91热爆

Polisi 'dim brechlyn, dim swydd' yn her i gwmn茂au

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
A man gets a vaccineFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae dros 800,000 o bobl yng Nghymru wedi cael y dos cyntaf o frechlyn Covid

Dywed un gyfreithwraig sy'n arbenigo ar gyflogaeth nad yw ei ff么n wedi stopio canu wrth i gwmn茂au ofyn a oes hawl ganddyn nhw gyflogi rhywun sydd wedi gwrthod cael brechlyn Covid.

Mae ysgrifennydd cyfiawnder y DU wedi dweud y gallai cwmn茂au fynnu bod staff yn cael eu brechu.

Dywed Elissa Thursfield, sy'n gyfreithwraig cyflogaeth yn Sir Ddinbych ei bod yn disgwyl y bydd sawl tribiwnlys cyflogaeth am bolis茂au 'dim brechlyn, dim swydd'.

Mae'n dweud bydd yn rhaid i gyflogwyr gyfiawnhau unrhyw bolisi cyffredinol ar y mater.

Dywed Llywodraeth Cymru nad oes ganddyn nhw unrhyw gynlluniau i newid y gyfraith am orfodi pobl i gymryd y brechlyn.

'Cymhleth'

"Dwi'n cael galwadau ff么n parhaus gan bobl sy'n dweud pethau fel 'ry'n yn poeni, ry'n ni wedi colli preswylwyr ac aelodau o staff yn ystod y pandemig'," medd Ms Thursfield o gwmni Gamlins yn Y Rhyl.

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Llywodraeth Cymru #ArosGartref馃彔

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Llywodraeth Cymru #ArosGartref馃彔

Wrth siarad ar Radio Wales, dywedodd bod cyflogwyr yn dweud wrthi bod mynnu bod staff yn cael y brechlyn yn "ffordd gall o reoli Covid" a bod cwmn茂au yn gofyn a "plis a gawn ni wneud hyn?".

Dywed Ms Thursfield bod y mater yn debygol "o fod yn fwy syml wrth benodi staff newydd" ond ei fod yn "fwy cymhleth wrth ddelio 芒 staff sydd eisoes wedi'u cyflogi".

"Os oes rhywun yn dod i weithio i gartref gofal ac yn gweithio'n agos gyda phreswylwyr mae rhywun yn gallu deall pam bod rheolwyr eisiau i bobl gael eu brechu.

"Ond ar y llaw arall os oes rhywun yn dod i weithio i'r cartref a dim cysylltiad o gwbl gydag eraill fe fyddai y polisi 'dim brechlyn, dim swydd' braidd yn afresymol.

"Yr hyn ry'n ni wedi ei ddweud wrth gwmn茂au yw sicrhau eich bod wedi edrych ar yr asesiadau risg a gwneud yn si诺r eich bod yn gallu cyfiawnhau polisi cyffredinol sy'n dweud bod yn rhaid i bawb gael brechlyn.

"O ran staff sydd wedi'u cyflogi eisoes, dyw hi ddim mor hawdd ac mae'n mynd i fod yn broses hir. 'Dyw hi ddim mor syml 芒 diswyddo rhywun."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae dros 869,000 o boblogaeth Cymru bellach wedi derbyn un dos o'r brechlyn Covid-19

Mae oddeutu 18 miliwn yn y DU wedi cael y dos cyntaf o'r brechlyn gyda dros 869,000 yng Nghymru ac y mae bron 50,000 yng Nghymru wedi cael yr ail ddos.

"Heb os bydd polis茂au 'dim brechlyn, dim swydd' yn arwain at dribiwnlysoedd cyflogaeth.

"Os yw pobl yn dweud nad ydynt yn gallu cael eu brechu oherwydd rheswm iechyd ac yna ddim yn cael swydd gallai hynna fod yn achos o wahaniaethu anuniongyrchol," ychwanegodd.

'Arwain at wahaniaethu anuniongyrchol'

Mae undebau wedi rhybuddio cwmn茂au y gallant fod yn euog o "wahaniaethu anuniongyrchol" ac maent wedi galw ar lywodraethau i fod 芒 neges glir sef nad yw'r brechlyn yn orfodol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n bosib y cwmn茂au yn wynebu pob math o heriau cyfreithiol a moesol, medd Shavanah Taj o TUC Cymru

Dywed Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru y gall y cyfan arwain at bob math o heriau cyfreithiol a moesegol i gyflogwyr.

"Fydd pawb ddim yn gallu cael eu brechu a hynny am amrywiol resymau - yn eu plith y rhai sy'n feichiog, pobl ag anableddau a phobl sydd 芒 chyflyrau iechyd penodol."

'Haws os yw pawb yn cael eu brechu'

Dywed un pennaeth nifer o gartrefi gofal - yn ardaloedd Caerdydd, Casnewydd a Blaenau Gwent - "y byddai'n llawer haws petai pawb yn cael eu brechu".

"Ond a ddylwn fod yn gorfodi pobl i gael eu brechu?" meddai Tony Stein, prif weithredwr Healthcare Management Solutions.

"Y gwir amdani os nad yw aelodau o'r staff yn cael eu brechu mae'n edrych yn debygol y bydd rhaid iddyn nhw wisgo PPE a chael profion o hyd."

Dywed Mario Kreft, cadeirydd Fforwm Gofal Cymru y dylai pawb sy'n gweithio ym maes gofal gael "y brechlyn oni bai bod rheswm meddygol clir yn atal hynny".

"Mae ffigyrau yn awgrymu mai nifer bychan iawn sydd wedi gwrthod y brechlyn hyd yma."

Dywed Llywodraeth Cymru bod "y mwyafrif llethol o weithwyr iechyd" wedi cael brechlyn Covid.

"A dydyn ni ddim yn bwriadu newid i gyfraith i wneud brechu yn orfodol," ychwanegodd llefarydd.

"Ond ry'n yn annog pob oedolyn sy'n gymwys i gael y brechlyn i'w gael pan maent yn cael yr alwad."