Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Angen brechu pobl anabl yr un pryd â'u gofalwyr'
Fe ddylai oedolion ag anableddau dysgu dderbyn y brechiad Covid-19 ar yr un pryd â'r rhai sy'n cael eu talu i ofalu amdanyn nhw, yn ôl corff sy'n eu cynrychioli.
Dywedodd Fforwm Cymru Gyfan ar gyfer Rhieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu y dylai'r grŵp hwn fod yn ail yn y rhestr flaenoriaethau ar gyfer y brechlyn, ochr yn ochr â gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.
Dywedodd academydd fod pobl ag anableddau dysgu dros 35 oed yn wynebu'r un risg o farw â'r rhai 70 oed a throsodd ac y byddai "bywydau'n cael eu hachub" drwy eu brechu ar yr un pryd â'u gofalwyr.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd pobl ag anableddau dysgu difrifol a dwys yn cael eu dynodi gan eu clinigwr fel unigolion clinigol eithriadol fregus, tra bod pobl eraill ag anableddau dysgu sy'n llai cymhleth yn cael eu cynnwys yng ngrŵp blaenoriaeth chwech.
Mae Adam yn fab i'r Parchedig John Gillibrand o Bontarddulais, ac yn derbyn gofal dwys mewn cartref arbennig. Mae Adam ar y sbectrwm awtistig gydag anableddau dysgu hefyd.
Dywedodd y Parchedig Gillibrand fod y gofalwyr sydd yn edrych ar ôl anghenion Adam yn derbyn brechlyn Covid-19 o fewn y dyddiau nesaf.
"Yn ôl beth dwi'n ddeall," meddai, "fe fydd y bobl sydd yn gofalu drosto yn cael y frechlyn o fewn y dyddiau nesaf a bydd Adam a'r rhai sydd yn byw gyda fe o fewn yr un cartref yn cael y frechlyn o fewn wythnosau nawr.
"I feddwl yn ymarferol am y peth, mae'r cartref lle mae Adam wedi bod yn ofalus tu hwnt hyd y gwela i - y broblem sydd ganddo ni yw'r bobl mas yn y gymuned sydd yn anwybyddu'r rheolau.
"Wedyn mae 'na berygl i bobl sydd yn gweithio gydag Adam - dim bai arnyn nhw - ond oherwydd bod nhw'n gorfod mynd mas i siopa a phethau eraill, mae 'na berygl iddynt ddod â Covid i mewn i'r cartref."
Ychwanegodd ei fod yn deall pam fod gweithwyr gofal ar flaen y rhestr flaenoriaeth, ond fe fydd yn falch o glywed fod Adam ei hun wedi ei frechu hefyd.
Galwodd am gydraddoldeb cymdeithasol yn ystod y pandemig, o gofio fod rhaid blaenoriaethu rhai aelodau o'r gymdeithas yn gyntaf.
"Y ffeithiau moel ar hyn o bryd yw fod disgwyliad oes rhywun ag anableddau dysgu 20 mlynedd yn is na'r boblogaeth gyffredin. A hefyd mae rhywun ag anabledd dysgu chwe gwaith yn fwy tebygol o farw o Covid oherwydd y pandemig.
"Dyw e ddim yn cymryd llawer o feddwl i sylweddoli, er mwyn sefydlu cydraddoldeb mewn sefyllfa o'r fath, mae eisiau i ni symud pobl sydd ag anableddau dysgu yn uwch i fyny ar y rhestr flaenoriaeth."
Covid yn atal gweithgareddau
Mae Steven, 36, yn awtistig gydag anableddau dysgu dwys ac mae'n byw mewn llety â chymorth yn Rhondda Cynon Taf.
Dywedodd ei fam, Pauline Dowden: "Mae ei sgiliau llafar yn wael iawn, ac mae e'n siarad fel plentyn dwyflwydd oed. Mae hefyd yn ordew iawn, yn chwe troedfedd tair modfedd, a 32 stôn.
"Roedd bob amser yn fawr ond mae wedi rhoi llawer o bwysau ers yr achosion o Covid, oherwydd stopiodd ei weithgareddau - fel cerdded, nofio a phêl-fasged."
Mae gan Steven dîm o 10 gofalwr sy'n gweithio mewn sifftiau i ofalu amdano 24 awr y dydd.
