Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Covid-19: Pryder am ergyd economaidd y clo byr
Mae un o sefydliadau ymchwil mwyaf blaenllaw'r DU wedi amcangyfrif y gallai'r cyfnod clo byr gostio rhwng 拢500-750m i economi Cymru.
Yn ystod y cyfnod clo byr - rhwng 23 Hydref a 9 Tachwedd - bydd siopau sy'n gwerthu nwyddau nad ydyn nhw'n hanfodol yn gorfod cau.
Ddydd Iau dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y byddai archfarchnadoedd yn cael gwybod mai ond "nwyddau hanfodol" y byddan nhw'n cael gwerthu yn ystod y cyfnod clo byr, er mwyn "sicrhau mwy o chwarae teg" i fusnesau annibynnol yn ystod y pythefnos nesaf.
Er bod y National Institute Of Economic and Social Research(NIESR) yn amcangyfrif ergyd ariannol fawr, maen nhw hefyd yn dweud fod rhaid cydbwyso hynny gydag unrhyw fuddion economaidd os fydd y cyfnod clo yn llwyddo i leihau ymlediad y feirws, gan y byddai hynny hefyd yn adfer hyder economaidd.
Diwydiannau'n 'segur'
Mae amcangyfrif NIESR yn cynnwys effaith cau llawer o fusnesau.
Mae dros 100,000 (106,400 yn 2018 yn 么l Ystadegau Cymru) o bobl Cymru yn gweithio yn y diwydiannau lletygarwch - llety a bwyd - tra bod bron 200,000 (190,600 yn 2018 yn 么l Ystadegau Cymru) yn gweithio ym meysydd manwerthu a chyfanwerthu a thrwsio ceir.
Er na fydd pawb yn y diwydiannau hynny yn segur yn ystod y cyfnod clo byr, fe fydd y mwyafrif ohonynt.
Daw'r cyfnod clo byr yma wyth mis wedi'r cyfnod clo cenedlaethol cyntaf i geisio rheoli'r pandemig yng Nghymru.
Ers hynny mae llawer o bobl wedi gweld gostyngiad yn eu cyflogau, ac o ganlyniad i hynny mae llawer mwy o alw am gymorth gan awdurdodau lleol.
Yn ystod chwe mis cyntaf eleni, mae cynghorau Cymru wedi dweud wrth Archwilio Cymru eu bod wedi wynebu costau o tua 拢325m oherwydd y pandemig (拢160m yn sgil colli incwm a 拢165m yn sgil gwariant ychwanegol).
Mae Canghellor y Trysorlys wedi cyhoeddi rhagor o gymorth o dan y cynllun cefnogi swyddi fydd yn disodli'r cynllun ffyrlo presennol pan ddaw i ben ar 31 Hydref.
Mewn cyhoeddiad ddydd Iau, dywedodd Rishi Sunak y byddai'r nifer o oriau sydd angen eu gweithio er mwyn bod yn gymwys am gymorth y Cynllun Cefnogi Swyddi yn gostwng o 33% i 20%.
Bydd cyfraniad cyflogwyr at gyflogau gweithwyr am weddill yr amser oedd heb ei weithio yn gostwng i 5% hefyd.
Yn flaenorol y bwriad oedd fod y llywodraeth a chyflogwyr yn talu traean o gyflog gweithiwr yr un am yr amser oedd heb ei weithio.
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd 拢5m yn ychwanegol ar gael i'r rheini sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol yn ystod yr argyfwng Covid yng Nghymru.
Mae'r cymorth ar gael yn achos busnesau bach sy'n cyflogi hyd at 249 o bobl.
Mae'n rhan o gyhoeddiad 拢10m a wnaed yn gynharach ddydd Gwener, sy'n cynnwys 拢5m i bobl sydd wedi cwympo trwy'r bwlch yng nghynlluniau cymorth cyflog y Trysorlys, a 拢5m i'r Gronfa Cymorth Dewisol sy'n darparu grantiau i'r rhai sydd angen cymorth ariannol brys yn ystod yr argyfwng.
Bydd hefyd yn cynnwys y rhai sy'n aros am daliadau budd-dal a'r rhai mewn cyflogaeth sy'n wynebu caledi.
Wrth gyhoeddi'r cyllid, dywedodd Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans: "Ni allwn amddiffyn pob swydd a phob busnes sy'n cael ei daro gan y pandemig byd-eang hwn, ond rydym yn cymryd pob cam a allwn i gefnogi pobl sydd angen cymorth ariannol brys a dyna pam y bydd 拢5m arall yn cael ei neilltuo i gefnogi ein Cronfa Cymorth Dewisol."
- CYFNOD CLO BYR: Beth mae'n ei olygu i mi?
- CANLLAW: Rhif R: Beth ydy o a pham ei fod yn bwysig
- AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
- IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd