Diogelwch ar-lein: Cynnydd sylweddol mewn galwadau
- Cyhoeddwyd
Mae elusen yr NSPCC wedi gweld cynnydd "sylweddol" yn nifer y bobl sy'n cysylltu 芒 nhw gyda phryderon am ddiogelwch eu plant ar-lein yn ystod y cyfnod clo eleni.
Yn 么l Sian Regan o'r NSPCC, mae galwadau i'r elusen am gam-drin ar-lein wedi cynyddu ers i'r pandemig ddechrau.
"Ni'n gwybod bod e'n sefyllfa ddifrifol a bod nifer y troseddau yn mynd lan. Mae lot fwy o gyfleoedd i droseddwyr gysylltu 芒 phlant a phobl ifanc."
Ers y gwanwyn eleni, mae plant wedi treulio mwy o amser ar-lein yn cyfathrebu oherwydd cyfyngiadau gwahanol, a dyma un o'r rhesymau pam fod y sefyllfa wedi gwaethygu, yn 么l yr NSPCC.
"Mae yna gynnydd sylweddol mewn galwadau i Childline a'n llinell gymorth," meddai Ms Regan.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae materion am gam-drin ar-lein wedi hawlio'r penawdau.
Rhwng Ebrill a Mehefin eleni, fe gafodd 133 o achosion o gam-drin ar-lein eu cofnodi yng Nghymru, yn 么l yr NSPCC.
Mae'r elusen yn rhybuddio bod y pandemig eleni wedi creu'r amodau perffaith i droseddwr ar-lein, a'r gred yw y bydd cynnydd pellach o gam-drin ar-lein dros y misoedd nesaf.
Yn 么l yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, mae mwy na 500 o droseddwyr yn cael eu harestio bob mis ym Mhrydain, ar gyfartaledd. Yn ogystal, mae mwy na 700 o blant yn cael eu gwarchod.
Fe ddaw'r cynnydd wrth i'r elusen lansio ymgyrch newydd gyda chwmni O2 - Net Aware - gyda'r bwriad o gynnig adnoddau i rieni, gofalwyr a theuluoedd am y byd digidol.
"Mae'r NSPCC yn gwybod bod e'n anodd i rieni prysur i gadw lan gyda datblygiadau newydd," meddai Ms Regan.
Mae'r hwb, felly, yn cynnig gwybodaeth am wefannau, gemau ac apiau sydd yn boblogaidd ymhlith pobl ifanc.
Gobaith yr NSPCC, meddai Ms Regan, yw addysgu'r Nadolig hwn yn lle ofni.
Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio gyda phartneriaid diogelu i fynd i'r afael ac atal cam-drin plant, yn ogystal 芒 chefnogi'r plant sydd wedi dioddef.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd y Bil Diogelwch Ar-lein flwyddyn nesaf yn cyflwyno dirwyon i blatfformau cyfryngau cymdeithasol os nad ydyn nhw'n gofalu am blant a phobl fregus.
Sut i gadw'n ddiogel yn ddigidol
Mae Geraint Jones yn ymgynghorydd seibr-ddiogelwch a rhiant i fab sy'n naw oed.
Yn 么l Mr Jones, mae'r sefyllfa gyda pheryglon ar-lein yn ei wneud yn nerfus iawn.
"Mae yna chwyddiant yn y defnydd o adnoddau ar-lein, boed yn weithgareddau personol neu yn rhan o fyd addysg, ond heb fod synnwyr cyffredin ac ymwybyddiaeth o'r peryglon wedi cadw i fyny," meddai.
Er gwaetha ei bryderon, gobaith Mr Jones yw y bydd pobl yn addysgu eu plant am fanteision y we a'r apiau sydd ar gael, yn hytrach nag eu gwneud yn ofnus.
"Yn y b么n, dwi'n credu bod 'na dueddiad weithiau i bobl feddwl 'dwi ddim yn gwybod digon am hyn felly mae rhaid i rywun arall gymryd y cyfrifoldeb'. I mi, mae hwnna yn hollol groes i fel dylai pethau fod."
Ei gyngor, felly, yw sgwrsio gyda phlant a phobl ifanc am yr hyn sydd ar gael iddyn nhw ar-lein.
"Mae angen cadw'r berthynas yn hollol agored o ran trafod beth sydd yn digwydd," meddai.
"Y gwir ydy, does dim ots beth mae rhiant yn gwneud i drio diogelu ei blentyn, mae yna rywbeth yn mynd i ddigwydd ar ryw bwynt neu'i gilydd. Felly, y prif beth ydy gwneud yn si诺r bod eich plant yn teimlo y medran nhw godi hynny gyda chi a thrafod."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2020