Cyngor Gwynedd: Cymeradwyo cynllun prynu 100 t欧 fforddiadwy

Disgrifiad o'r fideo, 'Dan ni 'di cael ein prisio allan o'r pentref'

Mae Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo "cynllun uchelgeisiol" i fenthyca 拢15.4m er mwyn prynu tua 100 o dai a'u gosod ar rent fforddiadwy.

Roedd y cyngor eisoes wedi datgan mai bwriad y cynllun yw darparu mwy o lefydd i bobl ddigartref, codi mwy o dai cymdeithasol i'w gosod i bobl leol a dod a thai gwag yn 么l i ddefnydd.

Mae'r cynlluniau i brynu 100 o dai yn rhan o gynllun ehangach gafodd ei lansio ym mis Rhagfyr oedd yn cynnwys dros 30 o brosiectau i "daclo'r heriau ym mhob rhan o'r sector dai".

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd y byddai'r cynllun yn "helpu oddeutu 100 o unigolion neu deuluoedd i fedru byw yn lleol".

Ar hyn o bryd, mae tua 2,700 o bobl ar restr aros am dai yng Ngwynedd ac mae'r cyngor yn amcangyfrif bydd yr holl brosiect yn costio 拢77m.

Un ateb yn 么l y cyngor fyddai codi rhan o'r arian drwy godi treth cyngor uwch ar ail gartrefi.

Ychwanegodd y Cynghorydd ab Iago: "Rwyf yn hynod o gyffrous am y cyfnod nesaf yma pan fyddwn yn gwireddu cynlluniau uchelgeisiol ein Cynllun Gweithredu Tai, gyda nifer o'r rheiny ar droed yn barod.

"Ein bwriad ydy cynyddu'r cyflenwad o dai ar gyfer ein pobl er mwyn rhoi cyfle teg iddynt fyw yn eu cymunedau - rhywbeth a fyddai fel arall allan o'u cyrraedd.

"Fe fydd yn gam mawr tuag at ein nod o sicrhau bod gan bobl Gwynedd fynediad at gartref addas o safon, sy'n fforddiadwy ac sy'n gwella eu hansawdd bywyd," meddai.