91热爆

Ail don: Bron i hanner cleifion gofal dwys wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
MeddygFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cleifion gofal dwys wedi dyblu ers y Nadolig

Mae tua hanner y cleifion a gafodd eu derbyn i unedau gofal dwys Cymru yn ystod ail don y pandemig wedi marw, yn 么l astudiaeth.

Dynion yn eu 60au oedd yn fwyaf tebygol o fod angen gofal dwys yn 么l data o'r Ganolfan Archwilio ac Ymchwil Genedlaethol Gofal Dwys (ICNARC) hyd at 31 Rhagfyr 2020.

Dywedodd meddyg uned gofal dwys (ITU) blaenllaw fod pobl, ar y cyfan, yn fwy tebygol o oroesi Covid-19 nag erioed o'r blaen.

Ond ychwanegodd bod triniaethau newydd yn golygu mai dim ond y cleifion mwyaf s芒l oedd yn cyrraedd gofal dwys, lle'r oedd y tebygolrwydd o oroesi yn llai.

Canfu astudiaeth ICNARC hefyd fod pobl o ardaloedd difreintiedig yng Nghymru yn fwy tebygol o fod angen triniaeth mewn gofal dwys, a bod cleifion o gefndiroedd Asiaidd yn cael eu heffeithio'n anghymesur.

Casglodd ICNARC ddata ar 431 o gleifion o Gymru a oedd yn ddifrifol wael gyda coronafeirws rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr 2020 fel rhan o archwiliad ledled y DU o gleifion gofal dwys.

O'r rhain roedd 68% yn ddynion a 32% yn fenywod. Oedran cyfartalog claf oedd 59.5 mlynedd.

Er bod y mwyafrif llethol o gleifion yn wyn (91.6%), roedd nifer y cleifion o ethnigrwydd Asiaidd yn fwy na dwbl cyfran y boblogaeth Asiaidd.

Mwy tebygol o oroesi

Cofnodwyd bod 6.3% o gleifion yn Asiaidd, o'i gymharu 芒 chyfartaledd o 2.4% yn eu poblogaeth leol.

Canfu'r archwiliad o'r rhai a oedd wedi gadael yr uned, fod hanner wedi marw a hanner wedi'u rhyddhau.

Er bod nifer y cleifion gafodd eu holi yn gymharol isel at ddibenion ystadegol, dywedodd ymgynghorydd ITU Dr Matt Morgan fod y gyfradd oroesi yn adlewyrchu'r sefyllfa mewn ysbytai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Erbyn 11 Ionawr cyfartaledd yr achosion positif yng Nghymru oedd 415 am bob 100,000 o bobl, gyda chyfanswm o 3,981 o farwolaethau

Dywedodd Dr Morgan wrth 91热爆 Cymru: "Rydym yn rhoi llai o bobl, sydd yng ngham cyntaf eu salwch, ar beiriannau cynnal bywyd.

"A hynny oherwydd bod gennym driniaethau nawr y gwyddom y gallant helpu.

"Yn gyffredinol, rydych yn fwy tebygol nawr o oroesi Covid nag erioed o'r blaen, ac mae hynny ym mhob gr诺p oedran - weithiau gymaint 芒 10% yn fwy.

"Yr hyn rydyn ni'n ei wybod o bob deg o bobl sy'n dod i ofal dwys gyda Covid y bydd tua chwech ohonynt yn goroesi ar y cyfan ac yn gadael yr uned gofal dwys. Mae hynny'n golygu yn anffodus y bydd pedwar ohonynt yn marw.

"Mae hynny'n debyg yn gyffredinol i'r don gyntaf ond mae'r data hwnnw'n seiliedig ar rai cleifion sy'n dal yn yr uned gofal dwys.

"Felly gall hynny newid ac mae'n fwy tebygol o waethygu yn hytrach na gwella," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Rydym hefyd gwybod fod cleifion sydd ar beiriannau cynnal bywyd yn yr Uned Gofal dwys yn gwneud yn waeth na'r rhai sy'n dod i'r uned gofal dwys heb fod ar beiriannau cymorth bywyd.

"I'r bobl hynny, mae'n debyg mai pump o bob 10 o bobl fydd yn goroesi a phump fydd yn marw yn anffodus ac fe allai fod yn waeth pan fydd gennym y data ar y rhai sy'n dal yno.

"Ac mae yna effaith fawr o oedran. Felly i'r rhai dros 70 oed gall fod cyn lleied 芒 phedwar o bobl allan o 10 sy'n goroesi, llai efallai. Ac i'r rhai dros 80 oed gall fod mor isel ag un neu ddau o bobl allan o ddeg sy'n goroesi.

"Felly dyna'r newidiadau mawr a'r rheswm dros y newidiadau hynny yw oherwydd nawr gallwn gadw mwy o bobl allan o'r uned gofal dwys a rhoi triniaethau eraill iddyn nhw y gwyddom eu bod yn gweithio.

"Mae hynny'n golygu bod pobl sydd angen dod atom yn gleifion lle dyw'r triniaethau a'r therap茂au eraill ddim wedi gweithio."

Mwy o effaith ar ardaloedd difreintiedig

Mae'r ffigurau gan ICNARC hefyd yn amlygu sut yr oedd pobl o gefndiroedd tlotach yn fwy tebygol o fod angen triniaeth mewn gofal dwys.

Gan ddefnyddio sg么r amddifadedd o 1 i 5, sgoriodd mwy na hanner y cleifion 4 neu 5 sy'n cynrychioli'r codau post mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Dywedodd Dr Morgan: "Yn anffodus, mae clefyd yn salwch amddifadedd.

"Ac felly dyna pam rydyn ni'n ei deimlo, yn enwedig yng Nghymru lle mae creithiau diwydiannol ein gorffennol yn dal i fod yno i raddau llawer iawn."

Pynciau cysylltiedig