Clwstwr o achosion Covid-19 yn Ysbyty Brenhinol Gwent
- Cyhoeddwyd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cadarnhau bod eu bod yn delio 芒 chlwstwr o achosion coronafeirws yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd sydd wedi effeithio ar dair ward oedolion.
Dywed y bwrdd fod 14 o gleifion wedi'u heffeithio ar hyn o bryd ond dim un aelod o staff.
Ychwanegodd llefarydd na fu angen symud yr un claf o'r wardiau dan sylw i uned gofal dwys.
Mae camau rheoli haint yn cael eu gweithredu i leihau lledaeniad y feirws.
Mae hynny'n cynnwys ailgyflwyno'r polisi i atal ymweliadau 芒'r ysbyty, heb law am rai sydd wedi'u cytuno i gleifion wardiau mamolaeth a phediatrig.
Mae'r bwrdd yn cydweithio'r agos gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru ac ymgynghorwyr clefydau heintus mewn ymateb i'r clwstwr, ac yn gofyn i unrhyw un 芒 symptomau Covid-19 i osgoi ymweld ag ysbytai'r rhanbarth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2020