Mwy o brifysgolion yn oedi addysgu wyneb yn wyneb
- Cyhoeddwyd
Mae'r rhan fwyaf o brifysgolion Cymru wedi dweud y bydd oedi pellach cyn dychwelyd i addysgu wyneb yn wyneb o ganlyniad i'r sefyllfa ddiweddaraf ynghylch coronafeirws.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod galwadau am osod amserlen i fyfyrwyr ddychwelyd i'r brifysgol, fel sydd wedi digwydd yn Lloegr a'r Alban.
Ond roedd yna newid i'r canllawiau ddydd Gwener, a dywedodd y llywodraeth y dylai myfyrwyr aros gartref os ydyn nhw'n gallu.
Mae myfyrwyr "wedi drysu a'n bryderus" o ganlyniad i'r sefyllfa, yn 么l Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr.
Newidiodd Prifysgol Aberystwyth ei chyngor i fyfyrwyr ddydd Gwener gan ddweud na ddylen nhw ddychwelyd am y tro oni bai ei bod yn "hollol angenrheidiol".
Mae Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi dweud na fydd addysgu wyneb yn wyneb yn ail-ddechrau i'r mwyafrif helaeth o fyfyrwyr tan ganol mis Chwefror ar y cynharaf.
Fydd presenoldeb y rhan fwyaf o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor ddim yn orfodol tan 8 Chwefror ar y cynharaf, tra bydd yr addysgu ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd ar-lein tan 1 Chwefror o leiaf.
Dywedodd Prifysgol Glynd诺r Wrecsam fod eu campws yn parhau i fod ar agor.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddai sefydliadau'n edrych ar "amgylchiadau unigol o fewn canllawiau cenedlaethol" fel rhan o gynllun i groesawu myfyrwyr yn 么l yn raddol o 11 Ionawr.
Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban wedi dweud na ddylai myfyrwyr sy'n astudio yn Lloegr a'r Alban ddychwelyd i'w prifysgolion tan ddiwedd mis Chwefror ar y cynharaf.
Yn 么l un arbenigwr addysg uwch, mae diffyg neges glir gan weinidogion yn ei gwneud hi'n anodd i fyfyrwyr wybod beth sy'n digwydd.
Dywedodd Nick Hillman, Cyfarwyddwr y Sefydliad Polisi Addysg Uwch, bod polisi Llywodraeth Cymru o bosib yn adlewyrchu perthynas "gysurus" hanesyddol rhwng gweinidogion a phrifysgolion, sy'n seiliedig ar annibyniaeth prifysgolion i wneud eu penderfyniadau eu hunain.
"Rwy'n credu mai'r broblem yw nad yw myfyrwyr yn gwybod ble mae'n nhw'n sefyll. Does yna ddim neges glir yn dod gan y llywodraeth yng Nghaerdydd," meddai.
"Yn hytrach, mae negeseuon yn dod nawr ag yn y man gan sefydliadau unigol gydag amserlenni gwahanol ac mae'n anodd iawn i fyfyrwyr, rhai ohonynt yn eithaf ifanc - dim ond llai na blwyddyn yn 么l y gadawodd llawer ohonyn nhw'r ysgol - i weithio allan beth sy'n digwydd ac ar ba bwynt y dylen nhw ddychwelyd i'w llety prifysgol a disgwyl i addysgu wyneb yn wyneb ddigwydd."
Ychwanegodd bod "materion ariannol mawr" ynghlwm 芒'r sefyllfa, a galwadau gan fyfyrwyr am ad-daliadau am ffioedd dysgu a chostau llety.
"Mae llawer o bobl yn meddwl y dylai Llywodraeth San Steffan ddechrau meddwl am ad-daliadau ffioedd dysgu i bobl, a fyddai 芒 goblygiadau ar gyfer ariannu i Gymru hefyd."
Mae Llywydd NUS Cymru, Becky Ricketts, wedi galw am eglurder.
"Mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn berffaith glir i fyfyrwyr mai'r neges yw i astudio o adref os gallwch chi," meddai.
"Mae angen i brifysgolion hefyd gyfleu eu cynlluniau wedi'u diweddaru gyda'u myfyrwyr cyn gynted 芒 phosibl, fel y gallan nhw wneud penderfyniadau gwybodus."
Mewn datganiad yr wythnos diwethaf, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi gofyn i brifysgolion ddiweddaru cynlluniau ac asesiadau risg yn sgil yr amrywiolyn coronafeirws newydd.
Dywedodd llefarydd: "Mae ein neges i fyfyrwyr, staff a phrifysgolion yn gyffredinol yr un fath a gweddill y boblogaeth: arhoswch adref, gweithiwch ac astudiwch adref os allwch chi.
"Dim ond os na allwch weithio gartref y dylech fynychu lleoliad ar gyfer gwaith neu astudio."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2021