Cysgodi rhag Covid fel "llethr llithrig i'r bedd"
- Cyhoeddwyd
Roedd cysgodi rhag Covid-19 ar ei phen ei hun yn gynharach eleni yn teimlo fel "llethr llithrig i'r bedd" yn 么l Margaret, sy'n 60 oed.
Mae ffigurau newydd yn dangos fod dros hanner y 121,000 o aelwydydd oedd yn cysgodi yng Nghymru ym mis Gorffennaf yn cynnwys un person yn byw ar ei ben ei hun, gyda'r mwyafrif yn 50 oed neu'n h欧n.
Dywed Age Cymru fod pobl h欧n wedi dioddef amser arbennig o galed a bod angen "ymdrech sylweddol" i sicrhau bod cefnogaeth ar waith ar gyfer y gaeaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am ymateb.
Ers dechrau'r pandemig hyd at ganol Awst, cynghorwyd degau o filoedd o bobl yng Nghymru oedd gyda chyflyrau iechyd i aros adref er mwyn amddiffyn eu hunain.
Ac er bod Cymru ar fin gadael y cyfnod clo 17 diwrnod presennol, mae llawer o bobl yn parhau i parhau i gysgodi neu gymryd gofal ychwanegol er mwyn osgoi dal Covid-19.
'Roeddwn i'n teimlo fy mod wedi fy eithrio'
Wrth i fywydau pobl ddechrau dychwelyd i normal, mae Margaret, o Sir Benfro, yn teimlo'n fwy unig nag erioed.
Dechreuodd gysgodi oherwydd bod ganddi lupws - cyflwr hunan-imiwnedd tymor hir sy'n achosi poen yn y cymalau a blinder, sydd y gallu arwain at ddifrodi celloedd.
"Fe wnaeth peth o'r ysbryd cymunedol gwympo wrth i bobl fynd yn 么l i'w bywydau arferol ar 么l i'r cyfnod clo cyntaf ddod i ben. Roeddwn i'n teimlo fy mod wedi fy eithrio bryd hynny," meddai.
"Weithiau ar gyfryngau cymdeithasol, neu allan ar daith gerdded, byddwn i'n gweld bod pobl roeddwn i'n eu hadnabod wedi bod yn rhywle gyda'i gilydd ac nid oeddwn i wedi cael gwahoddiad.
"Byddent yn dweud pethau fel, 'rydyn ni'n gwybod eich bod chi'n hoffi cadw draw oddi wrth bobl' - nid yw hynny'n wir, ond mae'n debyg eu bod nhw'n meddwl fy mod i'n eithrio fy hun."
Nid yw wedi gweld ei mab ers mwy na blwyddyn ac mae'n poeni na fydd babanod y teulu yn ei chofio.
"Rwy'n teimlo fy mod i wedi bod mewn limbo am flwyddyn. Roeddwn i'n 60 ar ddiwedd 2019 ac yn bwriadu cael blwyddyn o ddathlu gyda theithiau i weld fy nheulu a pharti haf.
"Nid yw trigain yn hen ond mae aros gartref trwy'r amser ar fy mhen fy hun, siarad 芒 mi fy hun a pheidio 芒 mynd allan, yn enwedig gan fod y gaeaf yn agos谩u, yn teimlo fel llethr llithrig i'r bedd."
Dywedodd Margaret ei bod yn teimlo bod y negyddiaeth ymhlith rhai pobl a gredai fod y rhai oedd yn ynysu eu hunain ar 么l i'r cyfnod clo ddod i ben yn effeithio ar yr economi.
Angen 'ymdrech sylweddol'
Dywedodd prif weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd, fod llawer o bobl h欧n eisoes yn dioddef gydag unigrwydd ond bod y pandemig wedi "gwaethygu'r sefyllfa".
"Gyda'r gaeaf yn dod mae angen ymdrech ar y cyd arnom i sicrhau bod gennym y systemau a'r gefnogaeth gywir ar waith ar gyfer pobl h欧n, yn enwedig y rhai a allai fod yn cysgodi am gyfnod o amser."
Dywedodd fod slotiau siopa, trefniadau casglu presgripsiwn a mynediad llawn i iechyd a gofal cymdeithasol i gyd yn faterion y mae angen eu datrys pe bai cyfnodau clo pellach.
"Byddem hefyd yn annog cymunedau lleol i barhau i edrych ar 么l eu teuluoedd h欧n a'u cymdogion trwy gadw mewn cysylltiad 芒 nhw a chynnig cefnogaeth a sicrwydd yn ystod amseroedd anodd," ychwanegodd.
