Gwrthod cais am faes parcio lorïau ym Môn i ddelio â Brexit
- Cyhoeddwyd
Mae cais i newid amodau lês er mwyn troi maes parcio ger Sioe Môn yn adnodd ar gyfer lorïau er mwyn delio gyda goblygiadau Brexit wedi cael ei wrthod gan gynghorwyr ar yr ynys.
Bydd angen tir er mwyn gwneud gwiriadau tollau ar lorïau sy'n cyrraedd porthladd Caergybi o Weriniaeth Iwerddon.
Ond fe wnaeth bwrdd gweithredol Cyngor Ynys Môn wrthod y cais gan Gymdeithas Amaethyddol Môn i ddefnyddio'u maes parcio a theithio nhw ar Stad Ddiwydiannol Mona.
Mae'r tir yn eiddo i'r cyngor ac ar brydles gan y Gymdeithas.
Effaith ar bentrefi cyfagos
Dywedodd arweinyddiaeth y cyngor bod y cais yn "gwbl amhriodol" ac y byddai'n arwain at "draffig rownd y cloc" i gymunedau ger maes y Sioe, a'r stad ddiwydiannol.
Porthladd Caergybi yw'r ail borthladd prysuraf i deithwyr yn y DU, gyda dros ddwy filiwn o bobl yn teithio rhwng Cymru ac Iwerddon bob blwyddyn.
Mae'r porthladd hefyd yn delio gyda 400,000 o lorïau nwyddau sy'n croesi Môr Iwerddon yn flynyddol.
"Mae'r cais yn amlwg yn groes i amodau'r lês," meddai'r cynghorydd Bob Parry, sy'n gofalu am bortffolio priffyrdd yr ynys.
"Ond fy mhryder i yw'r effaith ar bentref Gwalchmai a'r groesfan yn Rhostrehwfa, allai weld cannoedd o lorïau bob dydd wrth iddyn nhw fynd ar, ac oddi ar, yr A55."
Fe wnaeth aelod arall o'r bwrdd gweithredol, Carwyn Jones, gyhuddo Llywodraeth y DU o fod yn ddi-drefn wrth iddyn nhw agosáu at ddiwedd y cyfnod pontio i adael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Rhagfyr.
"Fedran nhw ddim eistedd yn Llundain ac edrych ar Google Maps, a fedrwn ni ddim cael ein gorfodi i dderbyn safle sydd ddim yn briodol," meddai.
'Hollol hurt'
Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams ei fod yn "anobeithiol".
"'Da ni bron ym mis Hydref rŵan, pam nad ydyn nhw wedi trafod hyn hefo ni a gofyn ein barn? Mae'n hollol hurt."
Ond yn ôl arweinydd grŵp Annibynwyr Môn, mae'n benderfyniad gwael.
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Owen: "Maen nhw'n gwybod bod y sioe angen pres, a'r cyngor ddim yn y sefyllfa ariannol orau, felly pam ddim eistedd i lawr hefo trefnwyr y sioe a thrafod rhannu'r refeniw 50/50?"
Ychwanegodd: "'Da chi ond yn son am draffig trymach am tua awr ar ôl i'r fferi ddod mewn, yn sicr nid 24 awr y dydd."
Dywedodd y bwrdd fod safleoedd mwy addas wedi cael eu hadnabod ar gyfer maes parcio lorïau, gan gynnwys un ar gyrion Caergybi ei hun.
Roedd Cymdeithas Amaethyddol Môn o blaid y cynllun i leoli'r parc lorïau ar y safle gan y byddai'n dod ag arian i'w coffrau.
Dywedodd Dr Edward Thomas Jones, Trysorydd y gymdeithas: "Yn anffodus oherwydd gorfod canslo'r sioe y flwyddyn yma 'da ni mewn trafferthion ariannol ac mi fasa defnyddio'r safle yma i'r loriau wedi bod yn help ariannol i ni.
"Ond hefyd 'da ni yn deall y pryder oedd gan y cynghorwyr ac yn derbyn y penderfyniad sydd wedi cael ei wneud.
"Be' oedd yn bwysig oedd bod yr opsiwn yn cael ei drafod a bod y penderfyniad yn un democrataidd, a dyna sy' wedi digwydd. Rŵan 'da ni'n edrych ar opsiynau eraill ar gyfer y safle ac edrych ymlaen i ddatblygu'r gymdeithas."
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi: "Mae'r Adran Gyllid a Thollau yn gweithio'n agos ar draws y llywodraeth, gyda Llywodraeth Cymru a gyda phorthladdoedd i ddeall gofynion a gweithredu newidiadau seilwaith yn unol â'r gefnogaeth a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU.
"Ochr yn ochr ag ymgysylltu â phorthladdoedd i ddeall pa seilwaith gall fod ei angen, rydym yn adolygu nifer o safleoedd posib sy'n agos at borthladdoedd, ac yn agos at rwydweithiau ffyrdd strategol, gan gynnwys opsiynau i gefnogi Caergybi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2019