Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dim blaenoriaeth brechu i athrawon na'r heddlu
Pobl yn eu 40au fydd y nesaf i gael brechlyn Covid yn dilyn y grwpiau blaenoriaeth presennol, yn 么l Prif Swyddog Meddygol Cymru.
Fe gadarnhaodd Dr Frank Atherton yn y gynhadledd ddydd Gwener mai'r bwriad o hyd yw cynnig brechiad i bob oedolyn erbyn diwedd Gorffennaf, ond bod y bwriad yn amodol ar gael digon o gyflenwad o'r brechlyn.
Mae athrawon a phlismyn wedi lob茂o i gael eu blaenoriaethu ond fe fyddan nhw'n cael eu brechu yn unol 芒'u gr诺p oedran.
Ond dywed undeb y prif athrawon NAHT Cymru y dylai staff rheng flaen gael eu "hamddiffyn nawr", tra bod comisiynydd heddlu wedi dweud bod heddweision yn "haeddu gwell".
Mwy mewn ysbytai nag ar frig y don yn Ebrill
Er bod niferoedd o achosion Covid yn gostwng dywed prif weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodall bod 250 yn fwy o gleifion mewn gwelyau ysbyty nag ar anterth y don gyntaf ym mis Ebrill y llynedd.
"Rwy'n dal i bryderu am y pwysau parhaus hwn ar ein cyfleusterau gofal dwys a'n staff sy'n gweithio'n galed," meddai yng nghynhadledd ddiweddaraf Llywodraeth Cymru.
60 o gleifion sy'n gysylltiedig 芒 Covid sydd bellach mewn gwelyau gofal dwys, sef chwarter yn is na'r wythnos ddiwethaf a dwy ran o dair yn is nag ar ei anterth.
Cadarnhaodd Dr Goodall mai'r cyfartaledd achosion ar gyfer pob 100,000 o bobl ledled Cymru bellach yw 75 a dywed fod hynny wedi arwain at ostyngiad yn nifer y bobl sydd angen triniaeth ysbyty hefyd.
Ychwanegodd bod meddygon teulu wedi gweld gostyngiad o 70% yn nifer yr ymgynghoriadau sy'n ymwneud 芒 Covid-19 ers Ionawr a bod nifer y galwadau ambiwlans sy'n ymwneud 芒'r feirws wedi mwy na haneru.
Ychwanegodd bod nifer dyddiol y cleifion sy'n mynd i'r ysbyty yng Nghymru gyda symptomau o Covid-19 wedi gostwng o gyfartaledd o 130 ym mis Ionawr i 70.
Dyma'r nifer isaf ers 19 Tachwedd.
'Gallai'r nifer godi eto'
Mae'n newyddion "cadarnhaol iawn" gweld gwelliannau diweddar yn y tueddiadau," medd Dr Goodall.
"Ond mae angen i mi bwysleisio bod ein niferoedd cyffredinol yn yr ysbyty yn parhau i fod yn uchel. Mae hyn yn ddifrifol ac yn effeithio ar allu'r GIG i ymgymryd 芒 gweithgareddau eraill," meddai.
"Ni fyddai'n cymryd llawer i weld y niferoedd hyn yn codi'n gyflym iawn pe bai'r feirws yn lledaenu trwy ein cymunedau unwaith eto."
Yn y gynhadledd cadarnhaodd y Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton, mai'r bwriad o hyd yw brechu pawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9 erbyn canol mis Ebrill a phob oedolyn erbyn diwedd mis Gorffennaf, yn amodol ar gyflenwad brechlyn.
Nododd hefyd bod y JCVI - y cydbwyllgor annibynnol ar frechu ac imiwneiddio - wedi cyhoeddi cyngor pellach ac wedi argymell y dylid parhau 芒 dull sy'n seiliedig ar oedran ar gyfer blaenoriaethu, gan mai hwn yw'r "ffactor cryfaf sy'n gysylltiedig 芒 marwolaethau ac achosion sy'n arwain at bobl yn mynd i ysbytai".
Ychwanegodd y Prif Swyddog Meddygol ei fod yn fwy hyderus bellach y bydd modd i Gymru gyrraedd y targedau brechu wedi iddi ddod i'r amlwg y bydd cyflenwadau o'r brechlynnau yn cyrraedd yn gynt na'r disgwyl.
Dywedodd Dr Atherton hefyd ei bod yn "rhy gynnar i ddweud" a fydd modd llacio'r cyfyngiadau 'aros gartref' ymhen pythefnos.
'Angen brechu athrawon'
Wrth ymateb dywedodd AS Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth y dylid blaenoriaethu athrawon ar gyfer brechu.
Cytunodd 芒'r dull seiliedig ar oedran ar gyfer y rhaglen frechu ond dadleuodd dros rywfaint o hyblygrwydd ar broffesiynau fel addysg.
Ychwanegodd cyfarwyddwr NAHT Cymru, Laura Doel y dylai athrawon gael eu trin fel staff rheng flaen.
"Maen nhw'n gorfod gweithio gyda grwpiau mawr, ac mae'r grwpiau hynny dan do a dim ond PPE sylfaenol sydd ganddynt," meddai.
'Rhoi eu bywydau ar y lein'
Ychwanegodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones ei fod yn "hynod siomedig na fydd swyddogion heddlu yn cael blaenoriaeth" .
"Mae swyddogion heddlu'n haeddu cael eu trin yn well na hyn oherwydd eu bod ymhlith arwyr y pandemig hwn," meddai.
"Mae'r argymhelliad na ddylid rhoi blaenoriaeth iddyn nhw, ynghyd ag athrawon, yn ergyd greulon pan maen nhw'n wynebu'r posibilrwydd o roi eu bywydau ar y lein bob tro y byddan nhw'n mynd allan ar ddyletswydd."