Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Tlodi wedi cynyddu yng Nghymru wedi Covid'
Mae Cymru yn wynebu mwy o dlodi ac mae haint coronafeirws wedi gwaethygu'r sefyllfa, yn 么l adroddiad newydd gan Sefydliad Joseph Rowntree.
Mae'r adroddiad yn nodi bod 700,000 o bobl yn wynebu tlodi gyda nifer yn cael cyflog isel, methu fforddio prynu cartref na thalu am ofal plant.
Ymhlith y rhai sy'n wynebu tlodi mae 180,000 o blant - y mwyafrif yn byw mewn teuluoedd sydd eisoes yn derbyn budd-daliadau.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi buddsoddi 拢2bn - mwy nag erioed - mewn tai fforddiadwy.
Ond yn 么l Sefydliad Joseph Rowntree mae angen gwneud mwy, yn enwedig wrth i'r sefyllfa waethygu yn sgil Covid-19.
Methu talu biliau
Cyn haint coronafeirws, roedd oddeutu chwarter o bobl Cymru yn wynebu tlodi, medd yr adroddiad.
Mae'r pandemig, ychwanega'r adroddiad, wedi taro pobl sy'n ennill cyflogau isel yn ddrwg.
Eisoes mae nifer wedi colli eu gwaith ac mae'r nifer sy'n hawlio Credyd Cynhwysol wedi bron 芒 dyblu ers dechrau'r flwyddyn.
Erbyn mis Mehefin 2020 roedd 400,000 o bobl Cymru ar ei h么l hi yn talu biliau - gyda 200,000 yn hwyr yn talu rhent a thaliadau morgais, medd yr adroddiad.
Mae Alexander Serpentem, 29 oed o Ben-y-bont wedi byw mewn t欧 cymdeithasol, sy'n cael ei redeg gan gymdeithas Hafod, ers yn fachgen ifanc.
"Ry'ch chi wir angen y rhwydwaith yna o gefnogaeth... mae'n holl bwysig wrth i chi wynebu trafferthion," meddai.
"Heb y fath yma o lety, fyddai gen i ddim byd ac mae cael llety da yn eich hannog i fynd yn 么l i'r gymuned," meddai.
Mae Sefydliad Joseph Rowntree yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynnig gofal plant newydd, i sicrhau rhent fforddiadwy mewn cartref cymunedol ac i sicrhau bod mwy o gartrefi cymdeithasol ar gael i'w rhentu.
Mae nhw hefyd yn nodi y dylid sefydlu System Budd-dal i Gymru.
Dywedodd un o gyfarwyddwyr Sefydliad Joseph Rowntree bod teuluoedd ar draws Cymru yn cael trafferth i dalu rhent a rhoi bwyd ar y bwrdd.
"Nid dyma'r gymdeithas ry'n am i bobl fyw ynddi," meddai Peter Matejic.
"Rhaid i lywodraethau Cymru a San Steffan weithredu er mwyn cefnogi pobl anghenus drwy'r pandemig ac wedi hynny."
'Gwario mwy ar dai fforddiadwy'
Dywedodd Dr Victoria Winckler, cyfarwyddwr Sefydliad Bevan: "Dyw hi ddim yn iawn fod cymaint o bobl Cymru yn wynebu tlodi.
"Mae haint coronafeirws wedi cael effaith fawr ar ein bywydau a dyw hi ddim yn deg fod pobl ar incwm isel wedi dioddef yn waeth."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y llywodraeth wedi gwario mwy ar gartrefi fforddiadwy yn ystod y tymor seneddol hwn - 拢2bn i gyd - a bod cynnydd o 12% ers 2017-18.
"Mae'r buddsoddiad yn cael effaith arwyddocaol ar faint o dai sydd ar gael i gymunedau yng Nghymru," ychwanegodd, "ac ry'n ni'n gobeithio cwrdd 芒'r gofyn o ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy er gwaethaf effaith y pandemig ar y sector adeiladu tai."