Covid-19: 35 marwolaeth arall a 3,065 achos newydd
- Cyhoeddwyd
Yn 么l Iechyd Cyhoeddus Cymru mae 35 yn rhagor o bobl wedi marw o achos Covid-19 yng Nghymru.
Daw hyn 芒 chyfanswm y marwolaethau i 3,046.
Cafodd 3,065 o achosion newydd eu cofnodi, gan ddod 芒 chyfanswm yr achosion ers dechrau'r pandemig i 120,432.
Dros y cyfnod o 24 awr cafodd 19,645 o brofion eu cynnal.
Mae'r gyfradd cyfartalog dros 7 diwrnod ar ei huchaf ym Merthyr Tudful gyda 1,233.3 fesul 100,000, ac yna Pen-y-bont ar Ogwr gyda 1,028.2 fesul 100,000, Blaenau Gwent gyda 929.0 fesul 100,000 a Castell-nedd Port Talbot gyda 877.1 fesul 100,000.
Pen-y-bont ar Ogwr oedd 芒'r gyfran gadarnhaol uchaf o brofion gyda 28.9% o'r profion a gafodd eu cynnal yn dod yn 么l yn bositif.
Dilynwyd hyn gan Gastell-Nedd Port Talbot gyda 28.4% a Merthyr Tudful gyda 27.8%.
Cyfran gadarnhaol profion Cymru gyfan oedd 22.3%.