Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Miloedd 'ar goll' o driniaeth canser ers y pandemig
"O'n i fod i gael canlyniadau ar 么l tair wythnos i'r llawdriniaeth, ond nawr mae'n agos i chwech wythnos wedi mynd a dwi ddim wedi clywed eto."
Mae'r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor yn un o filoedd o bobl sydd wedi gweld oedi i driniaeth canser yn sgil pandemig Covid-19.
Yn 么l elusen Macmillan, mae 3,500 o bobl "ar goll" o wasanaethau canser ers dechrau'r pandemig.
Maen nhw'n dweud bod angen i'r cyhoedd wybod bod y Gwasanaeth Iechyd ar agor i bobl sydd angen profi symptomau, ond bod oedi dros gynllun gan weinidogion i daclo'r mater.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai cyfarfod cenedlaethol i drafod gofal canser o fewn yr wythnosau nesaf.
'Miloedd heb ddod i'r fei'
Cafodd y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor wybod bod ganddo ganser yn fuan cyn y pandemig, ac mae'n teimlo bod gwasanaethau wedi newid yn fawr yn ystod y cyfnod.
"O ydy, mae'r gohirio yn digwydd," meddai ar raglen Dros Frecwast.
"Y broblem sydd gyda fi yw bod y canser yn dychwelyd,聽maen nhw'n tynnu y tiwmor mas ac ymhen ychydig fisoedd mae wedi dod 'n么l eto.
"A dyna sydd yn achosi y gofid wedyn ni, yr aros yma, achos bod e yn aggressive canser fel maen nhw yn ei alw fe.
"Ac ychydig fisoedd sydd ishe arno fe i 'neud ei waethaf."
Fe gafodd gwasanaethau sgrinio am ganser eu hatal am rai misoedd yn 2020 oherwydd y coronafeirws.
Mae'r Cyfarwyddwr Clinigol Canser i Gymru wedi dweud bod nifer y cleifion canser wedi cwympo 75% ar ddechrau'r pandemig, ac nad ydyn nhw wedi dychwelyd i lefelau arferol eto.
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n deg dweud bod rhai miloedd o gleifion bydden ni'n disgwyl eu gweld gyda diagnosis o ganser llynedd, sydd heb ddod i'r fei", meddai'r Athro Tom Crosby.
Mae elusen Macmillan yn amcangyfrif bod hyd at 3,500 o bobl wedi methu diagnosis yn 2020, ac wrth i'r Gwasanaeth Iechyd ddelio gyda'r pandemig, y gallai'r sefyllfa waethygu.
I bobl fel y Parchedig Guto Prys, mae'n dweud bod rhaid iddo wneud ymdrech arbennig i gael gwybodaeth a chanlyniadau profion.
"Mae e'n synnu fi... bod pobl ddim yn cadw mewn cyswllt, ac mae angen i ddweud wrth bobl i gadw mewn cyswllt, i ffonio yr ysbyty, ffonio yr arbenigwr i 'neud yn si诺r bod y system yn gw'bod am eu bodolaeth nhw a ddim yn anghofio amdanyn nhw."
Ychwanegodd ei fod wedi gorfod gwthio i weld meddyg: "O oedd. Oherwydd bod ni ddim wedi clywed dim byd.
"Y llawdriniaeth cyn y diwethaf - o'n i ddim wedi clywed dim -聽ni fod i glywed o fewn tri neu bedwar mis, o'dd pum mis a chwe mis yn mynd heibio ac o'n i ddim wedi clywed dim."
Mae'n galw ar eraill i wthio er mwyn "cael y cyfle sydd yn ddyledus iddyn nhw, ac mae gan bawb yr hawl i 'neud hynny".
"Mae hawl gyda chi i'r iechyd yma, ac mae'r system yno er eich mwyn chi, y Gwasanaeth Iechyd er eich mwyn chi, gwnewch ddefnydd ohono fe os gwelwch yn dda.
"Gwnewch yn si诺r eu bod yn cofio amdanoch chi."
'Allwch chi ddim rhoi canser ar ffyrlo'
I Richard Pugh o Macmillan Cymru, y flaenoriaeth yw cyrraedd y bobl sydd "yn anffodus, yn eistedd adref ar hyn o bryd hefo symptomau, a sydd 芒 chanser".
Mae'n annog unrhyw un sy'n gweld newid yn eu hiechyd i weithredu - "boed hynny'n beswch, lwmp neu waedu anarferol, cysylltwch gyda'ch meddyg teulu... maen nhw yna i'ch helpu".
Dywedodd wrth raglen Eye On Wales: "Allwch chi ddim rhoi canser ar ffyrlo, ac mae'n teimlo fel ein bod ni ar ffyrlo ar hyn o bryd.
"Dy'n ni'n anwybyddu risg sy'n mynd i ddod yn 么l.
"Achos bod etholiad ar y gorwel, ddyle hynny ddim ein hatal rhag cynllunio ffordd allan o hyn, ac yn anffodus dwi'n meddwl dyna sy'n digwydd ar hyn o bryd."
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd cyfarfod cenedlaethol yn cael ei gynnal ymhen yr wythnosau nesaf i drafod gwasanaethau canser."