91热爆

Dwy flynedd arall o garchar i stelciwr deintydd

  • Cyhoeddwyd
Thomas Baddeley
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Clywodd y llys yn yr achos gwreiddiol fod gan Thomas Baddeley (uchod) "obsesiwn afiach" gyda Dr Ian Hutchinson

Mae dyn gafodd ei garcharu am stelcian ei gyn-ddeintydd wedi cael ei anfon yn 么l i'r carchar am ddwy flynedd, wythnosau'n unig wedi iddo gael ei ryddhau.

Ym mis Tachwedd y llynedd cafodd Thomas Baddeley, 42 o Fryste, ei ganfod gyda "chit llofruddiaeth" ger cartref Dr Ian Hutchinson yn Sir Fynwy.

Cafwyd hyd i nodiadau yn ei gar oedd yn dangos ei fod wedi bod yn ei stelcian ers pedair blynedd.

Cafodd Baddeley ddedfryd o 16 mis yn y carchar am stelcian a bod ag arfau yn ei feddiant, ond cafodd ei ryddhau ym mis Awst ar 么l treulio hanner y ddedfryd dan glo.

Ddeufis yn ddiweddarach - ar 7 Hydref - fe dorrodd y gorchymyn cadw draw oedd yn ei atal rhag mynd yn agos at Dr Hutchinson, ac fe gafodd ei arestio ger y ddeintyddfa yng Nghas-gwent.

Mae nawr wedi cael dwy flynedd yn y carchar am dorri'r gorchymyn hwnnw.

Torri amodau gorchymyn

Roedd y llys wedi clywed bod "obsesiwn" Baddeley wedi dechrau wedi iddo fod yn anhapus 芒 thriniaeth ddeintyddol a gafodd rhwng 2012 a 2016.

Fe aeth ei gwynion yn "fwyfwy od", ond er i Dr Hutchinson ddisgwyl clywed cwyn swyddogol ganddo, ddaeth hynny fyth.

Ym mis Tachwedd 2019 fodd bynnag cafodd Baddeley ei arestio yn agos i gartref Dr Hutchinson yn gwisgo balaclafa du ac yn cario bag oedd yn cynnwys offer megis bwa croes, cyllell, morthwyl, taflenni plastig, masg sg茂o a nwyddau hylendid.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd bwa croes ymhlith yr arfau gafodd eu canfod yng nghar Thomas Baddeley yn 2019

Ymhlith y dogfennau eraill gafodd eu canfod gan yr heddlu roedd cyfeiriad at "y digwyddiad", ond fe wrthododd Baddeley ddatgelu beth oedd natur y "digwyddiad hwnnw" pan holwyd.

Gan nad oedd Dr Hutchinson yn ymwybodol o'r stelcian ar y pryd, fe wnaeth Baddeley wynebu cyhuddiad llai difrifol o stelcian heb achosi ofn, yn ogystal 芒 dau gyhuddiad o fod ag arf yn ei feddiant.

Ond er i Baddeley gael gorchymyn cadw draw sylweddol i gyd-fynd 芒'i ddedfryd, cafodd ei weld unwaith eto gan swyddog heddlu yn teithio i gyfeiriad deintyddfa Dr Hutchinson ar gefn beic ychydig wythnosau ar 么l cael ei ryddhau o'r carchar.

Roedd Baddeley, oedd wedi'i wahardd rhag mynd i Gas-gwent, yn gwisgo cap, sbectol haul tywyll a mwgwd ac yn ymddangos fel ei fod yn ceisio cuddio'i hun.

Gwyliodd y swyddog tra bod Baddeley yn clymu ei feic i bostyn lamp a cherdded i gyfeiriad y feddygfa, cyn ei arestio.