Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gohirio Eisteddfod yr Urdd 2021 am flwyddyn arall
Mae'r Urdd wedi cyhoeddi na fydd Eisteddfod yr Urdd 2021, oedd fod i gael ei chynnal yn Sir Ddinbych, yn mynd yn ei blaen oherwydd sefyllfa coronafeirws.
Dywedodd yr Urdd ei fod wedi gwneud y penderfyniad "er mwyn gwarchod iechyd a lles aelodau, gwirfoddolwyr a swyddogion yr Urdd yn ogystal 芒'r cyhoedd".
Cafodd yr 诺yl ei gohirio eleni oherwydd y pandemig, ac yn hytrach cafodd Eisteddfod T ei chynnal lle'r oedd plant yn cystadlu o adref.
Dyma oedd y tro cyntaf i'r mudiad gynnal prifwyl gyfan yn ddigidol, ac fe wnaeth dros 7,000 o gystadleuwyr gymryd rhan mewn cystadlaethau traddodiadol fel corau a chanu cerdd dant, yn ogystal 芒 nifer o gystadlaethau newydd fel lip sync, dynwared a sgetsys i'r teulu i gyd.
Gobaith y mudiad ydy "cynnal Eisteddfod T fwy blaengar fyth yn ystod hanner tymor y Sulgwyn聽2021".
'Dim dewis arall'
Y bwriad bellach yw cynnal Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych yn 2022 - dwy flynedd yn hwyrach na'r disgwyl.
Bydd Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin yn symud i 2023, ac Eisteddfod yr Urdd Maldwyn i 2024.
Dywedodd cyfarwyddwr dros dro yr Eisteddfod, Si芒n Eirian: "Nid oedd y penderfyniad i ohirio'r Eisteddfod am flwyddyn arall yn un hawdd.
"Ond yn anffodus, o ystyried y sefyllfa sydd ohoni, roeddem yn teimlo nad oedd unrhyw ddewis arall.
"O dan amgylchiadau arferol, byddai ysgolion, adrannau ac aelwydydd ynghyd聽ag聽unigolion yn paratoi'n ddiwyd ar gyfer Eisteddfodau Cylch聽a Rhanbarth聽yn fuan iawn yn y flwyddyn newydd,聽ond mae'r cyfyngiadau presennol yn ei gwneud yn anodd iawn i聽bawb聽drefnu ymarferion ar gyfer yr Eisteddfodau - heb s么n am eu cynnal."
Ychwanegodd Ms Eirian: "Rhaid blaengynllunio a gwneud y penderfyniad mor fuan 芒 phosib, er mwyn ein cystadleuwyr a'u hathrawon ond hefyd oherwydd y gwaith trefnu a chytundebu gyda'r holl聽randdeiliad聽a chwmn茂au聽sy'n rhan allweddol o gynllunio a gosod yr聽糯yl flynyddol.
"Rwy'n llwyr聽ymwybodol gymaint o siom fydd cyhoeddiad聽heddiw聽i griw聽gweithgar聽o wirfoddolwyr聽Sir Ddinbych,聽heb s么n am y plant a聽phobl ifanc oedd yn edrych ymlaen at gael dychwelyd i聽gystadlu ar聽lwyfannau'r brifwyl.
"Gan聽obeithio y bydd聽amgylchiadau yn caniat谩u, edrychwn ymlaen聽at gael croesawu'r Eisteddfod i Ddinbych yn 2022, sef blwyddyn聽canmlwyddiant yr Urdd聽- fydd yn聽gwneud yr achlysur yn fwy arbennig byth."
Ar raglen y Post Cyntaf, ychwanegodd bod y sefyllfa wedi cael effaith ar aelodaeth y mudiad: "Yn naturiol mae aelodaeth yr Urdd wedi gostwng, dydyn ni fel mudiad ddim yn cuddio hynny, ond mi fydd yna gyfleoedd yn y flwyddyn sydd i ddod a chyfle i bobl ymaelodi yn sgil hynny.
"Mae'r adran chwaraeon, yr Eisteddfod a'r maes yn cynnal digwyddiadau rheolaidd a ryda'n ni yn cysylltu efo'n hysgolion a'n hadrannau gyda'r wybodaeth yma."
Penderfyniad y Brifwyl 'dechrau'r flwyddyn'
Wrth ymateb, dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol y byddai'n penderfynu ar yr 诺yl honno yn y flwyddyn newydd.
Dywedodd Betsan Moses: "Ni mewn trafodaethau wythnosol gyda'r llywodraeth i gael gweld beth yw hynt a helynt y brechlyn felly bydd rhaid inni wneud penderfyniad ddechrau'r flwyddyn."
Dywedodd nad oedd hi'n anochel聽y byddai'r 诺yl yn Nhregaron yn cael ei gohirio gan fod y sefyllfa gyda'r feirws yn newid bron yn ddyddiol.
Ym mis Medi fe rybuddiodd prif weithredwr yr Urdd, Sian Lewis efallai na fyddan nhw mewn sefyllfa i gynnal Eisteddfod draddodiadol yn 2021.
Dywedodd Ms Lewis wrth Bwyllgor Diwylliant Senedd Cymru bryd hynny: "Dyw'r Eisteddfod a'r chwaraeon cenedlaethol - fel ry'n ni wedi ei ddweud, ac fel ry'n ni'n rhagweld, i fod yn gwbl realistig o'r negeseuon rydyn ni'n clywed trwy gyfarfodydd 芒 Llywodraeth Cymru - ddim yn debygol o ddigwydd flwyddyn nesaf oherwydd y canllawiau social distancing."
Yn ystod yr un sesiwn rhoi tystiolaeth dywedodd Ms Lewis hefyd bod y pandemig "wedi agor y drysau inni feddwl yn wahanol, a sicrhau ein bod ni yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd".
Dywedodd bod "Eisteddfod T wedi dangos y ffordd inni sicrhau bod yna Eisteddfod, o bosib Eisteddfod T arall, yn mynd i fod ar gyfer y dyfodol".
Mae'r mudiad wedi cydnabod eu bod nhw wedi colli 拢14m o incwm yn ystod 2020, ac yn wynebu dyled o 拢3.5m.
Dywed yr Urdd mai dyma'r "cyfnod mwyaf heriol yn ei 98 mlynedd o hanes" gyda dros 160 wedi gadael allan o gyfanswm o 328 o aelodau staff.
Ym mis Tachwedd cafodd ymgyrch godi arian newydd ei lansio, gyda rhai o s锚r t卯m p锚l-droed Cymru yn annog cefnogwyr i brynu het i helpu'r mudiad.