91热爆

Ysgolion: Mark Drakeford yn amddiffyn 'dychweliad diogel'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
coridor ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Covid-19 yw'r prif reswm am absenoldeb disgyblion

Mae Prif Weinidog Cymru wedi amddiffyn y ffordd y bydd ysgolion yn dychwelyd yr wythnos nesaf yn sgil beirniadaeth gan undebau addysg.

Roedd Mark Drakeford yn ymateb i alwadau i atal addysgu wyneb yn wyneb yn sgil yr amrywiad newydd o coronafeirws.

Daw ar 么l i NEU Cymru alw am beidio dychwelyd i'r stafell ddosbarth nes o leiaf 18 Ionawr.

Dywedodd Mr Drakeford y byddai ysgolion yn cael dull hyblyg i sicrhau "dychweliad diogel".

Yn y cyfamser, mae Cymru yn debygol o aros mewn cyfnod clo am weddill mis Ionawr o leiaf gan fod y prif weinidog wedi dweud nad yw'n "gweld llawer o le i newid".

Bydd gweinidogion yn adolygu'r cyfyngiadau cyfredol yn yr wythnos sydd i ddod, cyn cyhoeddiad ddydd Gwener.

Dychwelyd yn 'hyblyg ac yn raddol'

Yn 么l awdurdodau lleol, mae llawer o ysgolion uwchradd yn anelu at ailagor ar 11 Ionawr, ac mae rhai'n bwriadu ailagor yn llawn ar 6 Ionawr.

Fe fydd disgwyl i bob disgybl fod yn dysgu ar-lein os nad yw ysgolion yn agor yn syth.

Ond mae undebau'n dweud bod angen mwy o amser i ddeall yr amrywiolyn newydd o Covid-19.

Ddydd Sul, fe anfonodd undebau sy'n cynrychioli staff ysgolion yng Nghymru lythyron ar y cyd at Lywodraeth Cymru - un yn a'r llall am .

Dywedodd Mr Drakeford: "Fe ddaethon ni i gytundeb gyda'n cydweithwyr addysg lleol y byddwn ni yng Nghymru yn dychwelyd yn raddol ac yn hyblyg i'r ysgol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i drafod gyda Llywodraeth y DU o ran myfyrwyr o Gymru yn dychwelyd i brifysgolion yn Lloegr, meddai Mr Drakeford

Mae Cymru wedi bod mewn cyfnod clo ers 20 Rhagfyr gyda chyfyngiadau ar bobl yn cwrdd ag eraill heblaw am Ddydd Nadolig.

Mae astudiaeth wedi canfod bod amrywiad newydd o Covid-19 yn "sylweddol" yn fwy trosglwyddadwy na fersiwn flaenorol y feirws.

Ond dywedodd Mr Drakeford nad oes tystiolaeth bod pobl ifanc yn cael y salwch yn fwy difrifol o ganlyniad i'r amrywiad.

"Bydd ein gr诺p cynghori technegol yn edrych ar yr holl dystiolaeth eto yn gynnar yr wythnos nesaf," meddai.

"Ac, wrth gwrs, byddwn yn parhau i wneud penderfyniadau yng ngoleuni'r wybodaeth, yr ymchwil a'r wybodaeth orau sydd ar gael inni ar y pryd," meddai wrth Sunday Supplement 91热爆 Radio Wales.

Dywedodd hefyd y byddai profion torfol mewn ysgolion yn dechrau fel y cynlluniwyd y mis hwn, mewn penderfyniad sydd wedi cael ei feirniadu gan undebau.

"Bydd yn caniat谩u i fwy o blant a mwy o athrawon aros yn ddiogel yn yr ystafell ddosbarth heb orfod cael eu hanfon adref oherwydd bod plentyn arall neu aelod arall o staff wedi profi'n bositif," meddai Mr Drakeford.

'Anodd gweld newid' i'r cyfyngiadau

O ran newid y cyfyngiadau presennol, dywedodd Mark Drakeford ei bod yn "anodd iawn gweld lle mae'r lle ar gyfer symud ar hyn o bryd" gan fod y GIG "yn parhau i fod dan bwysau enfawr".

Os na fydd unrhyw newidiadau ddydd Gwener, yna bydd y lefel uchaf o gyfyngiadau yn cael eu cadw tan yr adolygiad tair wythnos nesaf ddiwedd mis Ionawr.

Dywedodd Mr Drakeford hefyd nad yw Llywodraeth Cymru yn debygol o dynhau'r cyfyngiadau clo er gwaethaf yr amrywiad newydd mwy heintus o'r feirws.

Dywedodd y gallai fod rhai newidiadau "ar yr ymylon" ond dim newidiadau mawr oherwydd "mae'n anodd gweld beth arall y gellid ei wneud".

Cyflwynodd y llywodraeth system bedair lefel newydd o gyfyngiadau Covid-19 ganol mis Rhagfyr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Aeth Cymru gyfan i gyfnod clo arall ar 20 Rhagfyr

Yn sgil yr amrywiad newydd, aeth Cymru i'r lefel uchaf o gyfyngiadau - lefel pedwar - ar y dydd Sul cyn y Nadolig.

Ond nid yw Prif Weinidog Cymru yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru newid y system gyfyngiadau a gyflwynodd cyn i fanylion yr amrywiad newydd ddod i'r amlwg.

Dywedodd Mark Drakeford: "Byddwn yn adolygu ein cynlluniau ond mae cyfyngiadau lefel pedwar yng Nghymru yn llym iawn yn wir ac mae'n anodd gweld beth arall y gellid ei wneud iddyn nhw."

'Ddim yn syndod'

Mewn ymateb i'r sylwadau, dywedodd yr AS Ceidwadol Suzy Davies fod y newyddion yn "bryder" ac y dylai aelodau gael y cyfle i holi'r llywodraeth ar y cyfyngiadau diweddaraf yn y Senedd.

Dywed arweinydd Plaid Cymru, Adam Price nad oedd yr awgrym y byddai'r cyfyngiadau'n parhau tan ddiwedd y mis yn "syndod".

"Ond cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod yr holl adnoddau ar waith i flaenoriaethu cyflwyno'r brechlyn yn gyflym, cynyddu'r gefnogaeth ariannol i'r rheini sy'n hunan-ynysu a chyflwyno pecyn o gefnogaeth i helpu busnesau yn ystod y Gaeaf anoddaf ein hamser," meddai.

Bydd cabinet y llywodraeth yn cwrdd ddydd Mercher i adolygu'r cyfyngiadau lefel pedwar cyn cyhoeddiad gan y prif weinidog ddydd Gwener.

Ar 么l y penderfyniad yna, bydd cyhoeddiad nesaf y llywodraeth ar y cyfyngiadau yn cael ei wneud ar 29 Ionawr.