91Èȱ¬

Llywodraeth i fuddsoddi £45m mewn tai modiwlar

  • Cyhoeddwyd
TaiFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Mae angen codi mwy o dai 'modiwlar' sydd wedi eu hadeiladu mewn darnau o flaenllaw, er mwyn cynyddu'r stoc tai cymdeithasol a fforddiadwy, medd Llywodraeth Cymru.

Gobaith y llywodraeth yw gweld cynnydd yn y defnydd o'r math yma o dai er mwyn i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai ateb y galw am dai cymdeithasol.

Wrth lansio strategaeth 'Dulliau Newydd o Adeiladu' ddydd Mawrth, dywedodd y Gweinidog Tai Julie James fod y llywodraeth yn bwriadu buddsoddi £45m yn y diwydiant tai modiwlar yng Nghymru er mwyn sicrhau fod y genhedlaeth nesaf o dai cymdeithasol ar gael.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd cartrefi 'prefab' yn aml yn cael eu defnyddio am gyfnod llawer hirach na'r 10-15 mlynedd arferol, fel oedd y bwriad gwreiddiol

Mae dulliau adeiladu tai modiwlar yn cynnwys defnyddio deunyddiau a thechnoleg newydd, ac adeiladu ar un safle cyn cludo'r darnau i leoliad y tÅ· newydd.

Dywed y llywodraeth fod manteision buddsoddi yn y diwydiant modiwlar yn cynnwys creu swyddi, datblygu sgiliau adeiladwyr, cynnig swyddi i grwpiau sydd ar gyrion cymdeithas fel cyn-droseddwyr, a chynnig gwaith i rai na fyddai'n ystyried gyrfa yn y diwydiant adeiladu traddodiadol, fel menywod.

Disgrifiad o’r llun,

Y Gweinidog Julie James mewn ffatri banelau yng Nghastell-nedd

Fel rhan o fuddsoddiad y llywodraeth yn y diwydiant, bydd £20m ar gael i fusnesau cartrefi modiwlar sydd am adeiladu'r genhedlaeth nesaf o dai cymdeithasol ar y cyd â landlordiaid cymdeithasol.

Y gobaith yw y bydd yr arian yn hwb i gwmnïau bach a chanolig.

Bydd £25m hefyd ar gael fel rhan o 'Raglen Tai Arloesol' y llywodraeth, fydd yn canolbwyntio ar ddarparu tai arloesol drwy ddefnyddio adeiladau modiwlar.

Wrth ymweld â chwmni adeiladau modiwlar SO Modular yng Nghastell-nedd, dywedodd y Gweinidog Julie James: "Mae adeiladu mwy o dai cymdeithasol a fforddiadwy yn flaenoriaeth bwysig i Lywodraeth Cymru.

"Dros y pedair blynedd ddiwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £2 biliwn mewn tai newydd ar hyd Cymru, fel rhan o'n huchelgais i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy erbyn 2021.

Ffynhonnell y llun, SO Modular
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r tai modiwlar wedi ei gwblhau yng Nghastell-nedd

Ychwanegodd: "Ond rydym am adeiladu mwy. Ac rydym am adeiladu'n well. Bydd y buddsoddiad sylweddol yr ydym yn ei wneud mewn cartrefi modiwlar yn ein galluogi i wneud hynny.

"Mae'r dyddiau lle'r oedd cartrefi modiwlar yn cael eu cysylltu gyda thai 'pre-fab' dros dro o safon isel wedi mynd. Mae'r diwydiant nawr yn cynhyrchu tai sy'n ynni-effeithiol o safon uchel y gall tenantiaid fod yn falch ohonyn nhw."