Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhoi'r gorau i gynllun safle tollau lor茂au ym Mona
Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi'r gorau i gynllun i ddatblygu canolfan dollau i lor茂au ger safle Mona ar Ynys M么n.
Clywodd cynghorwyr yr ynys am y tro pedol wrth iddyn nhw bleidleisio dros benderfyniad cynharach i geisio atal y fath ddatblygiad.
Roedd y penderfyniad hwnnw yn gwrthod cais i addasu termau prydles ar dir sydd yn eiddo i'r cyngor ar Yst芒d Ddiwydiannol Mona.
Roedd y gr诺p gwrth-bleidiol mwyaf ar y cyngor wedi ceisio cyfeirio penderfyniad y pwyllgor gwaith y cyngor yn 么l i'w ystyried eto.
Ond cafodd y cais i wneud hynny ei wrthod gan gynghorwyr ddydd Mercher, wrth i swyddogion gadarnhau fod Adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi rhoi'r gorau i'w cynllun i ddefnyddio'r tir ym Mona o achos diffyg cefnogaeth.
Mae angen safle yn Ynys M么n i ganiat谩u ar unrhyw wiriadau tollau ychwanegol wrth i gerbydau gyrraedd a gadael rhwng porthladd Caergybi a Gweriniaeth Iwerddon.
Mae cefnogwyr cynlluniau Mona yn honni y byddai wedi darparu incwm i Gymdeithas Amaethyddol Ynys M么n - sy'n prydlesu'r tir am rent bychan fel cyfleuster parcio a theithio ar gyfer y sioe flynyddol yno.
Ond dadleuodd pwyllgor gwaith y cyngor y byddai diwygio'r brydles er mwyn dal hyd at 100 o lor茂au wedi ei atal rhag defnydio'r safle ar gyfer y defnydd bwriadol.
Byddai hefyd yn effeithio ar Mona, Gwalchmai a Rhostrehwfa wrth i lor茂au gael eu gorfodi oddi ar yr A55 a thrwy'r pentrefi ar yr A5 i'r ganolfan dollau.
Dywed y cyngor hefyd fod safleoedd amgen a "mwy addas" ar hyd yr A55 wedi'u hargymell - gydag o leiaf un ar gyrion Caergybi.
Wrth gyfarfod ddydd Mawrth, clywodd Pwyllgor Craffu Corfforaethol y cyngor fod Cymdeithas Amaethyddol Ynys M么n yn wynebu "trychineb ariannol" yn dilyn canslo'r sioeau haf a gaeaf oherwydd Covid-19.
"Mae'r sioe hon yn denu hyd at 60,000 dros ddau ddiwrnod, ond mae [y gymdeithas] bellach wedi cael ei gorfodi i ddiswyddo ei holl staff wrth i'r refeniw sychu," meddai'r Cynghorydd Peter Rogers.
"Mae'r sioe bellach yn cael ei gweinyddu gan wirfoddolwyr yn unig, roedd yn ymddangos mai prydlesu'r safle hon oedd unig achubiaeth y sioe tan benderfyniad y cyngor i beidio 芒 chaniat谩u ei is-osod."
Disgrifiodd y Cynghorydd Ken Hughes benderfyniad pwyllgor gwaith fel un "brysiog a gwleidyddol", gan nodi y byddai'r cam wedi cynhyrchu o leiaf 拢250,000 dros bedair blynedd a'i fod yn "gyfle a gollwyd."
Roedd arweinydd gr诺p Annibynwyr M么n, y Cynghorydd Bryan Owen, o'r farn y gallai unrhyw effaith ar gymunedau lleol fod wedi ei oresgyn trwy reoli traffig.
"Mae gen i bob hyder y gallai swyddogion fod wedi llunio system i osgoi lor茂au rhag teithio trwy Gwalchmai, er enghraifft," ychwanegodd y Cynghorydd Owen.
"Nid wyf yn credu bod ymgynghoriad llawn wedi bod. Beth am eistedd i lawr a thrafod gyda phawb sy'n gysylltiedig?"
Ond roedd aelodau'r cyngor yn unedig yn eu cefnogaeth i benderfyniad y pwyllgor gwaith, gyda chyfreithiwr y cyngor hefyd yn nodi y byddai caniat谩u i'r safle gael ei defnyddio trwy gydol y flwyddyn gan yr Adran Gyllid a Thollau a DEFRA yn torri amodau am ddefnydd y safle.
Pleidleisiodd aelodau'r Pwyllgor Craffu Corfforaethol i beidio 芒 chyfeirio'r penderfyniad yn 么l at y pwyllgor gwaith, gyda phum pleidlais o blaid a dwy yn erbyn.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr, Dylan Williams, wrth y cyfarfod fod Adran Cyllid a Thollau EM wedi cadarnhau nad oedd Mona "bellach yn rhan o'r drafodaeth yn dilyn adborth lleol" ond nad oes unrhyw safle wedi'i ddewis hyd yma.