91热爆

'Ma' cymaint o ferched oed fi yn osgoi mynd achos embaras'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

"Ges i lwyth o ferched yn dweud bod nhw 'di bod drwy brofiad tebyg"

I lawer o ferched mae mynd am eu prawf serfigol yn brofiad chwithig ac annifyr - ac yn sicr nid yn un i'w rannu ar y cyfryngau cymdeithasol wedi hynny.

Ond i Bethan Sleep o Abertawe, roedd rheswm da ganddi dros fod eisiau ysgogi merched eraill i beidio defnyddio'r pandemig fel esgus i osgoi cael apwyntiad.

Llynedd bu'n rhaid iddi gael triniaeth wedi i'w sgan arferol ddangos annormalrwydd, a phrofion pellach ddatgelu y gall fod wedi arwain at ganser.

Roedd profion serfigol yn un o'r gwasanaethau gafodd eu hatal am gyfnod yn ystod y cyfnod clo cyntaf, ond mae Iechyd Cyhoeddus Cymru bellach yn dweud bod nifer y profion misol bron wedi cyrraedd "lefelau tebyg" i'r cyfnod cyn Covid-19.

'Gallu arwain at ganser'

Yng Nghymru mae menywod rhwng 25 a 49 oed yn cael eu gwahodd am brawf serfigol bob tair blynedd, a'r rheiny rhwng 50 a 64 yn cael gwahoddiad bob pum mlynedd - - er mwyn lleihau'r risg o ganser ceg y groth.

Ar 么l i Bethan, 29, fynd am ei phrawf arferol fis Chwefror y llynedd cafodd wybod am yr annormalrwydd a chael ei chyfeirio am driniaeth.

"Yn 么l y nyrs 'naeth y driniaeth, o'dd popeth yn edrych yn OK," meddai.

"Felly ges i tipyn o sioc pan ges i lythyr arall yn dweud bod gen i HPV2 - human papillomavirus - sy'n gallu arwain at gancr y serfics os nad yw e'n cael ei drin."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu'n rhaid i Bethan Sleep fynd drwy'r driniaeth yng nghanol cyfyngiadau'r pandemig

Bu'n rhaid iddi gael triniaeth colposgopi i gael gwared 芒'r celloedd oedd wedi'u heintio.

Ond 芒 hithau'n byw yng Nghaernarfon ar y pryd, a Chymru yng nghanol cyfyngiadau Covid erbyn hynny, doedd ei theulu yn Abertawe methu bod yno'n gefn iddi.

"O'dd e'n eitha' brawychus ta beth achos bod e yn gysylltiedig 芒 chancr, a s'neb isie clywed y geirie yna," meddai.

"Fel arfer byse Mam 'di dod 'da fi i ddal fy llaw ond yn amlwg doedd hi ddim yn gallu."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Bethan mae llawer o ferched yn osgoi mynd am eu prawf serfigol am resymau amrywiol

Ar 么l dod drwy'r driniaeth a chael gwybod ei bod hi'n iawn, penderfynodd Bethan rannu ei phrofiad ar ei thudalen Instagram i ddechrau er mwyn annog merched eraill i beidio petruso cyn mynd am brawf.

"O'n i ddim yn gallu diodde' meddwl am rywun yn gorfod mynd drwy rywbeth gwaeth na nes i, ac felly isio codi ymwybyddiaeth a 'neud yn si诺r bod pobl yn mynd i gael y smear test," meddai.

"Ges i ymateb hollol hyfryd a chadarnhaol a gwych, a nes i gael llwyth o ferched tua'r un oed 芒 fi yn dweud bod nhw 'di bod drwy brofiad really tebyg.

"Ma' cymaint o'n ffrindiau i a merched fy oed i yn osgoi mynd achos bod e bach yn embarrassing neu anghyfforddus.

"Fi'n meddwl trwy godi ymwybyddiaeth a normaleiddio'r profiad yna a rhannu straeon ni bydd e'n 'neud e llai anghyfforddus a llai brawychus yn y dyfodol."

Oedi i rai yn parhau

Rhwng diwedd Mawrth a diwedd Mehefin 2020 cafodd profion serfigol, fel sawl gwasanaeth arall, eu hatal gan y GIG yng Nghymru oherwydd y pandemig.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau bod y niferoedd gafodd eu sgrinio yn 2020 yn is na'r arfer o ganlyniad i hynny - er bod triniaethau fel yr un gafodd Bethan wedi gallu parhau drwy'r cyfnod.

Yn 么l elusen Jo's Cervical Cancer Trust, mae rhai pobl dal yn ei chael hi'n anodd mynd i apwyntiadau.

"Cofiwch, os ydy'ch meddyg teulu chi'n eich gwahodd chi, mae hynny oherwydd eu bod nhw wedi rhoi mesurau yn lle i'ch cadw chi'n saff tra bod chi yno," meddai prif weithredwr yr elusen, Rebecca Shoosmith.

"Er bod sgrinio serfigol yn parhau i ddigwydd ar draws Cymru, mewn rhai ardaloedd gall meddygfeydd fod 芒 llai o apwyntiadau ar gael wrth iddyn nhw ymateb i effaith y pandemig."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhannodd Bethan ei phrofiad ar Instagram er mwyn annog merched eraill i fynd am eu prawf

Cyn y pandemig roedd gwasanaeth Sgrinio Serfigol Cymru yn derbyn tua 15,000 sampl y mis.

Ac er bod y rheiny oedd yn aros am brawf bellach wedi cael cynnig rhai, mae'r gwasanaeth yn parhau i weld "oedi o bedwar mis" ar gyfer apwyntiadau newydd.

"Ers mis Awst rydyn ni wedi bod yn derbyn o leiaf 10,000 o samplau y mis ac mae hyn wedi cynyddu dros y misoedd i lefelau tebyg i'r arfer," meddai llefarydd ar ran ICC.

"Mae'r oedi yma'n parhau fel ein bod ni'n osgoi gorlwytho'n capasiti gofal cynradd i allu cynnig sgrinio. Ni fyddai anfon mwy o apwyntiadau nag y mae meddygfeydd yn gallu ymdopi 芒 nhw yn helpu menywod na staff iechyd."

Ychwanegodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod mynychu prawf serfigol yn cyfrif fel esgus rhesymol i deithio yn ystod y pandemig, ac y dylai pobl wneud pob ymdrech i fynychu o ystyried nifer cyfyngedig yr apwyntiadau sydd ar gael.

Pynciau cysylltiedig