyfradd uwch nag yn Lloegr neu'r Alban.

Nid oedd gan fwy na 17,000 o bobl ar y rhestr gysgodi - y dywedwyd wrthyn nhw am beidio 芒 gadael eu cartrefi - fynediad i unrhyw le awyr agored.

Ai pentrefi gardd yw'r dyfodol?

Mae Sarah Featherstone, o'r ymgynghorwyr VeloCity, yn gobeithio y bod modd cysylltu pentrefi gan ddefnyddio llwybrau troed a llwybrau beicio i greu "pentrefi mewn gardd".

"Rydyn ni'n ei alw'n ardd gefn fawr," meddai'r pensaer o Aberhonddu.

Dywedodd, er bod argyfwng tai, bod datblygiad gwasgarog yn golygu bod llawer bellach yn gorfod teithio yn eu ceir i gyrraedd canol eu pentref i gael mynediad i siopau.

Ei gweledigaeth yw i'r ardal gael ei defnyddio i bobl dyfu bwyd ac ar gyfer gerddi cymunedol, tra byddai pentrefi yn dod at ei gilydd i fynd i'r afael 芒 materion fel palmentydd sydd wedi'u cynnal a'u cadw'n wael a lleihau cyfyngiadau cyflymder.

Dywedodd Ms Featherstone y gallai newid deddfau cynllunio a mynd i'r afael 芒 seilwaith ganiat谩u i fwy o bobl symud allan o fflatiau mewn dinasoedd i fyw a gweithio mewn cymunedau gwledig.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod mwy na 拢50m wedi'i ddyrannu ar gyfer gwelliannau parhaol a dros dro i lwybrau cerdded a beicio "er mwyn caniat谩u i bobl deithio'n ddiogel ac yn gyfleus" i gyrchfannau lleol, gan gynnwys lleoedd awyr agored.

'Amser i ail-drefnu trefi a dinasoedd'

Dywedodd Matthew Jones fod yr adferiad ar 么l Covid yn gyfle i "newid trefi yn sylweddol", gan fod mwy o bobl yn gweithio gartref ac wedi datblygu gwerthfawrogiad am siopau, llwybrau a pharciau lleol.

Dywedodd Dr Jones, sydd wedi edrych ar ddyfodol trefi ar gyfer Comisiwn Dylunio Cymru, y gallai cartrefi a lleoedd gwaith gael eu hailgynllunio i gynnwys elfennau gardd.

"Mae yna botensial i ailfeddwl yr hyn rydyn ni'n ei wneud gyda lleoedd cyhoeddus... sut mae strydoedd yn cysylltu 芒'i gilydd, sut y gall pobl symud yn ddiogel o gwmpas lle maen nhw'n byw," meddai.

Ffynhonnell y llun, Powell Dobson Architects

Disgrifiad o'r llun, Gallai mwy o adeiladau gyda mannau gwyrdd y tu mewn ymddangos, fel y cynllun yma yn Abertawe

Yn Abertawe, mae cynlluniau wedi'u cymeradwyo ar gyfer adeilad "byw", gyda gerddi a rhandiroedd, a dywedodd Dr Jones y gallai syniadau fel hyn helpu tuag at cael allyriadau carbon niwtral erbyn 2050.

Dywedodd y byddai'n ddiddorol gweld pa gymunedau a ddewisodd gadw mesurau dros dro - fel cau ffyrdd a lledu palmentydd - i greu mwy o le i gerdded a beicio unwaith i'r pandemig ddod i ben.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod eisoes yn cyflawni cynlluniau seilwaith gwyrdd gwerth 拢9m i wneud canol trefi yn "wyrddach, yn fwy deniadol ac yn fwy diogel".

Mae hefyd wedi lansio rhaglen goedwig genedlaethol i greu "coetir cysylltiedig sy'n ymestyn hyd Cymru".