Mesur effaith Covid-19 ar gymunedau Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn naw o argymhellion gan gr诺p sydd wedi bod yn edrych ar effaith Covid-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg.
Fel rhan o waith , fe gasglwyd barn grwpiau cymunedol am y gweithgareddau yr oeddynt wedi eu cynnal yn ystod y cyfnod clo.
Mae'n dweud bod angen gweithredu er mwyn cryfhau'r Gymraeg fel iaith cymunedol a chymdeithasol.
Mae'r ymchwil hefyd yn awgrymu y gallai'r sefyllfa ddod hyd yn oed yn fwy heriol oherwydd newidiadau sosio-economaidd a chymdeithasol yn sgil Covid-19 a Brexit.
Yn 么l Gweinidog y Gymraeg, mae casgliadau'r ymchwil o gyfnod y pandemig yn "amlygu heriau mwy cyffredinol ynghylch cynaliadwyedd gweithgarwch cymunedol Cymraeg at y dyfodol".
Naw o argymhellion
Cafodd grwpiau yn amrywio o aelwydydd yr Urdd i ganghennau o Ferched y Wawr eu holi, yn ogystal 芒 Cylchoedd Meithrin a Chlybiau Ffermwyr Ifanc, corau a grwpiau ieuenctid, clybiau chwaraeon a gweithgareddau awyr agored, y papurau bro a chynghorau cymuned.
Mae Gr诺p Cynyddu Defnydd y Gymraeg yn is-gr诺p i Gyngor Partneriaeth y Gymraeg, ac fe gynigodd naw o argymhellion i Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg.
Mae'r argymhellion yn cynnwys ailddechrau grwpiau cymunedol Cymraeg, ac mae galwad ar y llywodraeth i "ailgysylltu" gyda grwpiau "oedd yn annhebygol o ailddechrau wedi'r pandemig fesul un i ddarganfod pa gefnogaeth sydd ei hangen i'w cynorthwyo i ailddechrau gweithredu yn unol 芒'u dymuniad".
Argymhelliad arall oedd y dylai Llywodraeth Cymru ystyried y rhwystrau sy'n bodoli o ran diffyg mynediad i rwydwaith ddigidol ac i godi sgiliau digidol.
Hefyd daeth y gr诺p i'r casgliad y dylai'r llywodraeth roi mwy o sylw i r么l clybiau chwaraeon a grwpiau celfyddydol yng nghyd-destun cynllunio ieithyddol er mwyn cefnogi'r defnydd o'r Gymraeg fel iaith gymunedol.
Mae'n galw hefyd am ddatblygu r么l y Mentrau Iaith "i weithio ar lefel micro mewn mwy o gymunedau".
Casgliad arall oedd y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu dull o ariannu prosiectau i hwyluso a gweithredu ar lefel gymunedol i "sicrhau hyfywedd y Gymraeg".
"Dylai hyn gynnwys creu mecanwaith a fydd yn medru tynnu ar gronfeydd ariannol amrywiol Llywodraeth Cymru. Byddai hyn yn cyd-fynd 芒'r nod o hyrwyddo a datblygu'r Gymraeg drwy holl weithgarwch y llywodraeth, ar lefel Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol" meddai casgliadau Gr诺p Cynyddu Defnydd y Gymraeg.
Mae'r argymhellion hefyd yn cynnwys "bwrw ati i feithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr cymunedol", creu mwy o fentrau cymdeithasol cyfrwng Cymraeg sy'n cynnig cyfleoedd gwaith a gwirfoddoli a rhoi "llais cryf" i grwpiau wrth i awdurdodau lleol gynllunio a gweithredu eu strategaethau hybu iaith.
'Heriau cyffredinol'
Mewn datganiad, dywedodd Eluned Morgan bod casgliadau'r ymchwil yn ystod y pandemig "wedi amlygu heriau mwy cyffredinol ynghylch cynaliadwyedd gweithgarwch cymunedol Cymraeg at y dyfodol".
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg fod nifer o'r argymhellion hyn yn berthnasol "nid yn unig i faes polisi'r Gymraeg ond i sawl maes polisi llywodraethol".
"Byddaf yn ymateb yn fanwl i'r argymhellion maes o law," ychwanegodd Eluned Morgan.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2020