91热爆

Marwolaethau Covid-19 ar eu huchaf ers dechrau Mai

  • Cyhoeddwyd
Cartref gofalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd 58 o farwolaethau Covid-19 eu cofnodi mewn cartrefi gofal yn yr wythnos hyd ar 20 Tachwedd

Cafodd 223 o farwolaethau'n ymwneud 芒 Covid-19 eu cofnodi yng Nghymru yn yr wythnos hyd at 20 Tachwedd, yn 么l y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Dyma'r nifer uchaf o farwolaethau wythnosol ers dechrau mis Mai.

Roedd hyn 33 yn fwy na'r wythnos flaenorol, a coronafeirws oedd achos 26.3% o'r holl farwolaethau.

Roedd 65 o'r marwolaethau yr wythnos honno yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg - 44 o'r rheiny mewn ysbytai.

Roedd 47 yn ardal Aneurin Bevan, 38 ym Mae Abertawe, 23 yng Nghaerdydd a'r Fro a 21 yn ardal Betsi Cadwaladr.

Cafodd 21 o farwolaethau eu cofnodi yn ardal Hywel Dda - dros ddwbl y ffigwr ar gyfer yr wythnos flaenorol - ac wyth ym Mhowys.

Marwolaethau cartrefi gofal ar gynnydd

Cafodd 58 o farwolaethau Covid-19 eu cofnodi mewn cartrefi gofal - y ffigwr wythnosol uchaf ers mis Mai.

Roedd 11 o'r marwolaethau mewn cartrefi gofal yn Rhondda Cynon Taf, naw yng Nghastell-nedd Port Talbot a chwech ym Mro Morgannwg.

Mae nifer y marwolaethau o unrhyw achos 29.9% yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer y pum mlynedd ddiwethaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd sydd wedi gweld y nifer fwyaf o farwolaethau Covid-19

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod cyfanswm o 3,536 o farwolaethau Covid-19 wedi cael eu cofrestru yng Nghymru hyd at 20 Tachwedd.

Rhondda Cynon Taf yw'r sir sydd wedi gweld y nifer fwyaf o farwolaethau - 503 - gyda Chaerdydd ar 442.

Ceredigion sydd wedi gweld y lleiaf o farwolaethau, ond fe wnaeth y ffigyrau gynyddu o 15 i 23 dros yr wythnos hyd at 20 Tachwedd.

Ni wnaeth Gwynedd na M么n gofrestru yr un farwolaeth yn ymwneud 芒 Covid-19 yr wythnos honno.

Mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynnwys marwolaethau pobl sydd wedi cael prawf positif, neu bobl sy'n cael eu hamau o fod 芒 coronafeirws.