Bydd y gofalwyr hynny yng ngrŵp blaenoriaeth dau ar gyfer y brechlyn ond dywed Pauline Dowden y dylai Steven ac eraill mewn sefyllfaoedd tebyg gael eu brechu ar yr un pryd.
Er nad ydyn nhw mewn mwy o berygl o ddal Covid-19, mae effaith y clefyd yn fwy difrifol na'r rhai sydd heb anableddau dysgu.
Mae tua 3,500 o oedolion ag anableddau dysgu yn byw mewn llety â chymorth yng Nghymru.
Dywed Mrs Dowden eu bod wedi cael eu "hanghofio".
"Rwy'n drist iawn ac yn poeni'n gyson am les fy mab. Rwy'n credu ei bod yn warthus eu bod yn cael eu hanghofio. Rwy'n credu ei bod yn warthus nad yw eu hanghenion yn cael eu cydnabod gan y rhai sydd mewn awdurdod.
"Mae'n ddyletswydd arnynt i ofalu am y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, ydyn nhw'n gwneud hynny? Yn fy marn i? Na."
Dywed Mrs Dowden nad yw'n credu y byddai Steven yn goroesi pe bai'n dal Covid-19.
Dywedodd Kate Young, cyfarwyddwr Fforwm Cymru Gyfan, y dylid cael system debyg i leoliadau cartrefi gofal lle mae preswylwyr a staff yn yr un grŵp blaenoriaeth.
Dywedodd fod oedolion ag anableddau dysgu yn fwy agored i niwed a gan fod y nifer sy'n byw mewn tai â chymorth yn weddol fach byddai'n "afresymol" peidio â manteisio ar y cyfle i'w brechu ar yr un pryd â'u gofalwyr.
"O ran byw â chymorth mae'n teimlo fel bo na anghyfartaledd. Yn ddealladwy, rydym wedi canolbwyntio ar sicrhau bod preswylwyr cartrefi gofal a staff cartrefi gofal yn cael y brechiad ond i fod yn deg fe ddylai preswylwyr gael y brechiad ochr yn ochr â'r aelod o staff er mwyn sicrhau bod y risg o Covid-19 yn cael ei ddileu o'r lleoliadau hynny.
"Rydym yn falch o weld staff mewn lleoliadau byw â chymorth yng garfan dau fel rhan o'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ond mae'n ymddangos yn annheg i Fforwm Cymru Gyfan nad ydym yn manteisio ar y cyfle i frechu'r unigolion a gefnogir gan y staff hynny, y tenantiaid bregus hynny."
Dywedodd ei fod yn grŵp bach ond arwyddocaol.
"Mae'n ymddangos yn rhesymegol manteisio ar y cyfle hwn tra ein bod yn brechu eu staff gofal, i'w brechu hefyd a gadael iddynt fwrw ymlaen â'u bywydau ac i bawb, gan gynnwys eu teuluoedd, wybod eu bod yn ddiogel."
Dywedodd yr Athro Stuart Todd, athro ymchwil anabledd deallusol ym Mhrifysgol De Cymru, fod gan oedolion sy'n 35 oed a throsodd ag anabledd dysgu risg gyfartal o farw â'r rhai sydd dros 70 oed yn y boblogaeth gyffredinol.
Dywedodd mai cyflyrau iechyd sylfaenol ac anghydraddoldebau iechyd oedd rhai o'r rhesymau pam eu bod mewn mwy o berygl o farw.
Cytunodd y dylid rhoi blaenoriaeth i frechu gofalwyr rheng flaen dros y boblogaeth gyffredinol ond dywedodd y byddai brechu oedolion ag anableddau dysgu ar yr un pryd yn "achub bywydau".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn dilyn y grwpiau blaenoriaeth a nodwyd gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio a bydd pawb yn y grwpiau blaenoriaeth uchaf yn cael eu himiwneiddio mor ddiogel a chyn gynted â phosibl.
"Fel rheol, bydd pobl ag anableddau dysgu difrifol a dwys yn cael eu dynodi gan eu clinigwr fel unigolion clinigol eithriadol fregus, tra bod pobl eraill ag anableddau dysgu sy'n llai cymhleth yn cael eu cynnwys yng ngrŵp blaenoriaeth chwech."