Llacio'r cyfyngiadau mewn cartrefi gofal ac aelwydydd
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i ymweliadau dan do mewn cartrefi gofal ailddechrau yng Nghymru ddydd Sadwrn os ydy coronafeirws yn aros o dan reolaeth.
Yn ogystal bydd hyd at bedair aelwyd yn gallu ymuno i greu un aelwyd estynedig o ddydd Sadwrn ymlaen.
Cyn heddiw dim ond dwy aelwyd oedd yn cael dod ynghyd, a dim ond pobl sy'n rhan o aelwyd estynedig oedd yn cael cyfarfod dan do.
Cafodd y newid hwnnw ei gyhoeddi wythnos yn 么l, ond ar y pryd dywedodd Mr Drakeford ei fod eisiau rhoi amser i bobl ystyried gyda phwy yr hoffen nhw ffurfio aelwyd estynedig.
Hefyd bydd cynlluniau peilot yn cael eu cynnal yn ddiweddarach y mis hwn er mwyn gweld a yw hi'n bosib i hyd at 100 o bobl fynychu digwyddiad yn ddiogel.
Dywedodd Llyr Jones, sy'n ffermwr defaid yn Llanfihangel Glyn Myfyr ei fod yn edrych ymlaen i weld ei fam a'i gymdogion eto.
"Gan bod fy ngwraig yn filfeddyg, mae wedi bod yn gyfnod anodd," meddai, "ac ry'n wedi bod yn gorfod mynd 芒'r plant i'r gwaith ond fe fydd cael Mam yma eto yn help mawr.
"Mae'n plant yn ifanc iawn ac mewn meithrinfa - dydyn nhw ddim yn gallu cadw pellter cymdeithasol."
Yn 么l y disgwyl bydd pryd o fwyd ar gyfer hyd at 30 o bobl yn dilyn priodas, partneriaeth sifil neu angladd yn gallu digwydd o ddydd Sadwrn ymlaen hefyd, ar yr amod bod y mesurau priodol mewn lle.
Ychwanegodd y llywodraeth eu bod yn gobeithio caniat谩u i seremon茂au dan do eraill, megis bar mitzvahs a bedydd gael eu cynnal cyn bo hir hefyd.
Ddydd Gwenerfe wnaeth Mr Drakeford ailadrodd ei rybudd, er gwaetha'r ffaith bod y cyfyngiadau wedi cael eu llacio eto yn ddiweddar yng Nghymru, nad nawr yw'r amser i droi cefn ar ddull "gofalus a phwyllog" Llywodraeth Cymru.
"Er bod y coronafeirws yn dal i fod wedi ei ffrwyno i bob pwrpas yng Nghymru, ac mae nifer yr achosion yn dal i syrthio, mae'r sefyllfa yng ngweddill y Deyrnas Unedig ac ymhellach eto yn dal i fod yn broblemus," meddai.
"Nid yw'r coronafeirws wedi diflannu, felly wrth inni lacio'r cyfyngiadau ymhellach ac edrych tuag at y dyfodol, mae'n bwysig inni wneud hynny mewn ffordd gofalus a phwyllog."
Cynlluniau peilot torfol
Wrth siarad 芒 91热爆 Cymru fore Gwener dywedodd Mr Drakeford eu bod nhw'n bwriadu treialu'r posibilrwydd o gael rhai digwyddiadau celf a chwaraeon yn yr awyr agored gyda hyd at 100 o bobl yn mynychu.
"Mae gan Theatr Clwyd berfformiad y mae'n awyddus i'w dreialu yn yr awyr agored, a byddwn yn caniat谩u hynny, a chwpl o ddigwyddiadau chwaraeon yng ngogledd a de Cymru," meddai.
Bydd cystadleuaeth Triathalon Cymru o dan do ym Mharc Penbre a rali ar drac rali Ynys M么n hefyd yn cael eu cynnal fel rhan o'r arbrawf.
"Mae'n bwysig iawn y bydd y rhain yn ddigwyddiadau penodol iawn y cytunwyd arnynt gyda Llywodraeth Cymru, ni yn dysgu llawer o'i wneud," meddai Mr Drakeford.
"Byddwn yn cynllunio, yn treialu ac yna os yw'r peilot yn llwyddiannus, gallwn ymestyn."
Ychwanegodd wrth Radio Wales: "Ymhen tair wythnos, os yw'r digwyddiadau hyn wedi bod yn llwyddiannus a bod y feirws yn parhau i gael ei atal yn effeithiol, gobeithio y gallaf ddweud y gall y mathau hynny o ddigwyddiadau ddod ar gael yn fwy arferol yng Nghymru.
"Mewn cyd-destun Cymreig, mae pethau wirioneddol yn parhau i wella gyda ffigyrau allweddol yn gostwng yn hytrach na chodi.
"Roedd y gyfradd bositifrwydd - nifer y bobl rydyn ni'n eu profi sy'n bositif - rydyn ni'n cynnal miloedd o brofion y dydd, yn 0.3% yng Nghymru ddoe.
"Ein rhybudd yw na allwn feddwl ein bod yn rhydd rhag datblygiadau sy'n digwydd nid yn unig yn y DU ond ledled Ewrop hefyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Awst 2020
- Cyhoeddwyd12 Awst 2020
- Cyhoeddwyd12 Awst 2020