Dyn yn y llys ar 么l i becyn amheus gael ei anfon i ffatri yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ymddangos yn y llys ar 么l cael ei gyhuddo o anfon pecyn amheus i ffatri sy'n cynhyrchu brechlyn Covid-19 yn Wrecsam.
Ymddangosodd Anthony Collins, o Chatham, yn Llys Ynadon Medgway ddydd Sadwrn.
Dywedodd yr heddlu bod Collins, 53, wedi ei gyhuddo o anfon eitem yn y post gyda'r bwriad o wneud pobl feddwl ei fod yn debygol y byddai'r eitem yn ffrwydro neu'n tanio.
Cafodd yr eitem ei dderbyn ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam ger ffatri Wockhardt ar 27 Ionawr.
Cafodd Collins, 53, ei arestio gan swyddogion Heddlu Caint yn Chatham y bore ar 么l y digwyddiad.
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Caint nad oedd "yn ddyfais hyfyw".
Bydd Collins yn cael ei gadw yn y ddalfa cyn ymddangos yn Llys y Goron yn Maidstone ar 26 Chwefror.
Cadarnhaodd cwmni Wockhardt brynhawn Mercher bod y gwaith o gynhyrchu'r brechlyn wedi ei atal am gyfnod, ond bod staff bellach wedi cael mynd yn 么l i'r adeilad.
Ni fydd yr oedi yn effeithio ar yr amserlen gynhyrchu, meddai'r cwmni.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2021