91热爆

Ap锚l i leihau pwysau ar wasanaeth ambiwlans Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlans

Mae yna ap锚l i bobl ond ffonio am ambiwlans os yw bywyd rhywun yn y fantol, oherwydd pwysau mawr ar y gwasanaeth yng Nghymru.

Mae'r galw'n arbennig o drwm yn y de ddwyrain, medd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, sydd wedi datgan digwyddiad critigol o'r herwydd.

Fe allai cleifion orfod aros yn hirach am help mewn achosion llai brys, a bydd rhai'n cael cyngor ynghylch camau posib eraill, "gan gynnwys gwneud eu ffordd eu hunain i'r ysbyty os oes angen".

"Mae camau ar y gweill i ddelio 芒'r galw hwn, ond mae gwir angen i'r cyhoedd weithio gyda ni ar hyn," meddai Lee Brooks, cyfarwyddwr gweithrediadau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

"Ffoniwch 999 dim ond os yw'n argyfwng difrifol neu sy'n bygwth bywyd - rwy'n siarad am ataliad ar y galon, poen yn y frest neu anawsterau anadlu, colli ymwybyddiaeth, tagu, gwaedu trychinebus, ac ati."

'Helpwch ni i'ch helpu chi'

Mewn achosion llai difrifol, mae'r gwasanaeth yn gofyn i'r cyhoedd chwilio am gyngor a gwybodaeth ar wefan , neu ymgynghori 芒 meddyg teulu, fferyllydd, deintydd neu optegydd.

Mae'r rhif 111 hefyd ar gael yn ardaloedd byrddau iechyd Powys, Hywel Dda, Aneurin Bevan, Cwm Taf a Bae Abertawe ar gyfer argyfyngau llai difrifol, ac ar draws Cymru yn achos ymholiadau'n ymwneud 芒 Covid-19.

Gall pobl yn ardaloedd byrddau iechyd Betsi Cadwaladr a Chaerdydd a'r Fro ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 gydag ymholiadau iechyd cyffredinol.

Ychwanegodd Lee Brooks: "Fel bob amser, byddwn yn delio 芒 chleifion yn nhrefn blaenoriaeth glinigol, felly bydd y cleifion mwyaf s芒l yn cael eu gweld yn gyntaf.

"Os yw eich galwad yn llai brys, efallai y byddwch yn aros yn hirach am help, neu os gofynnir i chi wneud trefniant arall, gan gynnwys gwneud eich ffordd eich hun i'r ysbyty os oes angen.

"Rydym yn obeithiol y bydd y camau rydym wedi'u rhoi ar waith yn dechrau dod i rym yn ystod yr oriau nesaf, ond tan hynny, helpwch ni i'ch helpu a dim ond ein ffonio os yw'n argyfwng go iawn."

Pynciau cysylltiedig