91热爆

Cyfyngiadau teithio o fannau risg uchel yn dod i rym

  • Cyhoeddwyd
Arwydd 'Croeso i Gymru'Ffynhonnell y llun, GEOFF CADDICK

Bydd cyfyngiadau i atal pobl sy'n byw mewn ardaloedd yn y DU sydd 芒 lefelau uchel o coronafeirws rhag teithio i Gymru yn dod i rym nos Wener.

Pwrpas y cyfyngiadau ydy i helpu atal Covid-19 rhag symud o ardaloedd o'r fath i gymunedau lle nad oes cynifer o achosion, meddai Llywodraeth Cymru.

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi dweud y gallai gwaharddiad arfaethedig "achosi rhaniadau a dryswch" ymhlith cymunedau.

Yn y cyfamser mae'r 91热爆 yn deall y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyfnod clo byr a llym mewn ymgais i dorri ar gylchrediad coronafeirws yn ystod y dyddiau nesaf.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ddydd Gwener y bydd y cyfyngiadau lleol sydd eisoes ar waith yn aros am o leiaf wythnos arall.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Teithio - beth ydy'r cyfyngiadau newydd?

Mae teithio i mewn ac allan o 17 ardal yng Nghymru eisoes wedi'i gyfyngu i deithiau angenrheidiol.

Gall pobl ond teithio i lefydd fel Caerdydd neu Abertawe os oes ganddyn nhw esgus rhesymol fel gwaith neu addysg.

Ond mae'n bosibl i bobl sy'n byw mewn ardaloedd sy'n destun cyfyngiadau yn Lloegr deithio i rannau o Gymru sydd ddim o dan glo, fel Powys, Ceredigion ac Ynys M么n.

Byddai cynlluniau Llywodraeth Cymru i bob pwrpas yn cyfyngu teithio i'r lleoedd hynny.

Byddan nhw hefyd yn rhwystro unrhyw un o ardal yng Nghymru lle mae nifer yr achosion yn isel rhag teithio i ardaloedd lle mae Covid yn uchel ac yna dychwelyd i Gymru.

Bydd eithriadau i'r rheol honno - tebyg i'r rhai sydd mewn bodolaeth mewn ardaloedd yng Nghymru sydd eisoes yn wynebu cyfyngiadau.

Defnyddio technoleg

Ddydd Iau dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford y bydd heddluoedd Cymru yn darparu rhagor o swyddogion ar y ffyrdd pan fydd y gwaharddiad ar deithio yn dod i rym.

Ychwanegodd mai dirwyon fyddai'r "opsiwn olaf, nid yr opsiwn cyntaf" a'i bod yn bosib y bydd meddalwedd sy'n darllen pl芒t rhifau ceir yn cael ei ddefnyddio i adnabod pobl sy'n teithio o ardaloedd ble mae cyfraddau uchel o achosion.

'Rhaniad a dryswch'

Ond mewn llythyr at y Mr Drakeford ddydd Iau, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart AS ei fod yn pryderu yngl欧n 芒'r sylwadau am drigolion "yn cadw golwg" ar unrhyw ymwelwyr.

"Rwy'n dal i boeni bod y dull hwn, heb eglurhad llawn, yn debygol o achosi rhaniad a dryswch yng Nghymru," meddai.

"Mae'r ddau ohonom yn gwybod bod Covid-19 wedi effeithio ar gymunedau yng Nghymru yn yr un ffordd 芒 rhai yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

"Mae eich sylw diweddar am drigolion yng ngorllewin Cymru 'yn cadw golwg ar unrhyw ymwelwyr na ddylai fod yn yr ardaloedd hynny' yn enghraifft o'r union sefyllfa y dylem fod yn ceisio ei hosgoi."

Gofynnodd Mr Hart hefyd iddo ymrwymo i roi digon o amser i fusnesau baratoi os bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen gyda'r cyfnod clo newydd.

Dywedodd cyn-Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns AS, bod yna ganllawiau eisoes ar waith ar gyfer yr ardaloedd hynny yn Lloegr sydd yn y categori Haen 3 ac sy'n cynghori pobl i beidio 芒 theithio y tu allan i'w hardal.

"Mae'r ffordd y mae'r Prif Weinidog [yng Nghymru, Mark Drakeford] yn mynd ati i wneud hwn yn ddadl Cymru-Lloegr, yn fath o her ar hyd y ffin, mewn gwirionedd yn achosi rhwygiadau," meddai.

"Rwy'n tynnu sylw at y ffaith bod rhai cymunedau yng Nghymru sydd yn fannau trafferthus, y mae Llywodraeth Cymru wedi dewis yn iawn i beidio 芒 rhannu'r wybodaeth amdanyn nhw oherwydd yr heriau cymunedol.

"Yr hyn sy'n fy mhoeni yw'r d么n y mae'r Prif Weinidog yn ei chymryd. Dyna'r d么n fel arfer y bydden chi'n ei gysylltu gydag eithafiaeth, oherwydd maen nhw'n ceisio gwahaniaethu'n fwriadol.

"Ac mae'n well gen i o lawer inni fod yn gweithredu mewn ffordd lawer mwy cydweithredol, sy'n parchu'r rheolau yng Nghymru ac yn Lloegr."

Bydd Mr Drakeford yn cynnal cynhadledd i'r wasg am 12:15 ddydd Gwener i amlinellu camau diweddaraf y llywodraeth i geisio rheoli'r haint.