"Fe wnaethon ni groesawu cefnogaeth gwirfoddolwyr yn fawr yn ystod y cyfnod cloi cyntaf."
Beth yw'r cyngor cyfredol ar gysgodi?
Nid yw canllawiau ar gysgodi wedi newid ers iddo gael ei atal ar 16 Awst, er y cynnydd mewn achosion newydd o goronafeirws dros yr hydref.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oedd am i'r rhai sydd mewn fwyaf o berygl i ddychwelyd at fesurau yr oedd disgwyl iddynt ei ddilyn yn gynharach yn yr haf oherwydd yr effeithiau negyddol posibl ar iechyd meddwl pobl.
Ysgrifennodd prif swyddog meddygol Cymru at y rhai ar y rhestr cleifion oedd yn cysgodi i ddweud "nid oes angen i chi ailgychwyn cysgodi ond dylech gymryd gofal ychwanegol".
Mae hyn yn golygu y dylai pobl ddilyn yr un rheolau 芒 phawb arall, ond cymryd gofal arbennig wrth olchi dwylo yn rheolaidd, cadw cysylltiadau ag eraill mor isel 芒 phosibl a siopa ar-lein.
'Wedi fy siomi'
Mae data Llywodraeth Cymru yn dangos bod tua 44,000 yn fwy o bobl dros 50 oed yn cysgodi na phobl ifanc rhwng 18-29 oed.
Ond dywed Lucy Dixon, 28, o Gastell Newydd Emlyn yn Sir Gaerfyrddin ei bod yn teimlo effeithiau unigrwydd wrth gysgodi ar ei phen ei hun.
"Rwy'n gymdeithasol iawn, felly mae'n unig iawn", meddai.
"Dywedais wrthyf fy hun o'r cychwyn fod coronafeirws am fod gyda ni am o leiaf y flwyddyn nesaf, os nad cwpl o flynyddoedd.
"Dywedais hyn wrthyf fy hun oherwydd roeddwn i'n meddwl pe bawn i'n argyhoeddi fy hun i gredu y byddai'n fyrrach na hynny, byddwn i wedi cynhyrfu ac yn siomedig iawn."
Mae gan Ms Dixon Dyscinesia Ciliaraidd Sylfaenol (PCD), clefyd prin sy'n aml yn arwain at niwed parhaol i'r ysgyfaint, sy'n golygu ei bod hi'n "hynod fregus yn glinigol" ac fe dderbyniodd gyngor i gysgodi gan y llywodraeth.
Mae Ms Dixon wedi dewis parhau i gysgodi ar ei phen ei hun oherwydd difrifoldeb ei chyflwr, yn Sir Benfro.
Ond dechreuodd gysgodi yng nghartref ei rhieni ganol mis Mawrth cyn iddi dderbyn unrhyw arweiniad.
"Mae fy rhieni yn rhoi cwpwrdd llyfrau yn y cyntedd hwn sy'n arwain o un ystafell i'r llall, felly roeddwn i'n ffodus i gael lle hunangynhwysol.
"Roedd yn anodd. Fe wnes i goginio am yr ychydig fisoedd cyntaf ar hob trydan symudol - dim ond pasta a reis oedd e - felly fe gawsom ni flychau bwyd y llywodraeth am gyfnod oherwydd ei bod mor anodd cael slotiau danfon."
Er ei bod yr ochr arall i'r wal i'w rhieni, yr unig dro i Ms Dixon eu gweld am yr ychydig fisoedd cyntaf oedd trwy ffenest, nes i'r tywydd wella.
Meddai: "Roeddwn i allan o waith felly y cyfan roeddwn i'n ei wneud oedd darllen y straeon erchyll hyn gan feddwl 'Rydw i'n mynd i farw os ydw i'n cael yr haint'. Dwi ddim yn teimlo felly nawr, ond fe wnes i ar y pryd."
Dywedodd ei bod yn cymryd pethau gam wrth gam ac yn gwneud y mwyaf o'i "bywyd newydd" am y tro.
Bydd llawer ohonom yn edrych ymlaen at ddydd Llun pan fydd diwedd y cyfnod clo yn golygu y gallwn ailddechrau bywyd cymdeithasol a gwneud rhywfaint o siopa unwaith eto.
Ond i'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru, gall gadael y t欧 fod yn brofiad brawychus ynddo'i hun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2020