'2020 wedi bod yn straen ond wedi dod 芒 bendithion'
- Cyhoeddwyd
Wrth edrych yn 么l ar 2020 dywed Dr Bethan Gibson sy'n gweithio yn Uned Gofal Dwys Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, ei bod wedi bod yn flwyddyn hynod o anodd ond blwyddyn lle mae'r Gwasanaeth Iechyd wedi dysgu nifer o wersi a hynny er gwell.
"Mae yna lot llai o red tape yn y GIG nawr," meddai, "ac ry'n wedi dysgu sut i gynnal ein gilydd. Rywsut mae'r ysbyty i gyd wedi dod at ei gilydd ac mae hynny'n beth da.
"Doeddwn i erioed yn meddwl y buaswn yn gweithio drwy bandemig.
"Fel arfer yn fy ngwaith i yn yr Uned Gofal Dwys dod ar draws pobl h欧n ydw i, ond gyda Covid mae pobl o bob oedran wedi bod yn cael triniaeth gofal dwys - yn eu plith pobl yn eu hugeiniau.
"Weithiau mae mwy nag un aelod o'r un teulu - ac mae siarad 芒 gweddill y teulu dros y ff么n wedi bod yn hynod o anodd ac yn aml 'dan ni wedi gorfod dweud wrthynt bod rhywun wedi marw.
'Wedi crio mwy eleni'
"Fel arfer rhyw 20% mewn Uned Gofal Dwys sy'n marw ond gyda Covid mae'r nifer yn aml wedi codi i 50%.
"Dwi wedi crio mwy yn y flwyddyn ddiwethaf nad wyf i erioed wedi ei wneud yn fy holl yrfa fi i fod yn onest, ac mae wedi bod yn anodd gweld t卯m o gwmpas fi'n crymblo - anodd gweld y nyrsys a'r doctoriaid gorau yn stryglo o dan y pwysau.
"Ond mae'n rhaid meddwl am yr ochr bositif - dwi wedi gweithio mewn t卯m anhygoel drwy'r cyfnod lle mae pawb wedi tynnu at ei gilydd, wedi edrych ar 么l ei gilydd a pharhau i gynnal safonau uchel.
"Mae wedi bod yn balans anodd iawn edrych ar 么l y cleifion sydd 芒 Covid a'r rhai sydd heb Covid gan beidio trosglwyddo'r haint.
'Wedi gweld y gorau mewn pobl'
"Dwi'n teimlo ar 么l eleni ei bod hi'n haws recriwtio pobl i weithio yn yr uned - mae mwy o bobl yn sylweddoli bellach beth yw ein gwaith ni.
"Yn amlwg 'dan ni ddim allan o Covid eto wrth i amrywiadau o'r haint ddatblygu ond mae cael brechlyn yn golygu bod golau ar ddiwedd y twnnel.
"Erbyn y Pasg dwi'n gobeithio y byddwn mewn sefyllfa well ond mae'r cyfan yn mynd i gael effaith ar restrau aros am flynyddoedd i ddod," ychwanegodd. "Fe fyddwn yn trio dal fyny am hir iawn iawn ond mae 2020 wedi cyflwyno nifer o bethau da ac wedi newid trefn o weithio ac ry'n yn sicr wedi gweld y gorau mewn pobl."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2020