'Roedd y byd yn well pan oedd Dad yma'
- Cyhoeddwyd
Mae dyn ifanc yn galw am fwy o gefnogaeth iechyd meddwl yn ystod y pandemig gan ei fod yn ofni bod mwy o bobl yn ei chael hi'n anodd oherwydd y cyfyngiadau.
Fe wnaeth Terry Davies o Aberystwyth ladd ei hun yn 2018.
Roedd yn b锚l-droediwr poblogaidd, a bu'n chwaraewr ac yn rheolwr cynorthwyol i d卯m Aberystwyth ac hefyd yn rheoli t卯m Pontrhydfendigaid.
Mae mab Terry, Dion Davies, 21 ac yn byw yn Aberystwyth, yn dweud ei fod eisiau sicrwydd fod pobl yn cael yr help sydd ei angen.
'Fe oedd ac yw'r person rwy'n addoli'
"Rwy'n credu bod colli rhywun chi'n ei garu y peth anoddaf y gall rhywun brofi," medd Dion.
"Roeddwn i a fy nhad yn agos ac roeddwn i yn ei ystyried fel y person ro'n i yn ei garu fwyaf. Roedd e yn meddwl popeth i fi.
"Fe oedd ac yw'r person rwy'n addoli. Roedd e mor ddoniol ac roedd bob amser yn fy ysbrydoli - mae dal yn gwneud hynny.
"Roedd y byd yn lle gwell pan oedd e yma."
Dywedodd Mr Davies fod ei dad, a oedd yn gweithio yn adran gadwraeth y Llyfrgell Genedlaethol, wedi bod yn cael cymorth gan elusennau iechyd meddwl a'i feddyg teulu.
Mae ffigyrau'n ddangos bod cyfraddau hunanladdiad yng Nghymru a Lloegr ar eu lefel uchaf ers 20 mlynedd, mae ofnau bod y cyfnod clo yn cynyddu unigrwydd ac iselder.
Mae ffigyrau hefyd yn dangos bod mwy o bobl wedi s么n am symptomau o iselder ers dechrau'r pandemig.
Mae Dion Davies yn cydnabod bod gwelliannau i atal hunanladdiad wedi digwydd ers marwolaeth ei dad, ond mae'n dweud bod angen i fwy gael ei wneud.
"Nid wyf yn credu y bydd digon byth yn cael ei wneud. Bydd yna bobl bob amser yn ildio i bwysau er gwaethaf y cymorth."
Mae arbenigwyr yn ofni y bydd unigrwydd ac iselder yn gwaethygu ymysg y boblogaeth, wrth i gyfyngiadau'r cyfnod clo barhau.
'Ffactorau risg sy'n debygol o waethygu'
Yn 2019, roedd tri chwarter o'r rhai a laddodd eu hunain yng Nghymru a Lloegr - 4,303 - yn ddynion.
Dyma'r nifer uchaf ers 1981, a'r gyfradd uchaf - 17 ymhob 100,000 o'r boblogaeth - ers 2000.
Rhybuddiodd yr Athro Ann John, sy'n cynghori Llywodraeth Cymru ar eu strategaeth i atal hunanladdiad, y byddai ffactorau risg yn debygol o gynyddu.
"Mae'n hollbwysig mynd i'r afael 芒 ffactorau risg sy'n debygol o waethygu o ganlyniad i'r pandemig," meddai.
Ym mis Mehefin 2020, roedd un o bob pump oedolyn wedi dioddef o iselder yn ystod y pandemig, yn 么l ffigyrau y Swyddfa Ystadegau.
Dywed Simon Jones, o elusen Mind Cymru: "Mae rhain yn gyfnodau heriol i ni gyd wrth i'r cyfnod clo ein hatal rhag gwneud yr hyn sy'n arferol gan gynnwys gweld anwyliaid.
"Ond mae yna bethau gall rywun eu gwneud i helpu problemau iechyd meddwl - yn eu plith cysylltu ag eraill drwy wasanaethau fel Zoom a Skype a chael digon o gwsg.
"Mae diffyg cwsg yn gallu effeithio ar iechyd meddwl ac o ganlyniad yn gallu achosi gorbryder ac iselder ac effeithio ar y gallu i ganolbwyntio, er enghraifft."
Os ydych chi'n dioddef mae modd ffonio'r Samariaid ar 116 123 neu cliciwch yma.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2021