Brexit: 'Cymorth ariannol i ffermwyr defaid'
- Cyhoeddwyd
Bydd ffermwyr defaid yn cael cymorth ariannol os nad yw'r DU yn ffurfio cytundeb masnach gyda'r Undeb Ewropeaidd, yn 么l Ysgrifennydd Amgylchedd San Steffan.
Mae George Eustice yn dweud y bydd ffermydd defaid angen cymorth ariannol gan eu bod yn "allforio cryn dipyn i'r UE".
Dywed Gweinidog Brexit Llywodraeth Cymru bod yn rhaid i'r Trysorlys "ymrwymo i hynny ddigwydd" gan bod nifer o addewidion ariannol eisoes wedi'u torri.
Ar hyn o bryd mae trafodaethau masnach wedi Brexit yn parhau i fynd yn eu blaen.
Fe wnaeth y DU adael yr UE ym mis Ionawr a than diwedd 2020 mae'r rheolau masnachu yr un fath.
Os nad oes cytundeb cyn 1 Ionawr 2021 bydd trethi yn cael eu codi ar nwyddau sy'n teithio rhwng y DU a'r UE.
Os nad oes cytundeb dywed Mr Eustice y bydd hynny yn cael cryn effaith ar y farchnad allforio cig oen i farchnadoedd yr UE - mae oddeutu 90% o gig oen Cymru yn cael ei allforio bob blwyddyn.
"Rydym eisoes wedi datblygu sawl ymyrraeth bosib yn y tymor byr os nad oes cytundeb," meddai.
"Mae'n bwysig nodi hefyd bod y galw am gig oen wedi codi ar draws y byd a bod pris cig oen ryw 15% i 20% yn uwch na'r llynedd.
"Felly mi fyddwn yn ymyrryd os oes rhaid ond nid yw'n eglur ar hyn o bryd beth yw'r gofynion."
Yn gynharach yn yr wythnos dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford bod y cynlluniau ar gyfer porthladd Caergybi yn dangos pa mor fl锚r y mae gweinidogion y DU wedi bod wrth drafod Brexit.
Wrth ymateb i sylwadau Mr Drakeford, dywedodd Mr Eustice mai cyflwyno trefniadau gwirio oedd y bwriad ar hyd yr amser.
Bydd rhai gwiriadau yn dechrau ar 1 Ionawr 2021 a than bod safle porthladd Caergybi yn weithredol bydd lor茂au sy'n cyrraedd porthladd Caergybi yn cael eu gwirio yn Warrington.
Yn ogystal 芒'r safle yng Nghaergybi - sy'n safle ar y cyd rhwng llywodraethau Cymru a'r DU - mae Llywodraeth Cymru'n edrych ar ddau safle posib arall ar gyfer gwirio bwyd, anifeiliaid a phlanhigion yn ne orllewin Cymru i ddelio gyda lor茂au sy'n cyrraedd porthladdoedd Penfro ac Abergwaun.
Bydd gwirio bwyd a phlanhigion yn cychwyn ym mis Gorffennaf.
Dywedodd y Gweinidog Brexit Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles: "Ry'n yn credu fod yna bosibilrwydd cryf na fydd pethau'n barod yn y gogledd nac yn y de orllewin erbyn mis Gorffennaf oherwydd yr oedi fu yna wrth ddewis y safleoedd gan weinidogion y DU."
Ychwanegodd y gellir credu y bydd "aflonyddwch yn y porthladdoedd" oherwydd "tensiynau newydd ar y ffin ond mae gennym ni gynlluniau i ddelio 芒 thraffig fydd yn cyrraedd Caergybi".
Galw am gysylltiadau uniongyrchol
Dywedodd llefarydd materion Ewrop plaid Fine Gael yng Ngweriniaeth Iwerddon, Neale Richmond, bod "porthladd Dulyn wedi dyblu yn ei faint" ac y bydd yn barod erbyn 1 Ionawr.
"Ond mae allforwyr o Iwerddon yn chwilio am groesiadau mwy uniongyrchol rhwng porthladdoedd," meddai. "Wythnos diwethaf yr oedd yna gyhoeddiad am gysylltiad newydd rhwng Wexford a Dunkirk.
"Ry'n hefyd yn gweld croesiadau newydd i Santander, i Lisbon, i Zeebrugge ac ry'n yn gobeithio gweld croesiad newydd i Le Havre am nad yw pobl am weld oedi posib wrth fynd drwy borthladd Caergybi neu Dover."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2020