Mudiad Dyfodol i'r Iaith am droi dyhead yn realiti

Ffynhonnell y llun, Dyfodol i'r Iaith

"Mae angen gweithredu cadarn os am adfywio'r Gymraeg," medd mudiad Dyfodol i'r Iaith mewn maniffesto "sy'n cynnig camau gweithredu pendant i Senedd nesaf Cymru".

Mae'r mudiad yn gofyn am fuddsoddiad sylweddol yn economi ardaloedd Cymreiciaf y wlad, mae am gryfhau dysgu'r iaith yn yr holl sectorau addysg ar draws Cymru ac am gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle.

Teitl y maniffesto sydd wedi cael ei lunio gan Cynog Dafis a Heini Gruffudd yw 'Troi Dyhead yn Realiti'.

"Mae'r ddogfen yn nodi dulliau ymarferol y gall gwleidyddion eu meithrin er mwyn troi y dyhead o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn realiti", medd llefarydd.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd mudiad Dyfodol i'r Iaith ei sefydlu 50 mlynedd ers araith Saunders Lewis, Tynged yr Iaith

Mae Dyfodol i'r Iaith yn sefydliad annibynnol amhleidiol ac wrth i'r mudiad gael ei sefydlu yn 2012 nodwyd mai'r bwriad oedd ceisio sicrhau bod y Gymraeg yn chwarae rhan amlwg ym mywydau pobl yng Nghymru.

Dywed y mudiad bod yn rhaid cynllunio "cyfannol ar sail dealltwriaeth o ddwyieithrwydd ac ymwybyddiaeth iaith".

Ymhlith y cynigion mae:

  • Cael gweithlu digonol ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg y sector addysg;
  • Ehangu Cymraeg i oedolion gyda rhaglenni eang i weithwyr cyhoeddus er mwyn cynyddu'r defnydd o'r iaith mewn cyrff cyhoeddus;
  • Cryfhau economi ardaloedd mwy Cymraeg, a chael polis茂au tir a chartrefi cydlynus;
  • Rhaglen eang o Gymreigio cymunedau gan sefydlu rhwydwaith o Ganolfannau Cymraeg;
  • Rhaglen gyflawn o hyrwyddo'r Gymraeg ar draws pob cyfrwng digidol.

Er mwyn sicrhau bod y camau yma yn cael eu gweithredu, mae Dyfodol yr Iaith yn galw am Asiantaeth Iaith newydd neu os na cheir hynny maent yn galw am strwythurau cadarn o fewn y Llywodraeth.

Dywed llefarydd ar ran Dyfodol i'r Iaith "bod y maniffesto a elwir yn Troi Dyhead yn Realiti yn nodi yr holl feysydd polisi ac yn cynnig strwythurau cadarn ac addas i gydlynu anghenion amrywiol y Gymraeg ar draws Cymru".

Bydd Dyfodol i'r Iaith yn lansio'r dogfen ar gyfer Senedd Cymru nos Lun.