Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Codi unedau dros dro er mwyn ymweld â chartrefi gofal
Bydd unedau bach dros dro yn cael eu gosod ar gyfer ymwelwyr â chartrefi gofal ar draws Cymru er mwyn ei gwneud hi'n haws ymweld ag anwyliaid dros y Nadolig a misoedd y gaeaf.
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd y cynllun peilot, sy'n werth £3m, yn cynnwys gosod a llogi 100 o unedau gyda'r 30 cyntaf yn barod erbyn y Nadolig.
Bydd yr unedau lled-barhaol hyn ar gael am gyfnod o chwe mis wrth i'r llywodraeth ystyried cynlluniau tymor hir.
Hefyd bydd £1m yn cael ei roi i ddarparwyr gofal sydd am wneud trefniadau tebyg eu hunain.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: "Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor anodd fu'r misoedd diwethaf i bobl sy'n byw mewn cartrefi gofal, a'u hanwyliaid...
"Rydyn ni'n cydnabod y trallod a'r tristwch a fu'n rhan o fywyd pobl ers mis Mawrth, a hefyd yr awydd sydd gan y cartrefi gofal i hwyluso ymweliadau cyn y Nadolig ac wedyn, drwy gydol y gaeaf.
"Ar ôl ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, rydyn ni'n hyderus y bydd yr unedau hyn yn ffordd o sicrhau bod ymweliadau ystyrlon yn gallu digwydd unwaith yn rhagor."
Ffurfio swigod dros yr ŵyl
Yn y cyfamser mae disgwyl y bydd trefniadau'r Nadolig yn un o brif bynciau trafod cabinet Llywodraeth Cymru ddydd Llun wrth iddyn nhw gyfarfod ar gyfer eu cyfarfod wythnosol.
Ddydd Sul dywedodd llefarydd ar ran cabinet llywodraeth San Steffan bod pedair llywodraeth y DU yn gobeithio cwblhau trefniadau'r Nadolig yr wythnos hon ac mai gobaith pob un llywodraeth yw caniatáu aelwyd i ffurfio swigod gydag aelwydydd eraill am rai diwrnodau.
Ond ychwanegodd bod angen "parhau i gymryd gofal a dim ond cael y lleiafswm o gysylltiad cymdeithasol".
Dywed llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Mae pobl wedi gorfod aberthu llawer yn barod a rhaid i Lywodraeth Cymru feithrin cydymdeimlad wrth benderfynu pa reoliadau fydd mewn grym rhwng nawr a'r flwyddyn newydd fel bod pobl, o leiaf, yn medru treulio penwythnos hir yr ŵyl gyda theulu.
"Ond mae'n gyfrifoldeb arnom i gyd i gadw ein ffrindiau a'n teulu yn ddiogel.
"Rhaid cael rhaglen brofi ar raddfa eang - un y gellid ei rhoi ar waith yn syth mewn ardaloedd o achosion uchel.
"Y data, effeithiolrwydd neges y llywodraeth, profi ar raddfa eang a chael canlyniadau buan fydd yn penderfynu a fydd angen clo byr arall wedi'r Nadolig ac hefyd wrth gwrs y ffordd y byddwn ni'n ymddwyn er mwyn lleihau'r risg i ni'n hunain a'r rhai o'n cwmpas.
"Mae'n rhyddid yn ystod gwyliau'r Nadolig yn ddibynnol ar ein hymddygiad hefyd. Fyddwn ni ddim yn gallu cael Nadolig normal ond rwy'n gobeithio y bydd hi'n bosib i ni allu treulio cyfnod diogel gyda'n hanwyliaid," ychwanegodd.
'Cydweithio yn hanfodol'
Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies: "Mae'n newyddion da fod pob llywodraeth wedi ymrwymo i drafod trefniadau'r Nadolig gyda'i gilydd.
"Mae gan bobl deulu a ffrindiau ymhob rhan o'r DU felly mae cydweithredu yn hanfodol," ychwanegodd.
Yn ystod y dydd mae yna ddyfalu y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi a fydd hi'n orfodol i orchuddio'r wyneb mewn ysgolion uwchradd wedi iddyn nhw fod yn ystyried tystiolaeth wyddonol newydd ynghylch lledaeniad Covid-19.
Ddydd Sul dangosodd ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 11 yn rhagor o bobl wedi marw o ganlyniad i'r haint. O ganlyniad mae cyfanswm nifer y marwolaethau Covid-19 drwy Gymru bellach yn 2,376.
Roedd yna 808 o brofion positif ychwanegol gan ddod â'r cyfanswm i 72,341.