91热爆

Brechu pobl fregus yn broses 'hir iawn' yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Nyrs gyda brechiad PfizerFfynhonnell y llun, EPA

Bydd brechu pobl fregus yng Nghymru yn erbyn Covid-19 yn cymryd "amser hir iawn" ar y raddfa bresennol, yn 么l arbenigwr.

Dywedodd Cadeirydd y Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA) yng Nghymru ei bod yn galonogol y byddai ail fath o frechlyn - pigiad Oxford-AstraZeneca - ar gael o ddydd Llun.

Ond dywedodd Dr David Bailey mai ond tua 40,000 o frechlynnau'r wythnos fydd yn cael eu rhoi i ddechrau.

"Os welwn ni ddigon o bobl yn cael brechlyn, yna fe welwn ni - oherwydd bod llai o bobl sy'n gallu cael y feirws - y bydd y niferoedd yn dechrau mynd i lawr, a bydd y cyfraddau trosglwyddo yn dechrau mynd i lawr..." meddai.

"Ond mae'n dibynnu'n llwyr ar ba mor sydyn allwn ni gael y brechlynnau i bobl, a fy nealltwriaeth i ydy y bydd 40,000 [o bobl yn cael brechlyn] bob wythnos am yr wythnosau cyntaf."

Ychwanegodd y byddai'n cymryd "amser hir iawn i fynd drwy'r holl bobl fregus yng Nghymru".

"Ond rydyn ni'n gobeithio y bydd y niferoedd yn codi o ddiwedd Ionawr, yn gynnar yn Chwefror."

Dywedodd hefyd ei fod yn rhagweld y bydd y "chwe wythnos nesaf, o leiaf, yn mynd i fod yn gyfnod anodd iawn i'r GIG".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd nad yw gweithwyr iechyd yn "sicr eu bod yn cael amddiffyniad digonol" gyda'r bwlch hirach rhwng y ddau ddos o'r brechlyn.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod yn dilyn cyngor meddygol wrth roi bwlch o 12 wythnos.

Mae holl brif swyddogion meddygol y DU wedi cefnogi'r syniad hefyd.

Ond ychwanegodd Dr Bailey bod mor芒l wedi cymryd "cnoc".

Dywedodd Dr Chris Williams o Iechyd Cyhoeddus Cymru bod brechu'r boblogaeth yn "dasg sylweddol" ac y byddai'n "cymryd amser i gyrraedd pawb".

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dweud bod "lot fawr o waith" yn digwydd dros y wlad i frechu pobl "cyn gynted 芒 phosib".

1.12% o boblogaeth Cymru

Yn 么l ffigyrau cychwynnol nifer y bobl sydd wedi derbyn y brechiad Pfizer-BioNTech, mae cyfraddau Cymru ychydig yn i na gweddill y DU.

Yn siarad ddydd Gwener, dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething bod byrddau iechyd Cymru'n "paratoi ar gyfer ehangu capasiti'n sylweddol o ddechrau Ionawr".

"Dyma fegis dechrau'r hyn fydd yn rhaglen dros sawl mis," meddai.

"Tra bo'r brys a'r flaenoriaeth angenrheidiol yn glir i ni oll, rhaid inni hefyd cael rhywfaint o amynedd a gadael i'r GIG wneud yr hyn mae'n ei wneud cystal.

"Y canolbwynt i mi ac i'r GIG yw gweithredu'r rhaglen frechu'n gyflym ond hefyd yn effeithiol, yn ddiogel ac yn deg."

Mae dros 35,000 o bobl wedi derbyn y brechlyn cyntaf - Pfizer-BioNTech - yng Nghymru hyd yn hyn, gan gynnwys gweithwyr iechyd sy'n gweithio yng Nghymru ond yn byw dros y ffin yn Lloegr.

Cafodd bron i 13,000 o'r brechiadau hyn eu rhoi yn yr wythnos ddiwethaf.

Roedd nifer y brechiadau yng Nghymru hyd at 27 Rhagfyr yn gyfystyr 芒 1.12% o boblogaeth Cymru.

Mae hynny'n cymharu 芒 1.4% o'r boblogaeth yn Lloegr, 1.7%, yn Yr Alban a 1.6% yng Ngogledd Iwerddon.

Pynciau cysylltiedig